G锚m ail gyfle Euro 2024: Cymru 4-1 Y Ffindir

Disgrifiad o'r llun, David Brooks yn sgorio i Gymru yn y munudau cyntaf

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2024 dal yn fyw ar 么l curo'r Ffindir o 4-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.

Mewn g锚m ddramatig, roedd 'na ddechrau delfrydol i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ar 么l i David Brooks sgorio yn y munudau cyntaf.

Y Ffindir wnaeth reoli rhannau o'r hanner cyntaf ac er i Neco Williams sgorio ail g么l i Gymru, fe wnaeth yr ymwelwyr daro'n 么l yn y munudau cyn yr egwyl.

Roedd 'na hwb arall i Gymru ar ddechrau'r ail hanner wrth i Brennan Johnson sgorio, gan ddod 芒'r sg么r i 3-1, cyn i Dan James redeg at y g么l ar ei ben ei hun a sgorio'r bedwaredd g么l.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cymru'n dathlu ar 么l sgorio g么l yn y munudau cyntaf

Hanner cyntaf llawn cyffro

Ar 么l i David Brooks sgorio i Gymru yn y munudau cyntaf, bu bron i'r Ffindir daro'n 么l o fewn y 10 munud cyntaf wrth i Daniel Hakans gicio'r b锚l dros y bar.

Roedd 'na gyfle i Brennan Johnson wrth iddo redeg am y g么l, ond roedd o'n camsefyll.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Neco Williams yn dathlu ar 么l sgorio ail g么l y g锚m i Gymru

Daeth cerdyn melyn cyntaf y g锚m i'r Ffindir, wrth i Robin Lod daclo Neco Williams.

Er bod Cymru wedi sgorio'r g么l gyntaf, doedden nhw ddim yn rheoli'r g锚m a daeth sawl cyfle i'r Ffindir sgorio. Fe anelodd Joel Pohjanpalo at y g么l ond mi gafodd y b锚l ei rhwystro gan Gymru.

Roedd 'na gyfle gwych i Gymru sgorio wrth i Harry Wilson anelu am y g么l o bellter, ond mi gafodd y b锚l ei harbed gan Lukas Hradecky.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru

Disgrifiad o'r llun, Brennan Johnson sgoriodd drydedd g么l Cymru ar ddechrau'r ail hanner

Gyda 10 munud yn weddill o'r hanner cyntaf, rhoddwyd gic rydd i Gymru gyda Neco Williams yn sgorio ail g么l Cymru ar 么l cyffyrddiad bychan gan Harry Wilson.

Roedd ergyd i Gymru ym munudau ola'r hanner cyntaf, wrth i flaenwr Y Ffindir, Teemu Pukki, sgorio g么l gynta'r ymwelwyr.

Dwy g么l arall i Gymru

Fe wnaeth y t卯m cartref daro'n 么l ym munudau cynta'r ail hanner wrth i Brennan Johnson sgorio, gan ddod 芒'r sg么r i 3-1.

Roedd 'na gymeradwyaeth gan y dorf wrth i David Brooks adael y cae a chael ei eilyddio gan Kieffer Moore.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ag yntau'n dathlu ei ben-blwydd yfory, bu bron i Harry Wilson gael anrheg pen-blwydd cynnar wrth iddo anelu am y g么l ond aeth y b锚l heibio'r postyn.

Er bod Y Ffindir wedi cael cyfle gyda chiciau cornel, Cymru reolodd y rhan fwyaf o'r ail hanner.

Roedd cyfle i Moore, ond fe giciodd yn syth at Lukas Hradecky.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Teemu Pukki yn sgorio i'r Ffindir ym munudau ola'r hanner cyntaf

Mae Rob Page yn penderfynu eilyddio - Brennan Johnson yn dod oddi ar y cae a Dan James yn cymryd ei le.

Roedd hi'n ymddangos bod y capten Ben Davies wedi sgorio g么l i Gymru ond chafodd y g么l mo'i chaniat谩u.

Ar 么l camgymeriad amddiffynnol gan y Ffindir, roedd hynny'n gyfle perffaith i Dan James redeg at y g么l ar ei ben ei hun gan sgorio'r bedwaredd i Gymru.

Roedd cyfle i'r Ffindir ym munudau ola'r amser ychwanegol, ond aeth y b锚l heibio'r postyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd g么l Daniel James yn goron ar y cyfan

Beth nesaf?

Yn y g锚m ail gyfle arall fe gurodd Gwlad Pwyl Estonia o 5-1.

Mae hynny'n golygu bydd t卯m Rob Page yn chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Fawrth am le ym mhencampwriaeth ryngwladol fwyaf Ewrop.