麻豆官网首页入口

Rhaid gwella staffio uned iechyd meddwl Hergest - archwilwyr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymateb yn bositif i'r adroddiad am Uned Hergest, medd Rhys Jones o AGIC

Mae angen gwella lefelau staffio mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd, yn 么l archwilwyr.

Mae Uned Hergest yn darparu gofal seiciatrig dwys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Fe gynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) archwiliad dirybudd am dridiau ym mis Mai.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod wedi'u calonogi gan y cynnydd sy'n cael ei nodi yn yr adroddiad, ond yn cydnabod bod "llawer mwy i'w wneud".

Beth ydy cefndir yr uned?

Mae'r uned wedi bod dan y chwyddwydr ers i adroddiad mewnol beirniadol yn 2013 ganfod bod diwylliant o fwlio a mor芒l isel yn Hergest yn golygu nad oedd diogelwch cleifion yn cael sylw digonol.

Cafodd Adroddiad Holden ei gyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn 2021, gyda'r bwrdd iechyd bryd hynny'n dweud bod y berthynas rhwng staff wedi gwella.

Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn wynebu erlyniad gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dilyn marwolaeth claf yn Hergest ym mis Ebrill 2021.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Uned Hergest ar safle Ysbyty Gwynedd, Bangor

Mae adroddiad AGIC, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener, yn dweud nad oedd unrhyw faterion angen cynllun gwella ar unwaith, ond mae'n rhestru 26 maes yr oedd angen mynd i'r afael 芒 nhw gyda chynllun pwrpasol dros amser.

Mae'n nodi bod "gwaith t卯m cryf" gydag arolygwyr wedi eu "sicrhau" bod iechyd a diogelwch yn cael ei gynnal.

Er hynny, mae'n canfod nad oedd trefniadau cyflenwi meddygon ymgynghorol dros dro yn gynaliadwy a'u bod yn "effeithio ar ansawdd y gofal".

Dywedodd staff hefyd fod diffyg seicolegydd cleifion mewnol yn "bryder parhaus", er bod yr adroddiad yn nodi bod proses recriwtio ar waith.

Ar draws y dair ward, roedd 'na 11 swydd nyrsio yn wag adeg yr arolygiad, gyda swyddi gwag eraill mewn therapi galwedigaethol.

Mae adroddiad AGIC yn dweud bod yn rhaid i'r bwrdd iechyd "gymryd mesurau cadarn" i recriwtio i swyddi meddygon ymgynghorol a seicoleg a "chanolbwyntio" ar recriwtio i rolau nyrsio parhaol.

Ar y cyfan, roedd yr uned yn cael ei hystyried yn ddiogel gydag asesiadau risg crogi wedi eu diweddaru a thorwyr rhwymau wedi'u storio'n briodol i'w defnyddio pe bai argyfwng hunan-niweidio.

Fodd bynnag, roedd dwy gadair a ystyriwyd yn risg crogi yn dal yn yr uned.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddo "gael gwared ar unrhyw ddodrefn, gosodiadau neu ffitiadau yr ystyrir eu bod yn risg crogi er mwyn sicrhau diogelwch cleifion".

'Urddas rhai yn cael ei gyfaddawdu'

Roedd prinder staff hefyd yn broblem wrth ddarparu gwasanaethau therapiwtig i gleifion, yn 么l archwilwyr.

Dywed yr adroddiad mai anaml yr oedd yr ystafell weithgareddau yn cael ei defnyddio gan nad oedd "unrhyw staff pwrpasol ar gael" i gefnogi a goruchwylio.

"Cafodd offer y gampfa eu cau hefyd am yr un rheswm," medd yr adroddiad, cyn nodi fod offerynnau cerdd wedi eu torri.

Mae'n dweud bod angen i'r bwrdd iechyd ddatblygu amserlen gynhwysfawr o weithgareddau therapiwtig i gleifion, gan gynnwys gyda'r nos ac ar benwythnosau, ac i sicrhau bod cleifion yn gallu defnyddio offer a chyfleusterau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Rydyn ni'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud,' medd Teresa Owen

Roedd cleifion yn cael eu trin ag urddas a pharch, medd yr adroddiad.

Roedd gan gleifion ar yr Uned Gofal Dwys Seiciatrig eu hystafelloedd eu hunain, ond roedd preifatrwydd ac urddas cleifion yn cael ei "gyfaddawdu" i rai ar ward y merched a ward y dynion oherwydd bod nifer o welyau yn yr un ystafell.

Meysydd eraill i'w gwella oedd hyfforddi staff, atal dod ag eitemau cyfyngedig i'r uned, sicrhau bod adborth cleifion yn arwain at weithredu, gweinyddu meddyginiaethau'n gyfreithlon a gwella'r ardd.

'Mwy i'w wneud'

Dywedodd Teresa Owen o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y bwrdd "wedi ein calonogi gan y cynnydd a nodir", ac yn "falch o weld staff yn cael eu cydnabod am drin cleifion ag urddas a pharch".

"Yr adborth gan gleifion oedd bod y rhai oedd yn gofalu amdanynt yn gwrtais, yn gefnogol ac yn barod i helpu a dywedodd y rhan fwyaf o gleifion a holwyd wrth yr arolygwyr fod y gwasanaeth a ddarperir yn 'dda' neu'n 'dda iawn'.

"Canfu AGIC fod anghenion cleifion unigol yn cael eu hadlewyrchu mewn rhaglenni gofal personol a nododd welliannau mewn diwylliant, mor芒l ac arferion gwaith.

"Rydyn ni'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud. Fel rhan o'n hymateb i Fesurau Arbennig, mae gennym raglen gynhwysfawr o waith ar y gweill i wneud y cynnydd parhaus sydd ei angen yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac rydym i gyd yn canolbwyntio'n fawr ar hyn."