麻豆官网首页入口

Galw am warchod enwau Cymraeg mewn chwareli

Chwarel Allt Ddu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai dringwyr yn cyfeirio at Chwarel Allt Ddu yn ardal Dinorwig fel 'Bus Stop Quarry'

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr yn poeni y gallai enwau Cymraeg hanesyddol ar gyfer rhannau o chwareli gogledd Cymru ddiflannu.

Cafodd hynny ei drafod mewn digwyddiad ger cofgolofn Cleddyf Llyn Padarn yn Llanberis brynhawn Sul, gafodd ei drefnu i nodi 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cofio'r tua 1,500 o ddynion gafodd eu lladd yn chwareli gogledd orllewin Cymru.

Mae Cyngor Mynyddau Prydain yn dweud eu bod nhw'n credu bod angen gwarchod enwau Cymraeg hanesyddol ar ardaloedd penodol ond yn dweud bod gwahaniaeth rhwng hynny ac enwau ar gyfer llwybrau cerdded newydd.

Ffynhonnell y llun, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwarel y Penrhyn ger Bethesda

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod yr enwau Cymraeg ar gyfer ardaloedd o fewn y chwareli - y ponciau a'r sinciau - wedi cael eu disodli gan enwau Saesneg gan ddringwyr sy'n creu llwybrau dringo newydd.

Y ponciau yw'r enw a roddwyd i'r platfformau roedd y chwarelwyr yn eu naddu yn wyneb y graig lechen, ac o'r ponciau hyn roedd y chwarelwyr yn gweithio i dorri'r llechi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw pobl leol ddim yn hoffi enwau fel 'Mordor' a 'Watford Gap', yn 么l Anita Butler

Gr诺p Eryri Wen wnaeth drefnu'r digwyddiad brynhawn Sul, ac un a ddaeth i gefnogi oedd Anita Butler.

""Dwi'n meddwl bod o'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'r hen enwau Cymraeg.

"Dydi pobl leol a phobl yr ardal chwarel ddim yn licio clywed enwau fel Mordor a Watfard Gap, achos dydyn ddim yn golygu dim i ni."

Eglurodd Ms Butler o le ddaeth rhai o'r enwau traddodiadol: "Roedd y chwarelwyr wedi bod yn y rhyfel mawr ac yn dod ag enwau gwledydd a phobl yn 么l efo nhw.

"Roedd fy nhaid weithiau yn s么n am gerdded o'r 'Aifft' i 'Mesopotamia' - hynny yw, cerdded rhwng dwy bonc."

Ychwanegodd nad oes modd gorfodi pobl i ddefnyddio'r hen enwau, er mor "gr锚t" fyddai gweld mwy yn eu defnyddio.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd Fred Buckley weithio yn Chwarel y Penthyn pan yn 15 oed

Fe wnaeth Fred Buckley o Dregarth ddechrau gweithio yn Chwarel y Penrhyn ym 1949 pan yn 15 oed.

Dywedodd fod y gwaith yn "galed ofnadwy" ac yn "beryglus" ond fod treulio amser yn gwrando ar y dynion h欧n yn siarad yn y cytiau yn "well coleg na gewch chi fyth".

Ond doedd gan Mr Buckley ddim teimladau cryf yngl欧n 芒 pha enwau oedd yn cael eu defnyddio.

"S'gen i'm barn arbennig am y peth, ond i ni fel Cymry, enwau Cymraeg sy' 'di cael eu rhoi i'r galeries 'ma erioed," meddai.

"Os ydyn nhw isio newid nhw, dio'm lawer o otsh gen i chwaith."

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin

Roedd teuluoedd rhai o'r bobl gafodd eu lladd tra'n gweithio yn y chwareli yn y digwyddiad yn Llanberis brynhawn Sul.

Yn ogystal 芒'r oddeutu 1,500 o ddynion gafodd eu lladd mewn ffrwydradau ac wrth i greigiau gwmpo, mae 'na amcangyfrif bod miloedd yn rhagor wedi marw o鈥檙 clefyd yr ysgyfaint silicosis ar 么l gweithio mewn pyllau llychlyd.

Cafodd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ei sefydlu ym Mehefin 1874 i gynrychioli chwarelwyr oedd yn gweithio ar gyflogau isel ac mewn amodau anodd.

'Cefnogi鈥檙 egwyddor o warchod enwau Cymraeg'

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Mynydda Prydain eu bod "yn cefnogi鈥檙 egwyddor o warchod a chadw enwau Cymraeg ar gyfer nodweddion daearyddol yng Nghymru."

"Rydym wedi mabwysiadu'r defnydd o Eryri a Bannau Brycheiniog fel enwau swyddogol y parciau cenedlaethol hyn yn unol 芒'r egwyddor hon.

"Yn yr un modd, rydym yn cefnogi cadw enwau lleoedd Cymraeg ar gyfer orielau Chwareli Dinorwig a chwareli llechi eraill a ddefnyddir ar gyfer dringo.

"Fodd bynnag, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng yr enwau a roddwyd eisoes i rai o nodweddion y chwarel gan chwarelwyr a'r rhai a roddwyd ar gyfer llwybrau penodol i fyny wynebau'r creigiau gan ddringwyr dros y blynyddoedd."

Dywedodd Tom Carrick o'r Cyngor: 鈥淎r 么l tyfu i fyny gyda鈥檙 Gymraeg a byw yng Ngwynedd,聽am y rhan fwyaf o鈥檓 bywyd, mae鈥檔 aml yn fy nhristau i weld y gwrthdaro rhwng fy mamiaith a dringo, fy angerdd a gyrfa sydd i gyd yn聽rhyng-gysylltiedig.

"Mae鈥檔 bwysig cofio ein hanes, ond hefyd bod dringo wedi dod 芒 diwydiant cwbl newydd i鈥檙 ardal ac ystyron newydd i鈥檙 llinellau a鈥檙 profiadau sydd gan ddringwyr."

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Naddwr llechi yn Chwarel y Penrhyn

Mewn datganiad pellach yn dilyn hynny, dywedodd Cyngor Mynydda Prydain (BMC): "Yn dilyn y cynnwrf diweddar ynghylch enwi chwareli llechi Dinorwig, mae鈥檙 BMC am bwysleisio ein bod yn ymroddedig i, ac yn gefnogol i鈥檙 defnydd o enwau Cymraeg hanesyddol pob rhan o鈥檙 chwareli.

"Mae鈥檙 BMC yn awyddus i archwilio ffyrdd o greu cofnod o wybodaeth hanesyddol ac enwau sy鈥檔 dogfennu鈥檔 gywir ac yn rhannu鈥檙 traddodiadau a鈥檙 enwau a roddir gan y rhai a fu鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 diwydiant chwareli am nodweddion daearyddol, agweddau unigryw ar y diwylliant cenedlaethol arwyddocaol hwn, a thraddodiadau鈥檙 cyfnod, a hanes mwy diweddar dringo.

"I gyflawni鈥檙 nod hwn rydym yn gweithio gyda Cadw a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i ddatblygu ein strategaeth, ac i gefnogi鈥檙 Rhestr Statudol o Enwau Lleoedd Hanesyddol.

"Gobeithiwn y bydd y gwaith a wneir ar hyn o bryd yn annog dringwyr a mynyddwyr y dyfodol i chwilio am y wybodaeth am enwau hanesyddol ar draws y byd cyn ychwanegu enwau newydd lle mae rhai sydd wedi鈥檜 rhoi鈥檔 lleol yn bodoli eisoes."