麻豆官网首页入口

Gostyngiad o 6% ym mhrisiau tai yng Nghymru yn 2023

  • Cyhoeddwyd
Tai ar werth ym MhontypriddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y gostyngiad o 6% mewn prisiau'r llynedd yw'r gostyngiad blynyddol mwyaf ers 2009

Fe wnaeth prisiau tai cyfartalog yng Nghymru ostwng bob tri mis y llynedd, yn 么l cymdeithas adeiladu'r Principality.

Roedd y pris cyfartalog ychydig dros 拢234,000 ddiwedd 2023 - gostyngiad o 6% o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Fe syrthiodd prisiau tai mewn 18 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gyda'r cwymp mwyaf ym Merthyr Tudful.

Dywedodd pennaeth dosbarthu'r Principality fod y farchnad dai wedi bod drwy gyfnod anodd, a'r disgwyl yw mai parhau i ostwng bydd prisiau eleni.

Daw'r ffigyrau ar ddiwedd blwyddyn dymhestlog i'r economi, gyda phenderfyniadau ar forgeisi a chyfraddau llog wedi dylanwadu yn fawr ar brisiau.

Dros Gymru roedd pris cyfartalog t欧 yn nhri mis olaf y llynedd 拢15,000 yn is o'i gymharu 芒'r un cyfnod yn 2022 - a dyma'r gostyngiad blynyddol mwyaf ers 2009.

Er hynny mae prisiau yn parhau i fod 25% yn uwch nag yr oedden nhw bum mlynedd yn 么l.

2.2% oedd y cynnydd o'i gymharu 芒 thrydydd chwarter y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pris cyfartalog t欧 yng Nghaerdydd bellach wedi codi i 拢308,648

Merthyr Tudful oedd yr awdurdod lleol a welodd y gostyngiad mwyaf, wrth i brisiau syrthio dros 21% o'i gymharu芒'r un cyfnod yn 2022.

Fe syrthiodd prisiau dros 10% yn Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Blaenau Gwent a Thorfaen hefyd.

Ond i'r pegwn arall roedd prisiau yng Nghaerdydd a Chaerffili yn uwch nag erioed yn yr un cyfnod, gyda phrisiau cyfartalog yn yr ardaloedd hynny ar ddiwedd 2023 yn codi i 拢308,648 a 拢207,904.

Yn 么l ffigyrau'r Principality, roedd gostyngiad o 20% hefyd yn y nifer yr adeiladau a gafodd eu gwerthu yn nhri mis ola'r llynedd (9,700) o'i gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol.

Ychwanegodd pennaeth dosbarthu'r Principality, Shaun Middleton: "Er y rhagolygon fod prisiau am barhau i ostwng yn 2024 cyn i ni weld adferiad yn 2025 - mae 'na arwyddion cadarnhaol hefyd.

"Mae lefelau chwyddiant yn syrthio ac mae disgwyl bod cyfraddau llog wedi cyrraedd brig y don cyn i ni weld gostyngiad eleni... Mae'r farchnad morgeisi eisoes wedi dechrau addasu, ac efallai byddwn ni'n gweld gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau hefyd."

Pynciau cysylltiedig