麻豆官网首页入口

Drama yn rhoi llais i fenywod mewn carchar

Golygfa o ddrama A VisitFfynhonnell y llun, Kirsten Mcternan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Golygfa o ddrama A Visit

  • Cyhoeddwyd

Mae drama newydd yn gofyn y cwestiwn: pwy sy'n gofalu am y plant pan fydd eu mam yn cael ei hanfon i'r carchar?

Gan nad oes carchar i fenywod yng Nghymru, ysbrydolwyd yr awdur o Aberd芒r, Si芒n Owen, i ysgrifennu drama A Visit am yr effaith mae hyn yn ei gael ar ferched o Gymru a鈥檜 teuluoedd.

Mae'n rhaid i deuluoedd deithio ar gyfartaledd rhwng tair a phedair awr tu allan i Gymru i weld eu perthnasau yn y carchar, gan fynd 芒 phlant ifanc gyda nhw.

Bu Branwen Davies, sy'n ymddiriedolwr i gwmni theatr Papertrail, yn siarad ar raglen Ffion Dafis ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru am y ddrama A Visit ac yn arbennig am yr effaith ar blant pan fod eu mam yn cael ei charcharu.

Ffynhonnell y llun, Branwen Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Branwen Davies

Meddai Branwen: 鈥淏eth sy鈥檔 digwydd i鈥檙 plant a鈥檙 pobl ifanc 鈥榤a 鈥 yn aml iawn maen nhw鈥檔 colli cartref, ysgol a ffrindiau o fewn wythnosau. Maen nhw鈥檔 colli bob dim sy鈥檔 gyfarwydd i nhw. Yn aml maen nhw鈥檔 mynd at aelodau o鈥檙 teulu neu mewn rhai achosion i鈥檙 system gofal.

鈥淢ae lot o鈥檙 mamau [sy鈥檔 mynd i鈥檙 carchar] yn famau sengl felly does 鈥榥a ddim partner na tad yno. Yn aml iawn maen nhw鈥檔 ferched sy鈥 wedi dioddef trais ac hefyd wedi bod mewn perthynas dreisgar felly mae o鈥檔 gymhleth.鈥

Mae tri chwarter y merched sy鈥檔 cael eu carcharu ym Mhrydain yn famau i blant dan 18 oed, gyda llawer o deuluoedd ifanc yn gorfod wynebu pellteroedd maith i deithio.

Yn 么l Branwen: 鈥淒oes 鈥榥a ddim carchar i ferched yng Nghymru felly os ydy merch yn gorfod mynd i garchar mae鈥檔 golygu fod y teulu yn gorfod teithio. Dyw hwnna ddim yn hawdd 鈥 mae鈥檔 gostus ac mae鈥檔 cymryd amser.

鈥淢ae鈥檙 stori yma yn y ddrama A Visit yn ymweliad lle maen nhw wedi codi am bump y bore a dyw nhw ddim wedi gweld ei gilydd ers misoedd. Ac mae鈥檔 strach.

鈥淢ae Bridget Keehan, cyfarwyddwr artistig y cwmni a Si芒n Owen y dramodydd wedi bod yn siarad efo merched sy鈥 mewn carchar 鈥 mamau a鈥檜 plant sy鈥 wedi cael eu effeithio gan y ffaith bod nhw mewn carchar a鈥檔 dweud y straeon dirdynnol hynny.

Rhannu straeon

鈥淢ae pobl yn teimlo yn ofnus i ddechrau efo [i rannu eu stori bersonol] 鈥 dyw nhw ddim eisiau cael eu barnu.

"Ond unwaith maen nhw鈥檔 teimlo fod gynno nhw glust ac mae hwnna鈥檔 glust sy鈥檔 barod i wrando, maen nhw鈥檔 licio cael cynulleidfa i wrando jest i gael eu profiad nhw wedi ei glywed. I gael mynd mewn i鈥檙 celfyddydau wedyn a bod pobl yn rhoi gwrandawiad iddi nhw.鈥

Ffynhonnell y llun, Cameron Slater Photography
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Si芒n Owen

Mae鈥檙 dramodydd Si芒n Owen wedi gosod y ddrama yn nhref enedigol ei theulu, Aberd芒r, fel mae Branwen yn esbonio: 鈥淢ae鈥檙 teulu mae鈥檙 ddrama yn ymwneud 芒 hi yn dod o Aberd芒r yn wreiddiol 鈥 mam, merch sy鈥檔 15 oed a chwaer y fam sy鈥檔 cymryd gofal o Angharad, y ferch 15 oed.

鈥淢ae Si芒n yn ddramodydd ffantastig sy鈥檔 creu merched cryf, eofn, beiddgar. Mae鈥檔 ddrama galed ac anodd ond mae hiwmor a chariad yna. Mae perthynas y dair ferch a鈥檙 cwmwl deuluol 鈥榥a mor bwerus a ddirdynnol.

鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn gweithio efo鈥檙 gymunedau sy鈥檔 cael eu heffeithio ac hefyd gweithio efo elusennau.

Ffynhonnell y llun, Kirsten Mcternan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bethan McLean, Lizzie Caitlin Bennett a Siwan Morris

鈥淢ae鈥檙 celfyddydau yn gallu neud byd o les i gymaint ohono ni, mae o鈥檙 ffisig gorau felly mae hynny鈥檔 bwysig.鈥

Mae A Visit yn cael ei berfformio yng nghanolfan celfyddydau YMa, Pontypridd rhwng 30 Medi a 5 Hydref.