麻豆官网首页入口

Gweithwyr dur yn barod i bleidleisio dros streicio

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr dur Tata
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd cannoedd yn y cyfarfod cyhoeddus nos Iau

Mae gweithwyr o undeb Community wedi dweud eu bod yn barod i bleidleisio dros weithredu'n ddiwydiannol a gwneud "beth bynnag sydd ei angen" os na fydd cwmni Tata yn gwrando ar eu pryderon.

Roedd cannoedd o weithwyr mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhort Talbot nos Iau i drafod dyfodol swyddi yng ngweithfeydd dur mwyaf y Deyrnas Unedig.

Dyw cwmni Tata Steel ddim wedi cyhoeddi eu cynlluniau, ond mae undebau yn credu eu bod yn ystyried dod 芒 chynhyrchu ffwrnais chwyth i ben ar y safle erbyn Mawrth 2024.

Mae Tata wedi ymroddi i fuddsoddi 拢1.25bn er mwyn datgarboneiddio eu safleoedd ym Mhrydain - ffigwr sy'n cynnwys grant gwerth 拢500m gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: "Pryd bynnag y mae gyda ni gyhoeddiad o bwys i'w rannu, rydym yn gwneud bob ymdrech i roi gwybod i ein gweithwyr a'u cynrychiolwyr yn gyntaf."

Fe aeth y gweithwyr i'r cyfarfod ym Mhort Talbot nos Iau ar 么l i'w shifftiau yn y gweithfeydd cyfagos ddod i ben.

Roedd gweithwyr o weithfeydd tun Trostre hefyd yn bresennol, ac mae disgwyl i weithwyr safle Tata yn Llanwern gynnal cyfarfod tebyg nos Wener.

'Barod am y frwydr'

Wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Radio Wales dywedodd Alun Davies o undeb Community, sy'n cynrychioli gweithwyr dur, bod yr undeb yn barod i bleidleisio dros weithredu'n ddiwydiannol.

"Os nad yw'r cwmni am wrando arnom ni, fe wnawn ni bopeth mae'n ei gymryd, gan gynnwys gweithredu'n ddiwydiannol."

Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio fod y cwmni yn "dechrau gwrando" ar y gweithwyr.

"Neithiwr fe wnaeth yr uwch swyddogion drafod gyda phawb gan eu bod wedi cael digon o bobl yn cael eu gadael yn y tywyllwch."

Yn dilyn y cyfarfod nos Iau, dywedodd Alun Davies bod y staff yn "barod am y frwydr, sy'n gr锚t i'w weld".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynrychiolwyr o undebau Community, Unite a'r GMB oedd yn arwain y cyfarfod

"Mae'r gweithlu yma wedi cael ei tharo dro ar 么l tro dros y blynyddoedd diwethaf... ond maen nhw dal yn barod, ac maen nhw'n barod i frwydro.

"Mae 'na gymaint yma, ac i weld y fath niferoedd - mae hynny wir yn codi calon rhywun."

Ychwanegodd Mr Davies bod "y menig bant nawr" a "bod rhaid i ni amddiffyn y diwydiant yma".

Ar y cyfan mae'r undebau yn cytuno gyda nod Tata Steel i symud at ddyfodol ddi-garbon.

Ond mae bwriad y cwmni i gael gwared a'r ffwrneisi chwyth a defnyddio rhai trydan yn unig yn achos pryder oherwydd y swyddi all gael eu colli yn sgil newid o'r fath.

Ddydd Mercher, roedd disgwyl y byddai Tata yn cadarnhau cynlluniau oedd wedi cael eu crybwyll i'r undebau, ond yn dilyn cyfarfod o fwrdd y cwmni yn India, ond fe gafodd y cyhoeddiad i ganslo.

Mae cynrychiolydd undeb Unite yn y safle ym Mhort Talbot wedi cyhuddo'r cwmni o ddangos diffyg parch llwyr tuag at eu gweithwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel nad ydi'r cwmni "mewn sefyllfa i allu gwneud cyhoeddiad ffurfiol ynghylch unrhyw gynigion i bontio at ddyfodol ddi-garbon i Tata Steel UK".

Ychwanegodd mai'r gobaith yw dechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda gweithwyr "yn fuan".