麻豆官网首页入口

Galw am gynyddu nifer y llysiau lleol mewn ysgolion

Llysiau o Gymru wedi'u torri ac yn barod i gael eu coginio yng nghegin Ysgol Sant Barruc, Y Barri
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llysiau o Gymru wedi'u paratoi ac yn barod i'w coginio yn Ysgol Sant Barruc, Y Barri

  • Cyhoeddwyd

"Mae鈥檙 bwyd heb gael ei brosesu. Mae鈥檔 dod yn lleol ac yn organig. Mae鈥檔 iachus i鈥檙 plant a mae jyst yn gr锚t i fod yn rhan ohono fe i gyd."

Mae Geraint Evans a'i wraig Emma yn berchen ar naw erw o dir ym Mro Morgannwg, ac maen nhw'n tyfu llysiau a ffrwythau organig ers tair blynedd.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf maen nhw wedi bod yn cyfrannu cynnyrch at gynllun Llysiau Cymru i Ysgolion Cymru, sy'n cael ei gydlynu gan elusen Synnwyr Bwyd Cymru.

Mae Geraint yn dweud fod y cynllun wedi bod o gymorth iddo fe i sicrhau bod ei fusnes yn llwyddo.

"Mae鈥檔 helpu ni鈥檔 dda iawn achos ni鈥檔 rhoi cynllun at ei gilydd gyda thyfwyr eraill a ni鈥檔 gwybod pa lysiau sydd eisiau blwyddyn nesa'," meddai.

"Ni鈥檔 gallu plano popeth mas, ni鈥檔 gallu 'neud yn si诺r fod hadau iawn gyda ni, planhigion iawn i dyfu a mae jyst yn rhoi cynllun a sicrwydd i ni".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Emma a Geraint Evans yn tyfu llysiau a ffrwythau organig ers tair blynedd

Ar hyn o bryd mae swm sylweddol o鈥檙 llysiau sy鈥檔 cael eu gweini mewn ysgolion yng Nghymru wedi鈥檜 rhewi, a daw鈥檙 mwyafrif llethol ohonynt - 94% - o鈥檙 tu allan i Gymru.

Mae elusen Synnwyr Bwyd Cymru, sy'n dylanwadu ar sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio, yn galw am fuddsoddi er mwyn cynyddu canran y llysiau o Gymru sy'n cael eu gweini yn ein hysgolion i 10% erbyn 2028.

Dywed Dr Amber Wheeler, arbenigwr bwyd o Sir Benfro, mai "dim ond oddeutu chwarter dogn llysiau y pen o鈥檙 boblogaeth sy鈥檔 cael ei gynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae angen mwy o lawer".

"Bydd hynny yn golygu cynyddu nifer y tyfwyr sy' gyda ni a nifer y ffermwyr sy'n tyfu llysiau ar eu caeau.

"Mae'r farchnad yno ar eu cyfer trwy'r ysgolion."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw鈥檔 "ystyried pa gefnogaeth bellach y bydd modd ei roi fel rhan o gyllideb ddrafft 2025-26".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Dr Amber Wheeler am weld canran y llysiau o Gymru sydd ar fwydlen ysgolion Cymru yn cynyddu i 10% erbyn 2028

Yn ystod 2024, fel rhan o gynllun peilot, bydd wyth tyfwr bwyd o Gymru yn cyflenwi oddeutu 40 tunnell o lysiau i ysgolion mewn chwe awdurdod lleol drwy gwmni Castell Howell.

Yn 么l Edward Morgan o'r cwmni: "Ni'n gweld fod y sefyllfa dros y byd yn fregus o safbwynt cael cynnyrch, hyd yn oed o Ewrop.

"Mae tymheredd y byd yn twymo felly mae'n rhaid i ni weithio tamaid bach yn galetach nawr, meddwl tamaid bach yn wahanol a chydweithio gyda chyflenwyr ni o Gymru."

Erbyn 2028 mae Synnwyr Bwyd Cymru yn awyddus i ymestyn y cynllun peilot o wyth i 100 o dyfwyr, yn 么l Dr Wheeler.

Mae'n dweud fod y manteision yn anferth o ran "yr amgylchedd, cwtogi carbon, tyfu bioamrywiaeth a hefyd amaeth, gan fod swyddi a thyfu'r economi yn gallu digwydd trwy gyfrwng garddwriaeth".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carys Gronow, sy'n gweithio yng nghegin Ysgol Sant Baruc, yn rhannu pasta bake gyda llysiau organig lleol i'r disgyblion

Un o'r ysgolion sy'n rhan o'r cynllun peilot yw Ysgol Sant Baruc yn Y Barri.

Mae Carys Gronow, sy'n gweithio yn y gegin, yn bendant fod y plant yn mwynhau'r arlwy.

"Fi wedi cael y llysiau organig Cymreig, a gaetho' ni courgettes, pupur, winws, squash a 'naethon ni torri nhw lan a rhoi nhw mewn i pasta bake ni wedi neud heddiw," meddai.

"Ni wedi rhostio rhai hefyd yn y ffwrn, so maen nhw鈥檔 gallu cael nhw ar yr ochr hefyd a mae鈥檔 edrych yn lliwgar ac yn neis iddyn nhw."

Disgyblion wedi'u plesio

Wrth fwyta pasta a llysiau ffres i ginio roedd y plant yn amlwg wedi plesio, ac yn croesawu'r ffaith fod y llysiau yn lleol.

"Fi鈥檔 meddwl bod o鈥檔 rili dda achos bydda' nhw鈥檔 fwy ffres," meddai Evan.

Ychwanegodd Emlyn: "Dwi鈥檔 meddwl bod hynna鈥檔 dda oherwydd wedyn ti ddim eisiau prynu nhw o鈥檙 siop.

"Maen nhw鈥檔 ffres achos bo' nhw wedi dod o鈥檙 ardd."

Mae Bethan yn teimlo fod y cynllun yn helpu'r blaned.

"Mae o鈥檔 dda i鈥檙 amgylchedd achos maen nhw鈥檔 dod o Gymru a dim rhywle arall," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Evan ac Emlyn yn mwynhau eu pasta bake gyda llysiau o Gymru

Mae Llywodraeth Cymru yn rhannol gyfrifol am ariannu'r cynllun peilot tan fis Mawrth 2025.

Dywedodd llefarydd eu bod yn "cydnabod fod prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru wedi helpu datblygu gallu cynhyrchu ymhlith tyfwyr lleol er mwyn darparu鈥檙 sector cyhoeddus"

Ychwanegodd y byddan nhw鈥檔 ystyried "pa gefnogaeth bellach y bydd modd ei roi fel rhan o gyllideb ddrafft 2025-26".

Sicrhau bwyd iach i blant yw bwriad cynllun Llysiau Cymru i Ysgolion Cymru, ynghyd 芒 chefnogi tyfwyr i sicrhau incwm rheolaidd.

Mae hynny yn rhan o weledigaeth ehangach i sicrhau sector fwyd sy'n ffynnu, a gwlad sy'n bwyta a byw yn iach.