Bachgen fu farw ar y Gogarth wedi'i ladd yn anghyfreithlon

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ben Leonard wedi derbyn ei ganlyniadau TGAU ddyddiau cyn y digwyddiad

Mae'r rheithgor yn achos bachgen 16 oed fu farw ar 么l disgyn ar fynydd yng ngogledd Cymru wedi dod i'r casgliad y cafodd ei ladd yn anghyfreithlon.

Bu farw Ben Leonard wedi iddo gael anaf difrifol i'w ben pan ddisgynnodd 200 troedfedd oddi ar glogwyni'r Gogarth yn Llandudno ar 26 Awst, 2018.

Roedd ar daith gyda'r Reddish Explorer Scouts o Stockport ar y pryd, a chlywodd y cwest ym Manceinion bod "methiannau sylweddol" wrth drefnu'r daith honno.

Ddydd Iau fe ddaeth y rheithgor yn y cwest i'r casgliad fod dau o arweinyddion y gr诺p o sgowtiaid yn gyfrifol am y farwolaeth.

Nodwyd hefyd fod esgeulustod ar ran Cymdeithas y Sgowtiaid hefyd wedi cyfrannu at y farwolaeth.

Mae Cymdeithas y Sgowtiaid yn dweud eu bod yn derbyn cyfrifoldeb am farwolaeth y bachgen.

Bwriad gwreiddiol y Reddish Explorer Scouts oedd cerdded i gopa'r Wyddfa, ond bu'n rhaid newid y cynlluniau oherwydd y tywydd.

Aeth y gr诺p felly ar daith i Landudno yng Nghonwy ac i gerdded ar y Gogarth.

Roedd yr ardal yn cael ei hystyried fel un "risg is" gan Gymdeithas y Sgowtiaid.

Ond fe glywodd y cwest bod cyfres o fethiannau wedi bod wrth drefnu'r daith gerdded - gan gynnwys diffyg asesiadau risg ysgrifenedig, diffyg unigolyn ar y daith oedd wedi hyfforddi mewn cymorth cyntaf a diffyg goruchwyliaeth yn ystod y daith.

Disgrifiad o'r llun, Roedd Ben Leonard yn cerdded ar Y Gogarth pan ddisgynnodd i'w farwolaeth fis Awst 2018

Clywodd y cwest bod Ben a dau aelod arall o'r gr诺p wedi mynd ar drywydd gwahanol i weddill y sgowtiaid.

Roedd Ben wedi dweud ei fod yn credu iddo ddod o hyd i lwybr i lawr y mynydd - ond cafodd ei weld yn llithro oddi ar ymyl y clogwyn.

Clywodd y cwest bod cerddwr wedi gweld y bachgen yn disgyn ar lethr serth ac yna ar y ffordd.

Bu farw yn y fan a'r lle ar 么l dioddef anafiadau difrifol i'w ben.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd teulu Ben ei fod yn "fachgen talentog, uchelgeisiol a charedig"

Cafodd cyfyngiadau ar adrodd darnau o wybodaeth yn y wasg eu dileu ddydd Iau, sy'n golygu bod modd nodi bellach fod Cymdeithas y Sgowtiaid wedi cael eu cyfeirio at Heddlu'r Gogledd er mwyn ymchwilio i'r posibilrwydd bod ymdrech wedi bod i geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn y cwest cyntaf i farwolaeth Ben.

Daeth y cwest cyntaf i farwolaeth Ben Leonard i ben am resymau cyfreithiol.

Mae'r sefydliad wedi gwrthod unrhyw honiadau o weithgarwch troseddol gan eu staff "yn llwyr".

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod y crwner wedi cyfeirio mater atyn nhw, a'u bod yn ystyried y manylion.

Dywedodd teulu Ben Leonard mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y llys eu bod yn teimlo y dylai Cymdeithas y Sgowtiaid fod yn cael eu goruchwylio gan gorff allanol.

"Y pum mlynedd ddiwethaf yw rhai gwaethaf ein bywydau, ac mae'r boen o golli Ben wedi'i wneud yn waeth wrth i'r bai gael ei drosglwyddo o un person i'r llall."

Mae'r teulu yn honni bod ymddygiad Cymdeithas y Sgowtiaid ers y farwolaeth wedi bod yn "ofnadwy", wrth iddyn nhw geisio rhoi'r bai am y cyfan ar arweinwyr lleol a hynny tra'n gwrthod cydnabod eu camgymeriadau ar lefel genedlaethol.

"Rydyn ni'n sicr nad oes modd ymddiried y gymdeithas i weithredu heb oruchwyliaeth allanol.

"Roedd Ben yn fachgen talentog, uchelgeisiol a charedig... rydyn ni'n ddiolchgar am ei fywyd, a dim ei farwolaeth fydd yn ei ddiffinio."

'Dysgu gwersi'

Mewn datganiad dywedodd Cymdeithas y Sgowtiaid eu bod yn ymddiheuro'n ddiffuant i deulu Ben Leonard a'u bod yn dal i gydymdeimlo'n arw gyda'i deulu a'i ffrindiau.

"Fel sefydliad rydyn ni'n benderfynol o ddysgu gwersi. Clywodd y rheithgor nad oedd ein harweinwyr lleol, yn yr achos yma, wedi dilyn ein rheolau a phrosesau diogelwch.

"O ganlyniad i farwolaeth ofnadwy Ben yn 2018, rydyn ni eisoes wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'n hasesiadau risg, ein hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd ar gael i'n gwirfoddolwyr.

"Byddwn yn adolygu casgliadau'r crwner yn ofalus ac yn ystyried unrhyw newidiadau pellach yn ofalus, er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw beth tebyg yn digwydd yn y dyfodol."

Ychwanegodd y gymdeithas mai cadw pobl ifanc yn ddiogel yw eu prif flaenoriaeth.