麻豆官网首页入口

Cyn-yrrwr lori yn sefydlu brand dillad bwydo o鈥檙 fron

Katie JonesFfynhonnell y llun, Banc Busnes Prydain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Katie Jones o Rydaman yw sylfaenydd Mama Glam

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-yrrwr lori wedi sefydlu brand dillad bwydo o鈥檙 fron ei hun, gyda'r nod o roi hwb i famau a gwella eu hunanhyder wrth fwydo'n gyhoeddus.

Mae cwmni Mama Glam o Rydaman yn cynnig dillad gyda zipiau cynnil, sy鈥檔 sicrhau bod y rhan fwyaf o鈥檙 fron yn aros yn gudd wrth fwydo.

Yn 么l sylfaenydd y cwmni, Katie Jones, mae diffyg dillad addas ar y stryd fawr yn ffactor pam nad oes rhagor o famau yn bwydo o鈥檙 fron, ynghyd 芒 diffyg cefnogaeth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai cyfraddau bwydo ar y fron yn 2023 oedd yr uchaf erioed i blant o bob oed.

'Dim byd addas'

Ar 么l rhoi genedigaeth i鈥檞 merch Olivia, sydd bellach yn naw mis oed, mae Katie Jones yn dweud eu bod wedi cael "trafferth wirioneddol" gyda dillad wrth fwydo鈥檔 gyhoeddus.

鈥淩oeddwn i鈥檔 meddwl, mae hyn yn anodd iawn, i gael fy mola 么l-enedigol allan yn gyhoeddus o flaen pobl鈥

鈥淔e aethon ni i barti pen-blwydd 60 a doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ffrog oedd yn addas i mi o gwbl.

鈥淵n y diwedd, fe wisgais i ffrog mamolaeth gyffredin ond roedd yn rhaid i mi dynnu fy mron gyfan allan i fwydo, doedd e ddim yn discreet o gwbl.鈥

Ffynhonnell y llun, Banc Busnes Prydain
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bwriad Katie ydy cynnig dillad sy鈥檔 fwy addas ac yn fwy ffasiynol ar gyfer mamau sy鈥檔 bwydo o鈥檙 fron

Roedd y fam 25 mlwydd oed hefyd yn teimlo bod y dillad oedd ar gael ar y stryd fawr ddim wedi eu hanelu at famau ifanc, gan ei hannog i gynllunio casgliad o ddillad ei hun ar gyfer bwydo o鈥檙 fron.

Daeth Mama Glam yn realiti iddi drwy gymorth ariannol gan Fanc Busnes Prydain.

Mae eu rhaglen benthyciad cychwynnol i ddechrau busnes yn darparu benthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth o hyd at 拢25,000 yr unigolyn, a hyd at uchafswm o 拢100,000 fesul busnes.

Yn ogystal 芒 chyllid, gall ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn mentora am ddim, mynediad at adnoddau a chyngor.

Dillad 'addas' a 'glam'

Barn Katie yw bod Mama Glam yn cynnig dillad sy鈥檔 fwy addas ac yn fwy ffasiynol ar gyfer mamau sy鈥檔 bwydo o鈥檙 fron.

鈥淢ae gan y dillad i gyd zips cynnil arnyn nhw ac mae鈥檙 zips yn agor o鈥檙 gwaelod i fyny,鈥 meddai.

鈥淕allwch chi agor y zips gymaint 芒 ry鈥檆h chi eisiau, sy鈥檔 galluogi鈥檙 fron i aros yn gudd.鈥

Yn 么l corff StatsCymru, y llynedd roedd o leiaf 65.2% o fabanod newydd-anedig yn cael eu bwydo o鈥檙 fron yng Nghymru.

Ond 28.7% o fabanod oedd yn cael eu bwydo o'r fron erbyn iddyn nhw fod yn chwe mis oed.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Katie gyda'i merch Olivia, sydd bellach yn naw mis oed

Mae Katie鈥檔 credu y gallai鈥檙 ffigyrau fod yn uwch.

鈥淵 brif broblem yw nad oes digon o gefnogaeth,鈥 meddai.

鈥淩o鈥檔 i鈥檔 lwcus iawn gyda Olivia - doedd dim problemau gyda鈥檔 siwrnai bwydo o鈥檙 fron ni - ond mae llawer o fy ffrindiau wedi cael trafferth, a does dim cefnogaeth wedi bod yno i鈥檞 hysgogi nhw i barhau i fwydo o鈥檙 fron.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lizzie Potter yn credu bod "y wybodaeth yn anghyson" ar fwydo o'r fron

Un o鈥檙 rheiny oedd Lizzie Potter, 27, o Lanelli.

Cafodd Lizzie a鈥檌 babi Emilia, sydd nawr yn bum mis oed, ddechrau anodd i鈥檞 siwrnai bwydo wedi i Emilia gael diagnosis o 'tongue-tie'.

Dim ond ar 么l datrys y cyflwr llwyddodd y ferch fach i gael llaeth o鈥檙 fron.

鈥淒wi鈥檔 meddwl weithiau bod y gefnogaeth yn gallu teimlo fel pwysau,鈥 meddai Lizzie.

鈥淵n amlwg, mae pobl yn cael trafferthion - a byddwn i ddim eisiau i unrhyw un deimlo dan bwysau i fwydo o鈥檙 fron - ond ar yr un pryd, os ydych chi eisiau, dwi鈥檔 credu bod yna ddiffyg cefnogaeth, mae鈥檙 wybodaeth yn anghyson.鈥

Stigma

Yn 么l Lauren Amour, 27 o Abertawe a mam Heidi, sy鈥檔 bum mis oed, y stigma ynghlwm 芒 bwydo o鈥檙 fron sy鈥檔 rhwystro pobl rhag gwneud.

鈥淢ae e lawr i bobl yn teimlo鈥檔 anghyfforddus,鈥 meddai.

鈥淒im digon o opsiynau o ddillad neu鈥檙 negyddiaeth sy鈥檔 dod gyda bwydo o鈥檙 fron, pobl yn edrych a gwneud i bobl deimlo yn anghyfforddus.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Lauren Amour y stigma ynghlwm 芒 bwydo o鈥檙 fron sy鈥檔 rhwystro pobl rhag gwneud

I Katie, ei gweledigaeth ar gyfer Mama Glam yw gwneud i famau deimlo鈥檔 hyderus unwaith eto, wrth fodloni ei gofynion ffasiwn hefyd.

鈥淩oeddwn i eisiau creu rhywbeth oedd yn rhoi hwb i famau,鈥 meddai,

鈥淓u helpu i fwydo eu babanod yn gyhoeddus heb deimlo yn nerfus a heb orfod poeni am farn eraill.鈥

'Cyfraddau uchaf erioed'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cefnogi teuluoedd yn rhan allweddol o'n Cynllun Gweithredu Bwydo ar y Fron, sy'n cael ei gydlynu gan arweinwyr bwydo ar y fron ym mhob bwrdd iechyd.

"Mae'r clinigwyr hyn yn rhan o Rwydwaith Bwydo Babanod Cymru, gyda chefnogaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n monitro gwasanaethau cyfredol, nodi materion a rhannu arfer gorau.

"Rydym yn falch o adrodd mai cyfraddau bwydo ar y fron yn 2023 oedd yr uchaf erioed i blant o bob oed.

"Mae'r ffigurau hyn yn nodi tueddiadau tymor hir o gynnydd yn y cyfraddau bwydo ar y fron."

Pynciau cysylltiedig