Her hwylio yn magu hyder wrth frwydro gorbryder

Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口

Disgrifiad o'r llun, Bwriad Freya yw aros mewn cymunedau tra ar ei thaith, a siarad gyda phobl ifanc

Mae merch o Sir Benfro yn gobeithio gosod record fel y fenyw ieuengaf i hwylio ar ei phen ei hun o amgylch y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Yn 21 oed, mae Freya Terry yn dechrau ei siwrnai o farina Neyland, gan deithio 2,300 o filltiroedd morol.

Ond mae鈥檔 llawer mwy na ras i Freya, gan fod hwylio yn rhoi hyder iddi ddelio 芒 gorbryder ac iselder.

Mae鈥檔 bwriadu bwrw angor mewn degau o gymunedau yn ystod ei thaith er mwyn siarad gyda grwpiau am ei hiechyd meddwl.

'Trafferth cyfathrebu'

Bellach yn hyfforddwraig hwylio, dechreuodd Freya ddioddef gyda鈥檌 hiechyd meddwl yn 11 oed.

鈥淩oedd nifer o bethau bach wedi digwydd, yna ges i drafferth wrth ddechrau鈥檔 yr ysgol uwchradd a hefyd gwneud ffrindiau," meddai.

鈥淩o'n i鈥檔 ynysu fy hun, dyna lle dechreuodd fy mrwydrau, ac fe waethygodd pethau."

Dywedodd Freya nad oedd yn gallu siarad 芒 theulu, ffrindiau, neu weithwyr iechyd proffesiynol.

鈥淩o'n i鈥檔 cael trafferth cyfathrebu 芒 nhw am gyfnod hir.

鈥淒oedd dim modd i fi ymddiried mewn pobl, ro'n i鈥檔 eistedd mewn swyddfa therapydd a doeddwn i ddim yn siarad 芒 nhw."

Ffynhonnell y llun, Julie Campbell

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Freya Terry hwylio pan oedd hi'n 11 oed yn Sir Benfro

Disgrifiodd Freya nosweithiau lle byddai'n rhedeg i ffwrdd heb ddweud wrth neb, gan hunan niweidio, a'i guddio rhag pawb.

Dywedodd mai dim ond yn y blynyddoedd diwethaf, fel oedolyn, y mae hi wedi dod o hyd i gefnogaeth gan Brosiect Amethyst yn Aberteifi.

鈥淔e weles i nad oeddwn i ar fy mhen fy hun," meddai.

"Roedd pobl eraill yn cael trafferth hefyd ac nid fy mai i oedd e bod hyn yn digwydd, roedd yn gam enfawr i fi.鈥

'Teimlad anhygoel'

Mae hwylio wedi bod yn beth cyson ym mywyd Freya dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Mae鈥檔 dweud bod y gamp wedi rhoi hyder iddi, yn enwedig wrth hyfforddi eraill.

鈥淲rth sefyll i fyny a siarad am hwylio 鈥 mae鈥檔 deimlad anhygoel bod bobl wedi gwrando a dysgu gen i.鈥

Tra ar ei thaith bydd Freya yn aros mewn tua 80 o gymunedau dros y pum mis nesaf i siarad gyda grwpiau am ei hiechyd meddwl ei hun, yn y gobaith o 鈥渄dechrau sgwrs鈥 ymhlith pobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Freya Terry

Disgrifiad o'r llun, Mae mam Freya, Julie Campbell yn falch iawn ohoni, ond mae'n poeni am ei siwrnai

Un sy鈥檔 falch iawn o ddatblygiad Freya yw ei mam, Julie Campbell. Dywedodd ei bod wedi ei 鈥渟yfrdanu鈥檔 llwyr鈥 gyda鈥檌 hyder.

Ychwanegodd nad oedd wedi dychmygu y byddai ei merch yn ymgymryd 芒 her debyg.

鈥淎m gyfnod doedden ni ddim yn edrych i鈥檙 dyfodol. Roedden ni鈥檔 ymdopi wrth fynd o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos, o fis i fis,鈥 meddai.

Dywedodd Julie fod ganddi hyder yn sgiliau hwylio Freya, ond fel mam, mae'n nerfus iawn am y daith.

I Freya, bod allan ar y tonnau yw鈥檙 peth cyffrous, rhannu ei thaith ag eraill sy鈥檔 achosi鈥檙 pryder mwyaf iddi.

鈥淵 peth dwi鈥檔 fwyaf nerfus yn ei gylch yw siarad 芒 phobl am iechyd meddwl oherwydd mae鈥檔 beth anodd iawn, ond dwi鈥檔 bwriadu gwneud e beth bynnag,鈥 meddai.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 麻豆官网首页入口.