麻豆官网首页入口

Beti a'i Phobol: Pum pwynt o sgwrs yr arbenigwr trosedd seiber Ffion Gruffudd

Ffion GruffuddFfynhonnell y llun, Celf Calon
  • Cyhoeddwyd

O gipio data i ddelweddau ffug AI, mae Ffion Gruffudd wedi gweld pob math o drosedd seiber yn ei gyrfa. Cyfreithwraig yw Ffion sy鈥檔 arbenigo mewn diogelwch ar-lein ac erbyn hyn mae'n bennaeth diogelwch seiber byd eang i'r cwmni A&O Shearman.

Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, mae Ffion bellach wedi symud n么l i Gymru ar 么l cyfnodau'n gweithio dramor ac wedi sefydlu hwb creadigol ar gyfer cerddorion, Coco a Cwtsh yn Sir Gaerfyrddin.

Dyma bump peth rydyn ni wedi ei ddysgu amdani o'i chyfweliad gyda Beti George ar Beti a'i Phobol.

1. Magwraeth: 鈥極鈥檔 i wastad yn cael fy annog gartre i helpu eraill鈥

鈥淢erch o Drefach y fi ger Crosshands, wedi cael fy magu yng Nghwm Gwendraeth a mynd i Ysgol y Dderwen, wedyn Maes yr Yrfa.鈥

Gyda鈥檌 thad yn feddyg a鈥檌 mam yn nyrs, mae ei magwraeth wedi dylanwadu鈥檔 fawr arni, fel mae鈥檔 s么n: 鈥淥鈥檔 i wastad yn cael fy annog gartre i helpu eraill.鈥

Dyma un o鈥檙 rhesymau pam mae Ffion wedi sefydlu Coco & Cwtsh, gan drawsffurfio sied i greu gofod recordio i artistiaid.

Roedd cerddoriaeth yn bwysig iddi ers yn ferch ifanc: 鈥淧an o鈥檔 i yn fy arddegau o鈥檔 i arfer cyfansoddi lot o ganeuon ar y piano. O鈥檔 i鈥檔 mwynhau yn fawr. Cyn y cyfnod clo 鈥榥es i ddarganfod ffeil o stwff nes i gyfansoddi. Ac es i n么l ati.鈥

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

2. Gweithio a theithio

Ar 么l gadael Prifysgol Nottingham gyda gradd yn y gyfraith a gwleidyddiaeth aeth Ffion i weithio i gwmni yn Llundain, a chael cyfle i dreulio amser yn swyddfeydd y cwmni yn Dubai lle bu鈥檔 gweithio i Islamic Finance and Insurance.

Roedd y gyfraith yno yn wahanol iawn: 鈥淢ae sawl cwmni yn gweithredu dan gyfraith Sharia yn y dwyrain canol ac wedi eu strwythuro yn wahanol.

鈥淵r enghraifft mwya鈥 penodol yw dan gyfraith Sharia, chi ffaelu talu interest felly gyda loans wrth y banc sym llog arno fe. Mae mwy fel mutual insurance yn hytrach na thalu premium achos mae trosglwyddo risg ddim yn iawn o dan Sharia.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 dechrau neud lot o archwiliadau ar gyfer y banciau mawr mewn i frauds mawr ac oedd dipyn o rheina digwydd bod yn computer fraud felly oedd angen archwilio gwybodaeth technegol i ddarganfod beth oedd wedi digwydd.鈥

Dyma oedd cychwyn arbenigedd Ffion mewn diogelwch seiber.

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

3. Achos dwyn data pensiynwyr

Yn ystod 2009 鈥 2010 bu Ffion yn gweithio ar achos lle oedd data cannoedd o filoedd o bensiynwyr wedi cael eu datgelu ar y we.

Meddai Ffion: 鈥淵 ffordd 鈥榥atho ni ffeindio hyn mas yw bod un o swyddogion uchel cwmni mawr pensiynau digwydd bod wedi cael ipad newydd gan ei fab ar ei ben-blwydd.

Dyma nhw鈥檔 googlo ei enw a鈥檙 peth cynta ddaeth lan oedd y pension slip gyda鈥檙 manylion i gyd. 鈥楴atho ni ffeindio mas bod pension slips cannoedd o filoedd o bobl dros y byd i gyd wedi eu cyhoeddi ar-lein.鈥

Felly beth yw r么l Ffion mewn achos fel hyn?

Meddai: 鈥淭rio ffeindio mas beth yw ffynhonnell y peth fel bod ni鈥檔 gallu stopio fe. Wedyn ystyried beth yw'r goblygiadau cyfreithlon sy鈥 gan gwmn茂au.

鈥淢aen nhw (y cwmn茂au) gorfod dweud wrth y pobl os ydy data personol nhw wedi mynd a maen nhw鈥檔 gorfod dweud wrth y regulators. Achos bod y data 鈥榤a wedi cael ei ddwyn gan bobl ar draws y byd oedd rhaid i ni wybod beth oedd y rheolau ym mhob un o鈥檙 gwledydd hynny felly oedd e鈥檔 dipyn o waith.

鈥淵 cwestiwn yw beth mae rhywun yn gallu neud gyda鈥檙 wybodaeth yna felly rhyw fath o identity fraud yw鈥檙 gwaethaf maen nhw鈥檔 gallu neud.

鈥淕allen nhw ar y pryd hynny wedi trio agor account dan un o鈥檙 bobl ma, effeithio ar eu credit score nhw.

鈥淕ymrodd hi ddim sbel i ni (i ddod o hyd i鈥檙 troseddwyr) ond mae鈥檔 anodd i gael nhw i鈥檙 llys ac i鈥檙 carchar. Maen nhw鈥檔 aml mewn gwledydd eraill a ni ffaelu cael extradition.

鈥淕yda rhai pethau dyw troseddwyr ddim yn gallu gwneud lot gyda鈥檙 rhif 16 ffigwr (ar gerdyn banc neu credyd). Mae angen y CVV (y rhif tri digid ar gefn y garden) 鈥 hwnna yw鈥檙 rhif cudd.

鈥淏eth mae lot o droseddwyr yn gwneud yw credit card harvesting - ceisio ymosod ar wefan yr online retailers 鈥榤a a rhoi eu hunain rhwng y person sy鈥檔 talu a鈥檙 cwmni a gwneud yn si诺r fod yr arian yn cael ei arallgyfeirio.

鈥淢ae鈥檔 anodd i gwmn茂au ddala lan gyda popeth.鈥

Ffynhonnell y llun, Celf Calon

4. Mae twyll seiber ac AI yn cynyddu a鈥檔 mynd yn gynyddol soffistigedig

Meddai Ffion: 鈥淎chos bod y dechnoleg wedi dod mwy soffistigedig mae鈥檙 troseddwyr 鈥榤a wedi dod yn fwy soffistigedig. Pan ti鈥檔 meddwl am ddyfeisiau wedi cysylltu drwy鈥檙 we ee smart doorbells neu toys 鈥 unrhyw beth sy鈥 wedi ei gysylltu gyda'r we, mae modd ei hacio fe.鈥

Erbyn hyn mae cipio data byd-eang yn costio rhyw dau driliwn o ddoleri鈥檙 flwyddyn ar draws y byd. Felly oes modd ei atal?

Yn 么l Ffion: 鈥淪ei鈥檔 credu bod modd stopio fe yn gyfan gwbl - tra bod pawb yn dibynnu ar eu cyfrifiaduron mae rhai pobl yn mynd i ffeindio eu ffordd mewn. Mae cwmn茂au yn treial eu gorau.

鈥淢ae鈥檔 anodd amddiffyn rhag popeth achos lot o鈥檙 ffyrdd mae troseddwyr yn dod mewn yw pobl yn clicio ar lincs. Mae鈥檙 phishing emails 鈥榤a鈥檔 soffistigedig iawn.

鈥淢ae rhan fwya yn dod o Rwsia. Ac wedyn mae gwledydd eraill ddim yn dueddol o neud y math 'na o drosedd ond yn mynd mewn i gyfrifiaduron a neud rhyw fath o espionage a chymryd gwybodaeth.

鈥淣i wedi gweld lot fwy o鈥檙 deep fakes 鈥榤a felly fideos yn dynwared CEO y cwmni a gofyn i drosglwyddo arian mawr. Mae lot o gleients wedi cael miliynau wedi dwyn. Ni鈥檔 mynd i weld lot mwy o鈥檙 deep fakes yn enwedig eleni pan mae鈥檔 flwyddyn etholiadol dros y byd i gyd. Ni鈥檔 gweld lot o AI yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd hynny.

鈥淢ae wedi cael ei brofi fod e鈥檔 digwydd ac mae rhaid i bobl wastad meddwl, pam ydw i鈥檔 cael y neges yma ac ydy hyn yn iawn?鈥

Mae Ffion hefyd yn credu fod algorithmau ar y cyfryngau cymdeithasol yn beryglus: 鈥淎r social media ac ar y we mae newyddion yn cael ei dargedu at pobl yn 么l eu chwaeth nhw. Mae鈥檙 algorithmau yn dysgu beth yw chwaeth rhywun ac yn dyblu lawr ar negeseuon, mae鈥檔 ddansherus tu hwnt. Cwestiynu popeth yw'r peth gorau i neud.鈥

5. Mae gan Ffion ferch o鈥檙 enw Cadno sy鈥 wedi cael ei geni gan surrogate

Mae Ffion a鈥檌 g诺r Mike dal mewn cysylltiad gyda鈥檙 surrogate o ogledd Carolina hyd heddiw, ac fe ddaeth i fedydd Cadno, sy鈥檔 saith oed.

Meddai Ffion: 鈥淢ae Cadno鈥檔 fiolegol yn blentyn i ni ond oedd angen help arno ni o ran cario.

鈥淔elly natho ni chwilio am surrogate a neud lot o ymchwil a鈥檙 lle gorau i neud e oedd America.

鈥溾橬ath e weithio yn gr锚t ac aethon ni mas i ogledd Carolina i Cadno gael ei geni. Mae鈥檙 broses o dynnu wyau 鈥 oedd yn diddorol gorfod delio gyda clinig yn yr Unol Daleithiau.鈥

Erbyn hyn mae鈥檙 teulu wedi dychwelyd i Sir Gaerfyrddin er mwyn rhoi magwraeth Gymreig i Cadno.