麻豆官网首页入口

Gemau rhagbrofol Euro 2024: Cymru 1-1 Twrci

  • Cyhoeddwyd
Neco Williams, Ethan Ampadu a Ben DaviesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neco Williams, Ethan Ampadu a Ben Davies yn cymeradwyo cefnogwyr ar ddiwedd y g锚m

Mae Cymru wedi methu 芒 sicrhau lle uniongyrchol yn rowndiau terfynol Euro 2024 yn dilyn g锚m gyfartal yn erbyn Twrci yng ng锚m ragbrofol olaf yr ymgyrch.

Ond y gwirionedd yw na fyddai buddugoliaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi bod yn ddigon beth bynnag gan fod Croatia wedi trechu Armenia i orffen yn ail i Dwrci ar frig Gr诺p D.

Ar 么l darfod yn drydydd yn y gr诺p bydd yn rhaid i Gymru gystadlu yn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Bydd Cymru'n cael gwybod ddydd Iau, am 11:00 pan ddaw'r enwau o'r het pwy fydd eu gwrthwynebwyr - Y Ffindir, Wcr谩in neu Wlad yr I芒.

Er mwyn sicrhau'r ail safle eu hunain roedd yn rhaid i d卯m Rob Page drechu Twrci a gobeithio y byddai Croatia'n gollwng pwyntiau yn eu g锚m gartref yn Zagreb yn erbyn Armenia.

Os gafodd Cymru'n dechrau gwaethaf posib i'r g锚m gyfartal yn erbyn Armenia brynhawn Sadwrn trwy ildio g么l gynnar, fe ddigwyddodd y gwrthwyneb yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.

Yn y seithfed munud, fe basiodd Jordan James y b锚l i Neco Williams a'i groesodd o'r chwith tu mewn i bostyn pellaf y rhwyd a doedd dim gobaith i'r golwr, Ugurcan Cakir, ei hatal.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neco Williams ar 么l sgorio i roi Cymru ar y blaen

Roedd hi'n hanner da i Gymru, er i Dwrci sicrhau mwy o feddiant ym munudau olaf yr hanner cyntaf, ond er sawl ymdrech doedd dim rhagor o goliau cyn yr egwyl.

Fe gafodd Brennan Johnson garden felen am ddadlau gydag un o chwaraewyr Twrci wedi un o dair ap锚l aflwyddiannus am gic gosb, ac roedd yna achos cryf dros yr ap锚l yn achos trosedd yn ei erbyn yntau.

Ond roedd y ffaith bod Croatia, fel Cymru, ar y blaen yn Zagreb o g么l i ddim, yn tanlinellu i ba raddau roedd ffawd Cymru allan o'u dwylo eu hunain.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Samet Akaydin yn taclo Brennan Johnson

Roedd yna symudiad slic ar ddechrau'r ail hanner pan fu'n rhaid atal ergydiad gan Johnson, ac roedd yna ap锚l aflwyddiannus arall am gic o'r smotyn wedi tacl ar Harry Wilson.

Doedd y gwrthwynebwyr heb boeni Danny Ward lawer yng ng么l Cymru ond roedd angen ymateb chwim i atal peniad Samet Akaydin wedi bron i awr ar y cloc, ac yn raddol roedd rhaid i Gymru wneud mwy a mwy o waith amddiffynnol.

A phan apeliodd Twrci, yn y 69fed munud, am gic gosb fe gytunwyd wedi golwg ar y VAR bod capten Cymru, Ben Davies, wedi cyflawni trosedd ar Kenan Yildiz.

Fe rwydodd Yusuf Yazici yn rhwydd o'r smotyn gan ddod 芒'r g锚m yn gyfartal.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nathan Broadhead a Salih Ozcan yn ceisio cael meddiant o'r b锚l

Roedd rhwystredigaeth i'w weld ar wynebau rhai o chwaraewyr Cymru ond doedd eu chwarae ddim cystal yn yr ail hanner ac roedd Twrci'n amlygu pam mai nhw oedd y t卯m cyntaf i sicrhau lle otomatig yn y rowndiau terfynol.

Fe darodd Johnson bas gan David Brooks yn erbyn y postyn ac i mewn i'r rhwyd ond roedd yn camsefyll o drwch blewyn a doedd y g么l ddim yn cyfri.

Daeth Kieffer Moore i'r maes gyda chwe munud ar y cloc ond er ymdrechion gorau Cymru cyn y chwiban olaf g么l yr un oedd canlyniad terfynol ymgyrch ddigon anghyson.

1-0 oedd y sg么r yn Zagreb a'r g么l honno'n ddigon i gadw Croatia yn yr ail safle ac ar eu ffordd i'r rowndiau terfynol.