麻豆官网首页入口

Rhedeg pum marathon i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 cyflwr MND

Huw JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw Jones ar ddiwrnod cyntaf yr her pum marathon mewn pum niwrnod

  • Cyhoeddwyd

Taith o dros 130 o filltiroedd - dyna sy'n wynebu Huw Jones o Gaerffili dros yr wythnos hon.

Mae'r athro addysg gorfforol wedi penderfynu rhedeg pum marathon mewn pum diwrnod er mwyn codi ymwybyddiaeth o Glefyd Motor Niwron (MND).

Mae'n dweud hefyd bod angen mwy o ymchwil i ddarganfod gwellhad.

Cafodd chwaer-yng-nghyfraith Huw, Brigette, ddiagnosis o'r clefyd ddwy flynedd yn 么l.

Dywed Huw iddo benderfynu ar yr her "dri neu bedwar mis yn 么l nawr", ar 么l bod yng ngogledd Cymru gyda'i wraig, gan ei fod "mo'yn 'neud rhywbeth i godi arian".

Tarodd ar y syniad o redeg o'r t欧 ym Marford, Sir Wrecsam "lle gafodd Brigette ei magu" a chartref presennol ei rhieni ym Machen Isaf, ar gyrion Casnewydd.

"Edrychais i ar y pellter - mae tua phum marathon - felly be' am 'neud pump mewn pump?

"A wedodd fy ngwraig: 'Paid 芒 bod mor ddwl!'"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw gyda'r teulu wrth baratoi am yr her o'i flaen

Gobaith Huw ydy codi arian i鈥檙 elusen a sefydlodd y diweddar chwaraewr rygbi Doddie Weir wedi iddo yntau gael diagnosis MND.

"Fel rhywun sy' 'di bod ynghlwm gyda rygbi ers o'n i'n blentyn bach, o'dd y ddau beth yn cysylltu yn dda gyda'i gilydd.

"Fi jest yn credu bod e'n gyflwr mor greulon ac un sydd angen codi ymwybyddiaeth amdano fe.

"Does dim lot fawr - yn amlwg, ma' Rob Burrow [y cyn chwaraewr rygbi'r gynghrair a fu farw gydag MND a'i gyd-chwaraewr] Kevin Sinfield wedi 'neud gymaint i godi ymwybyddiaeth o鈥檙 gymuned MND a [fi mo'yn] jest trio adio tyme bach at hynny."

Ers i Brigette dderbyn ei diagnosis, esboniodd Huw fod y teulu cyfan wedi gorfod "dod i'r arfer" 芒 sut mae'r clefyd yn effeithio ar fywydau pobl.

"Yn wreiddiol gyda MND, dy'n nhw ddim yn gweud yn syth taw hwnna yw beth sydd gyda chi, ond ma' nhw'n mynd trwy gyfres o bethau eraill.

"Mae jest yn bwrw chi ar adegau gwahanol.

"Mae 'di cymryd sbel i ni ddod i'r arfer 芒'r gofynion ar gyfer e."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Brigette gyda'i chwaer, Penny

Mae cryfder a dygnwch Brigette wedi bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw i gyd, meddai.

"Ma' hi jest mor bositif am bopeth, jest yn brwydro mor galed am bopeth.

"Ma'r meddylfryd yna sydd gyda hi yn ysbrydoliaeth i mi, yn ddyddiol.

"Os ma' unrhyw beth yn mynd bach yn galed, fi jest yn meddwl am bopeth ma' hi yn mynd trwy bob dydd a dyw e ddim byd i gymharu gyda hwnna."

Un achos MND ymhob 300

Yn 么l y Gymdeithas Clefyd Motor Niwron, mae 5,000 o oedolion yn dioddef o'r clefyd ar draws y DU ar unrhyw un adeg.

Y risg o berson yn datblygu MND yw un ymhob 300.

Mae MND yn effeithio ar bawb yn wahanol, a gall y clefyd ddatblygu ar gyflymder gwahanol hefyd, yn 么l y gymdeithas.

Rhai o'r arwyddion mwyaf cyffredin yw:

  • Gwendid cyhyrau

  • Cymalau tynn

  • Trafferth cyfathrebu ar lafar

  • Trafferth llyncu, bwyta ac yfed

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r teulu i gyd yn rhyfeddu at ddygnwch Brigette wrth iddi fyw gyda MND

Nid yw Brigette yn gallu cyfathrebu ar lafar bellach ac mae'r "dirywiad" yn ei hiechyd wedi bod yn "anodd" i'w weld.

"O'dd pethau o'dd hi'n gallu 'neud tro diwetha' o'n i'n gweld hi, dyw hi ddim yn gallu 'neud tro yma," medd Huw.

"Mae鈥檔 rili anodd i weld rhywun sydd yn rili agos i chi yn mynd trwy hwnna.

"O'dd hi鈥檔 alluog iawn - [o'n i'n] gallu cal sgyrsiau rili dwfn am lot o bethau gwahanol gyda hi, a hwnna sy'n anodd wedyn.

"Ers i hwn ddigwydd, mae mor benderfynol bod hi mynd i 'neud popeth mae'n gallu i ymladd hwn.

"Dyna beth sy'n ysbrydoli fi yn ddyddiol."

Pynciau cysylltiedig