Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwynedd: Dirwy 拢2,500 i ffermwr am droseddau lles anifeiliaid
Mae ffermwr o Wynedd wedi cael dirwy ar 么l ei gael yn euog o droseddau lles anifeiliaid.
Yn Llys Ynadon Caernarfon, cafwyd Liam Hughes o Fron Einion, Rhydymain yn euog o naw trosedd yn ymwneud 芒 lles anifeiliaid a methu 芒 chael gwared ar garcasau anifeiliaid.
Clywodd y llys sut i Mr Hughes achosi dioddefaint diangen i rai o鈥檌 ddefaid a sut iddo fethu 芒 chydymffurfio 芒 rheolau gorfodaeth Cyngor Gwynedd yn ymwneud 芒 chlafr defaid.
Yn ogystal 芒 thalu dirwy o 拢2,500, bydd rhaid i Mr Hughes gyflawni 150 awr o wasanaeth cymunedol.
Wrth groesawu penderfyniad y llys, dywedodd Cyngor Gwynedd fod y gymuned amaethyddol yn edrych ar 么l eu hanifeiliaid, ond bod angen cymryd camau gorfodi pan nad yw ffermwyr yn sicrhau safon uchel o ran iechyd a lles eu hanifeiliaid.