麻豆官网首页入口

Harry Wilson: 'Bwlch ers i Bale adael'

  • Cyhoeddwyd
Harry WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Harry Wilson yn dweud y bydd yn rhaid i Gymru weithio'n galed i lenwi'r bwlch yn y t卯m ers i Gareth Bale ymddeol.

Bydd t卯m Rob Page yn chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Fawrth am le yn Euro 2024.

Mae Page wedi cyfeirio at Wilson fel chwaraewr sydd wedi cymryd mwy o gyfrifoldeb ers i Bale adael.

Dywedodd Wilson: "Dydw i ddim yn credu y byddai unrhyw un yn cymryd lle Gaz (Bale).

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Roedden ni'n gwybod pan nath e adael y t卯m y bydde'n rhaid i ni weithio'n galetach achos mae wedi gadael gymaint o fwlch.

"Fe odd ein capten, ein arweinydd, ein chwaraewr gorau. Rydyn ni wedi colli ei ddylanwad ar y t卯m ac roedd hynny'n mynd i adael bwlch enfawr.

"Nid dim ond fi, mae lot o chwaraewyr yn chwarae'n dda iawn ar hyn o bryd... rydyn ni gyd yn dod at ein gilydd."

Wilson, sy'n 27, oedd un o'r s锚r wrth i Gymru guro'r Ffindir o 4-1 nos Iau.

Dywedodd: "Rydw i'n teimlo fy mod i wedi symud i'r lefel nesa'... roedd symud i Fulham ddwy flynedd a hanner yn 么l yn beth mawr i fi."

Ar 么l buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Y Ffindir, bydd y g锚m yn erbyn Gwlad Pwyl nos Fawrth yn fwy heriol.

Robert Lewandowski 'fydd y bygythiad mwyaf'

Un o'r chwaraewyr allai achosi problemau i Gymru ydi Robert Lewandowski.

Mae ymosodwr Barcelona wedi sgorio 23 g么l yn barod y tymor yma.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Robert Lewandowski 'yw'r bygythiad mwyaf' nos Fawrth yn 么l Wilson

Dywedodd Wilson: "Mae'n awchu i sgorio goliau. Ble bynnag mae e, mae e'n sgorio dros ei glwb a'i wlad. Fe fydd y bygythiad mwya'.

"Bydd e'n manteisio ar unrhyw gyfle i sgorio.

"Felly'r peth pwysicaf i ni ydi ei stopio fe... i beidio rhoi unrhyw gyfle iddo sgorio."