麻豆官网首页入口

Bwrdd newydd i ystyried r么l bywyd gwyllt yn lledaeniad TB?

Nia Thomas a Huw Irranca DaviesFfynhonnell y llun, Ffermio/Telesgop
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru yn ystyried ymestyn prosiect arbrofol TB Sir Benfro i weddill Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fyddai ddim yn syndod pe bai bwrdd newydd sydd wedi ei sefydlu i edrych ar TB mewn gwartheg yn dod i鈥檙 casgliad bod angen edrych ar r么l bywyd gwyllt yn lledaeniad y clwy', yn 么l Ysgrifennydd Materion Gwledig Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad ar raglen Ffermio S4C dywedodd Huw Irranca Davies y bydd y bwrdd a fydd yn cyfarfod cyn diwedd y flwyddyn am y tro cyntaf - yn gorfod edrych ar yr hyn sy鈥檔 llwyddo wrth fynd i鈥檙 afael 芒 TB buchol ac i ba gyfeiriad arall sydd angen mynd.

Dywedodd: 鈥淔yddwn i ddim yn synnu - er ein bod ni鈥檔 gwybod fod prif drosglwyddiad yr haint o wartheg i wartheg ac o wartheg i foch daear 鈥 y bydd angen i ni hefyd edrych ar storfeydd o fewn bywyd gwyllt.

鈥淥nd dwi鈥檔 gadael iddyn nhw [y bwrdd] edrych ar hynny a ble arall sydd angen i ni fynd,鈥 meddai.

'Dysgu gwersi'

Dywedodd Mr Irranca-Davies hefyd ei fod yn ystyried ymestyn prosiect arbrofol TB Sir Benfro i weddill Cymru ac ymestyn hyd y cynllun presennol yn y sir y tu hwnt i ddwy flynedd.

鈥淩wy鈥檔 ystyried sut i symud hyn ymlaen a sut mae dysgu gwersi ar gyfer gweddill Cymru,鈥 meddai.

Sylfaen y cynllun yn Sir Benfro ydi clustnodi milfeddyg i gydweithio鈥檔 uniongyrchol 芒 15 o ffermwyr dros ddwy flynedd.

Mae鈥檙 cynllun yn canolbwyntio ar fioddiogelwch pob fferm yn unigol ac yn astudio data pob anifail er mwyn gweld pa fuwch sydd fwyaf tebygol o ddatblygu TB.

Mae gan y ffermwr ddewis i ddifa yr anifail sydd yn y categori risg uchel - categori coch - yn wirfoddol.

Mae鈥檙 dici芒u mewn gwartheg yn broblem ddifrifol yn y sir gyda bron i 40% o鈥檙 holl anifeiliaid a gafodd eu difa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghymru yn Sir Benfro.

Ffynhonnell y llun, Ffermio/Telesgop
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Michael Williams yn ffermio ger Cas-mael, Sir Benfro

Un o鈥檙 ffermwyr sydd yn rhan o鈥檙 prosiect ydi Michael Williams 鈥 sy鈥檔 ffermio ger Cas-mael, Sir Benfro.

Mae鈥檔 dweud bod fferm odro鈥檙 teulu wedi bod mewn ac allan o gyfyngiadau TB ers sawl blwyddyn 鈥 a鈥檌 fod o blaid edrych ar ffyrdd gwahanol o geisio cael gwared 芒鈥檙 clwy'.

Dywedodd Mr Williams: 鈥淒aeth y milfeddyg aton ni a gofyn i ni oes oedden ni mo鈥檡n gwneud rhywbeth yn wahanol 鈥 gweithio 'da鈥檔 gilydd. - ddim gwneud yr un peth achos os chi鈥檔 gwneud yr un peth drwy鈥檙 amser chi鈥檔 mynd i gael yr un canlyniadau."

Esboniodd Mr Williams bod rhaid edrych ar ddwy ochr i'r prosiect.

鈥淓drych ar risk rate y da sydd wedi ei greu gan y prawf croen ac edrych ar y da sydd 芒 risg uchel o gario鈥檙 clefyd. Yr ochr arall ydi biosecurity.

"Y cam mwyaf i ni oedd cau鈥檙 herd lawr, i beidio a phrynu mwy o dda mewn a gorfod magu popeth ein hunain.

"Pethau eraill oedd rhoi foot dips rhwng siediau fel bod ni ddim yn cario dim byd o鈥檙 da i鈥檙 lloi.

"Ni hefyd 'di gwneud ychydig o waith rownd moch daear - a gweld lle maen nhw鈥檔 gweithio ar y fferm,鈥 ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Ffermio/Telesgop
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Michael Williams o blaid edrych ar ffyrdd gwahanol o geisio cael gwared 芒鈥檙 clwy

Ar 么l gosod camer芒u ar y fferm a gweld olion baw, roedd gan Michael dystiolaeth i ddangos symudiadau moch daear ar y fferm.

Penderfynodd godi ffens newydd er mwyn atal y moch daear a鈥檌 wartheg godro rhag cymysgu.

Esboniodd Mr Williams: "Fi鈥檔 gwbod bod y clefyd yn y fuches a fi鈥檔 gwbod hefyd o鈥檙 arolwg badger found dead survey bod y moch daear yn yr ardal hon yn glir (o TB).

"Ond ma fe鈥檔 pwysig i ni beidio 芒 gadael i鈥檙 moch daear pigo TB lan o鈥檙 gwartheg a mynd 芒 fe i fferm arall,鈥 meddai.

Mae Mr Williams o blaid gweld y cynllun yn Sir Benfro yn cael ei ymestyn y tu hwnt i鈥檙 ddwy flynedd.

Dywedodd: "Mae ishe mwy o amser er mwyn i ni weld effaith.

"Yn lle bod milfeddyg yn tynnu da oddi ar y fferm ni mo鈥檡n cydweithio a dod lan 芒 plan sy鈥檔 siwtio ni 鈥 sydd yn wahanol i鈥檙 fferm lawr yr hewl.

Mae modd gweld cyfweliad Nia Thomas gyda'r Ysgrifennydd Materion Gwledig yn rhifyn yr wythnos hon o Ffermio

Pynciau cysylltiedig