麻豆官网首页入口

Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, wrth iddynt ddychwelyd ar 么l toriad hanner tymor yr hydref.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch 芒 ni eto yr wythnos nesaf.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn 鈥渁dlewyrchu鈥檙 teimlad bod ymosodiadau o鈥檙 fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae鈥檔 destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu鈥檙 tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod 芒 phawb sy鈥檔 dioddef o ganlyniad i鈥檙 ymosodiadau.鈥

    Y goleuadau yn y Senedd wedi eu pylu
  2. Bwrdd Betsi Cadwaladr: Dau adroddiad 'sobreiddiol iawn'wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Mae鈥檙 Ceidwadwr Darren Millar yn cyfeirio at ddau adroddiad diweddar am fwrdd GIG Betsi Cadwaladr.

    鈥淒aethpwyd 芒鈥檙 cyntaf i sylw pob un ohonom gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a ymchwiliodd i g诺yn 鈥 cwyn oedd wedi cymryd pedair blynedd i鈥檙 bwrdd iechyd ei hystyried cyn iddi gael ei throsglwyddo i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 鈥 am oedi cyn rhoi triniaeth i glaf str么c, a arweiniodd at ddod yn ddall yn barhaol mewn un llygad a bod mewn poen cronig, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi mynychu adran achosion brys ac y dylent fod wedi cael llawdriniaeth frys. Roedd yn 11 mis cyn iddynt ei chael o'r diwedd.

    "Yn ogystal 芒 hynny, mae crwner gogledd Cymru wedi codi pryderon yn dilyn marwolaeth claf o niwmonia a sepsis ym mis Chwefror y llynedd. Bu farw oherwydd bod ei nodiadau meddygol wedi eu colli. Roedd angen sganiau brys arni ac nid oedd yn gallu eu cael."

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Mae'r ddau adroddiad yn rhai sobreiddiol iawn. Rwyf wedi gweld yr ymateb y mae'r bwrdd iechyd wedi'i gyhoeddi yn y ddau achos. Nid wyf yn meddwl ei bod yn deg nodweddu'r bwrdd fel un nad oes ganddo ddiddordeb mewn dysgu gwersi. Ac, yn union fel y mae adroddiadau anodd iawn wedi cael eu cyhoeddi鈥檔 ddiweddar, mae adroddiadau eraill, mwy calonogol, hefyd.鈥

    Bwrdd Betsi Cadwaladr
  3. Prynhawniau Sadwrnwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Mae Mark Drakeford yn datgelu ei fod yn aml yn treulio prynhawniau Sadwrn yn paratoi ar gyfer Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Mark Drakeford

  4. Gwasanaethau bysiauwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    "Rydym yn rhoi cymhorthdal i wasanaethau bysiau ar draws Cymru i raddau mwy nag erioed o'r blaen," meddai'r prif weinidog.

    "Hoffwn pe bai pobl yn defnyddio'r bysiau yn y niferoedd yr oeddent yn ei wneud yn flaenorol. Mae'n batrwm cymhleth pam nad yw hynny'n wir.

    鈥淢ae鈥檙 gostyngiad mwyaf yn nifer y teithwyr ymhlith pobl nad oedd yn talu am deithio ar fysiau".

    Dywed y Ceidwadwr Tom Giffard "nid yn unig y mae cymorthdaliadau bysiau wedi'u torri, gan arwain at ostyngiadau mewn llwybrau ac amserlenni ledled Cymru, rydym hefyd wedi gweld y cynllun 20 milltir yr awr yn achosi anhrefn i amserlenni bysiau.鈥

    Dywed Sioned Williams o Blaid Cymru y bydd "toriadau sy'n lleihau amlder, dibynadwyedd ac yn achosi gorlenwi yn gwneud y dasg o hybu niferoedd teithwyr yn anoddach".

    Ychwanegodd y gallai galwad pwyllgor newid hinsawdd ac amgylchedd y Senedd Ieuenctid am deithio am ddim ar fysiau i bobl ifanc "helpu i roi hwb i nifer y teithwyr".

    BwsFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  5. Araith y Breninwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Wrth gyfeirio at Araith y Brenin y bore yma, pan ddarllenodd y Brenin Charles gynlluniau llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ystod Agoriad Gwladol Senedd San Steffan, mae'r prif weinidog yn cytuno gyda barn arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth nad oedd digon o uchelgais yn y cynlluniau.

    Dywed Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer Cymru gan gynnwys "Bil ynni fforddiadwy i helpu pobl sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd; Bil ariannu teg, dileu fformiwla Barnett; Bil i drosglwyddo pwerau cyfiawnder, gan greu system sy鈥檔 gweithio i Gymru; Bil nawdd cymdeithasol, i drawsnewid bywydau pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig; a Bil i ddod ag Yst芒d y Goron o dan reolaeth Cymru".

    Dywedodd Mr Drakeford: 鈥淒oes dim byd yn [Araith y Brenin] sy鈥檔 mynd i wneud pethau ym mywydau pobl yma yng Nghymru yn well ac mae鈥檔 dangos llywodraeth sydd heb uchelgais ar gyfer y dyfodol.

    Ychwanegodd, "ni chrybwyllwyd Cymru unwaith yn yr araith honno, ac rwy'n s么n am hynny'n arbennig oherwydd bod Northern Rail wedi'i grybwyll ynddi. Ac eto ni soniwyd o gwbl am drydaneiddio yng ngogledd Cymru."

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Rhun ap Iorwerth

  6. Ymchwiliad Covid y DUwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi pwnc ymchwiliad Covid y DU.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn addo rhyddhau holl negeseuon WhatsApp y llywodraeth.

    Dywed hefyd, cyn gynted ag y cyhoeddwyd yr ymchwiliad, na chafodd unrhyw negeseuon eu dileu, ond cyn hynny ni all ddiystyru bod rhai wedi'u dileu.

    Dywed Mr Drakeford nad yw e'n defnyddio WhatsApp ac na fyddai'n gwybod sut i ddileu negeseuon o'i ff么n.

    Cyhoeddodd cyn Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, yr ymchwiliad ym mis Mai 2021, a dechreuodd yn ffurfiol ym mis Mehefin 2022.

    Ychwanegodd Mr Drakeford: "Yn ystod cyfnod Covid ei hun, byddai llawer o gydweithwyr sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru wedi cael dyfeisiau gyda chyfarwyddiadau dileu eisoes arnynt.

    "Ac efallai bod y pethau hynny wedi aros ar eu ffonau, oherwydd bryd hynny nid oedd neb yn canolbwyntio o gwbl ar a allai fod angen y negeseuon hynny ar ryw bwynt pell yn y dyfodol."

    Daw'r sylwadau yn dilyn ffrae yn yr Alban am ddileu negeseuon.

    Mae negeseuon WhatsApp rhwng swyddogion a gweinidogion y DU wedi bod yn rhan allweddol o dystiolaeth ddiweddar a glywyd gan yr ymchwiliad Covid.

    Mae llywodraeth yr Alban wedi cael ei beirniadu am beidio 芒 throsglwyddo'r holl ddata perthnasol ac mae'r cyn-brif weinidog Nicola Sturgeon wedi gwrthod dweud a oedd hi wedi dileu unrhyw negeseuon ai peidio.

    Mae disgwyl i is-fodiwl yr ymchwiliad Covid sy鈥檔 edrych ar yr ymateb yng Nghymru ddechrau gwrandawiadau cyhoeddus ym mis Chwefror 2024.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Andrew RT Davies

  7. Adfer tomenni glo yn ddiogelwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Mae鈥檙 AS Llafur Hefin David yn gofyn pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfer tomenni glo yn ddiogel yng Nghaerffili.

    Mae gan Gymru fwy na 2,000 o domenni glo. Mae'r rhan fwyaf ar dir preifat yng nghymoedd de Cymru.

    O'r rheini, mae 294 wedi'u categoreiddio fel rhai "risg uchel", sy'n golygu y gallent beryglu bywyd neu eiddo.

    Mae 70 yng Nghaerffili, 64 yn Rhondda Cynon Taf, 59 ym Merthyr Tudful, 42 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 35 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 16 ym Mlaenau Gwent ac wyth yn Abertawe.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil ar Ddiogelwch Tomenni nas defnyddir y flwyddyn nesaf, a bod trefn archwilio "drwyadl" yn ei lle.

    Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod 拢44.4 miliwn ar gael mewn cyllid cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo (dros flynyddoedd ariannol 2022 i 23, 2023 i 24 a 2024 i 25).

    AbertridwrFfynhonnell y llun, JON POUNTNEY
    Disgrifiad o鈥檙 llun,

    Tomen lo yn Abertridwr, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich 7 Tachwedd 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.