T芒n meithrinfa Gymraeg Casnewydd yn 'dorcalonnus' i rieni a staff

Ffynhonnell y llun, Darren Thomas

Disgrifiad o'r llun, Ni chafodd unrhyw un ei anfau yn y digwyddiad ond dywedodd Meithrinfa Wibli Wobli fod yr adeilad wedi llosgi'n llwyr

Mae meithrinfa Gymraeg yng Nghasnewydd wedi dweud bod t芒n mawr yn yr adeilad yn "hollol dorcalonnus".

Gydol y nos mae criwiau t芒n wedi bod yn ceisio diffodd y t芒n ar stad ddiwydiannol Wern.

Bu'n rhaid i'r rhai oedd ym mar Tiny Rebel drws nesaf yn ardal T欧-du (Rogerstone) adael y safle am tua 21:00 nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i fflamau gael eu gweld yn dod o do warws gerllaw.

Ar Facebook dywedodd Meithrinfa Wibli Wobli bod eu hadeilad wedi llosgi'n llwyr.

I osgoi neges Facebook

Mae鈥檔 flin gennym ein bod yn cael trafferth dangos y post hwn.

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook

Dywedodd y cwmni nad oedd unrhyw un wedi cael eu hanafu, ond nad oedd modd agor ddydd Llun.

Mewn datganiad pellach, rhannodd y cwmni lun o'r hyn sydd ar 么l o'r feithrinfa, gan ddweud bod y t芒n yn "hollol dorcalonnus i'n holl staff, plant a rhieni".

Ychwanegodd y datganiad bod y feithrinfa yn gobeithio sicrhau lleoliad dros dro i gynnig gofal plant cyn gynted 芒 phosib.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Natasha Baker bod y fflamau'n "enfawr"

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd perchennog y feithrinfa, Natasha Baker bod "dim byd ar 么l" yn dilyn y t芒n.

"Mae'n hollol condemned," meddai.

"Roedd fy ng诺r i wedi gweld ar y camer芒u fod y t芒n wedi dechrau yn yr adeilad felly mi es i yn syth i'r safle. Roedd y fflamau yn enfawr.

"Nawr dwi'n chwilio am adeilad arall i symud pawb achos mae lot o staff, gyda cymorthyddion a lot o rieni a phlant felly 'da ni wedi bod yn siarad efo'r eglwys drws nesa' i weld os allan ni wneud rhywbeth dros dro."

Agorodd Meithrinfa Wibli Wobli yn Ebrill 2023 fel y feithrinfa ddwyieithog gyntaf yn yr ardal.

Ychwanegodd Ms Baker: "Doedd 'na dim byd yn bodoli yn y Gymraeg heblaw am gylchoedd meithrin.

"Mae mwy o rieni wedi meddwl am ddefnyddio addysg Gymraeg oherwydd maen nhw'n hoffi'r feithrinfa ac maen nhw'n gallu gweld y benefits am y Gymraeg, felly mae yn gwneud gwahaniaeth."

Ffynhonnell y llun, Marie Groucott

Dywedodd Marie a Lewis Groucott, sy'n byw ger y stad ac sy'n gweithio mewn swyddfa yn yr adeilad drws nesa i'r feithrinfa, bod y fflamau yn "enfawr".

"Clywais i s诺n yr hyn o'n i'n meddwl oedd yn d芒n gwyllt, ond do'n i methu gweld dim i ddechrau," meddai Marie.

"Roedd y s诺n yn codi ac yna ar 么l sb茂o o gefn y t欧 welais i'r fflamau ac mi wnes i sgrechian. Ro'n i'n meddwl taw adeilad ni oedd e, a chysylltais 芒'r gwasanaeth t芒n yn syth.

"Erbyn chwarter wedi naw roedd y fflamau dros ddwywaith maint yr adeilad."

Ychwanegodd Mike Taylor, sy'n weinidog yng Nghapel Faith sydd gyferbyn 芒'r feithrinfa, ei bod hi'n "syfrdanol" pa mor gyflym wnaeth yr adeilad losgi, ac nad oedd "erioed wedi gweld t芒n fel yna".

Yn 么l y gwasanaeth t芒n, roedd dros 75 o ddiffoddwyr a swyddogion wedi eu galw i'r digwyddiad ar un adeg.

Mae'r digwyddiad dan reolaeth bellach, ond fe fydd criwiau'n parhau ar y safle am y tro.

Bydd ymchwiliad ar y cyd 芒'r heddlu yn dechrau, meddai'r gwasanaeth t芒n.

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn cynorthwyo Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru drwy sicrhau bod eu cerbydau yn gallu cyrraedd y safle a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran Bragdy Tiny Rebel ar eu tudalen Instagram eu bod yn diolch yn ofnadwy i'r gweithwyr wnaeth hebrwng cwsmeriaid allan o'r bar nos Sul a'u bod yn gwerthfawrogi'r holl negeseuon cefnogol.

"Oherwydd y t芒n rydyn ni wedi gorfod gohirio archebion ar-lein am y tro, a byddwn mewn cysylltiad 芒 phobl sydd eisoes wedi gwneud archebion i'ch diweddaru yngl欧n 芒'r sefyllfa."

Ychwanegodd y datganiad nad oes difrod i'w bragdy, a'u bod yn disgwyl agor fel yr arfer ddydd Mawrth.