麻豆官网首页入口

Toriadau cyllideb 'i effeithio ar bobl fregus fwyaf'

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaethau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ofnau y bydd y toriadau yn amharu ar bob math o wasanaethau cyhoeddus

Mae Aelodau o'r Senedd yn pryderu y bydd toriadau cyllideb yn effeithio fwyaf ar bobl fregus.

Mae pwyllgor o Aelodau'r Senedd wedi dweud y bydd diogelu gwasanaethau rheng flaen yng nghynlluniau cyllideb Llywodraeth Cymru yn dod "ar draul mesurau hirdymor i leihau tlodi".

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru doriadau sylweddol o 拢600m i'w chyllideb ym mis Rhagfyr er mwyn amddiffyn y GIG a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod arian i wasanaethau rheng flaen, fel gofal cymdeithasol, yn annhebygol o fod yn ddigon "i gadw gwasanaethau ar lefel dderbyniol".

Dywed Llywodraeth Cymru bod rhaid gwneud penderfyniadau "eithriadol o anodd" wrth wynebu'r "sefyllfa ariannol fwyaf llwm a phoenus ers dechrau datganoli".

Dywed Pwyllgor Cyllid y Senedd bod ganddynt "bryderon difrifol" y bydd yr arian sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol a gofal cymdeithasol yn ddigonol.

Dywedon nhw fod y pwyllgor yn "pryderu ei bod yn ymddangos nad oes cynllun ar waith i fonitro effaith" y gwariant ychwanegol ar y GIG a Thrafnidiaeth Cymru."

Mae'r cynlluniau i gynyddu'r gwariant ar GIG, yn bryder i'r pwyllgor hefyd, gyda'r adroddiad yn dweud: "heb y cynnydd cyfatebol i'r sector gofal cymdeithasol" gallai galw cynyddol ar ofal cymdeithasol heb fwy o gyllid greu "pwysau sgil-weithredol" i'r GIG.

Effaith 'anghymesur'

Yn 么l Peredur Owen Griffiths AS, o Blaid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid: "Rydym yn cydnabod y sefyllfa ariannol anodd y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu, ond rydym yn pryderu am eu honiadau y bydd y Gyllideb hon yn diogelu gwasanaethau rheng flaen yng Nghymru.

"Mae penderfyniadau i beidio ag ymestyn prydau ysgol am ddim a thorri'r gwariant ar ofal plant hefyd yn peri pryder ac yn rhywbeth a fydd yn effeithio'n anghymesur ar y rhai mwyaf bregus yng Nghymru.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar y penderfyniadau hyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddisgrifiodd Martha Thomas y sefyllfa fel un "anodd".

Wrth holi rhieni ym Mangor dywedodd sawl un bod cost gofal plant yn achosi straen ariannol.

Dywedodd Martha Thomas o Bontllyfni ei bod hi'n "anodd".

"Ma' gynnon ni feithrinfa agos sy'n gallu cymryd nhw llawn amser a ma'r hyna' yn cael 30 awr [o ofal am ddim], so ma' hynny yn helpu lot," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cael 30 awr o ofal plant am ddim yn "help mawr" i Caryl Owen

Fe ddywedodd Caryl Owen bod costau gofal plant yn "anferthol".

Er hyn dywedodd bod y "30 awr am ddim yn help mawr i ni."

I Nathan McCarthy, mae "costau gofal plant yn costio mwy na'n morgais".

"Mae'n mynd at childminder bedair gwaith yr wythnos," dywedodd. "Mae'n costio ffortiwn i ni."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Nathan McCarthy bod costau gofal plant yn "costio mwy na'n morgais"

Ym mis Rhagfyr dywedodd swyddogion eu bod yn gobeithio gallu lleihau costau mewn sawl maes - gan gynnwys prydau ysgol am ddim, prentisiaethau, gofal plant ac addysg bellach - oherwydd y galw llai na'r disgwyl neu am fod angen llai o arian.

Er hynny mae'r Pwyllgor Cyllid yn dadlau bod ymestyn y cymhwyster am brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgolion uwchradd yn "rhan bwysig o fynd i'r afael 芒 phroblemau tymor hir tlodi" a byddai ond yn "gost gymharol gymedrol".

Mae'n galw ar y Gweinidog Cyllid i "edrych eto a fyddai modd ymestyn y cynllun".

Yn ogystal, mae'n dweud bod y toriad o 拢11m i ddarpariaeth gofal plant yn "achos pryder" ac yn galw ar y llywodraeth i "asesu effeithiolrwydd y cynllun presennol a sicrhau bod y system gofal plant yn caniat谩u ac yn annog cyflogaeth llawn amser rhieni".

Pwyllgor wedi 'siomi'n fawr'

Fe ddywedodd Peredur Owen Griffiths fod y pwyllgor wedi cael ei "siomi'n fawr" gyda'r "diffyg amser i graffu ar effeithiau rhai o benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ar y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf".

Fe ychwanegodd fod "hyn wedi rhwystro ein gallu i ymgysylltu 芒'r diwydiannau hyn i ddarganfod beth fydd y toriad hwn yn ei olygu i fusnesau ledled Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyma'r sefyllfa ariannol fwyaf llwm a phoenus ers dechrau datganoli.

"Rydym wedi datgan yn glir wrth baratoi ein cyllideb ddrafft bod, gyda'r Gyllideb nawr yn werth 拢1.3bn yn llai mewn termau real nag wrth ei gosod yn 2021, rhaid cymryd penderfyniadau eithriadol o anodd.

"Byddwn ni yn yr wythnosau nesaf yn ystyried casgliadau'r adroddiad yma ac adroddiadau pwyllgorau craffu eraill cyn cyhoeddi ein cyllideb derfynol ar 27 Chwefror."

Pynciau cysylltiedig