麻豆官网首页入口

Morgan yn cymharu ei dylanwad ar Starmer i'w dylanwad ar Trump

Kier Starmer ac Eluned Morgan Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan mai unwaith y mae hi wedi cyfarfod Keir Starmer

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymharu ei dylanwad ar Brif Weinidog y DU gyda鈥檌 dylanwad ar Donald Trump.

Wrth siarad 芒 rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C dywedodd Eluned Morgan na ddylid 鈥済orddweud maint fy nylanwad i鈥 ar Keir Starmer.

Pan ofynnwyd iddi pam na fyddai鈥檔 galw am ailystyried toriadau Syr Keir i daliadau tanwydd y gaeaf, dywedodd y gallai hi 鈥渁lw ar Donald Trump i wneud pethau hefyd".

Dywedodd Plaid Cymru fod y sylwadau yn 鈥渨arthus a phryderus鈥 tra bod y Ceidwadwyr yn dweud nad yw鈥檙 sylwadau鈥檔 syndod.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Eluned Morgan y gallai hi "alw ar Donald Trump i wneud pethau hefyd"

Yn 么l amcangyfrif Llywodraeth y DU, bydd penderfyniad Keir Starmer i dorri taliadau tanwydd y gaeaf i鈥檙 mwyafrif o bensiynwyr yn cael effaith ar 400,000 o gartrefi yng Nghymru.

Bydd y newid yn golygu mai dim ond y pensiynwyr hynny sy鈥檔 derbyn credyd pensiwn neu fudd-daliadau eraill fydd nawr yn gymwys am y taliad i helpu gyda chostau cynhesu鈥檙 gaeaf, sy鈥檔 werth hyd at 拢300.

Wrth ymateb i feirniadaeth o鈥檙 polisi hwnnw a鈥檌 effaith ar bensiynwyr yng Nghymru, dywedodd Morgan y byddai hi鈥檔 鈥渃anolbwyntio ar yr hyn sydd o fewn fy ngofal i".

"Mae 'na bethau dwi鈥檔 methu effeithio arnyn nhw," meddai.

Pan ofynnwyd iddi pam na allai alw ar Keir Starmer i ailystyried y polisi, dywedodd Morgan: 鈥淕allen i alw ar Donald Trump i wneud pethe hefyd.鈥

O鈥檌 holi oni fyddai ganddi fwy o ddylanwad ar gyd-arweinydd yn y blaid Lafur na chyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, dywedodd Morgan fod ganddi 鈥渂erthynas nawr gyda Keir Starmer".

"Dim ond unwaith fi wedi cwrdd ag e felly gadewch i ni beidio gorddweud maint fy nylanwad i.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd miliynau o bensiynwyr yn colli lwfans taliadau tanwydd y gaeaf eleni

Yn 么l arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, does 鈥渄im syndod mai prin yw dylanwad Prif Weinidog Cymru dros Brif Weinidog Prydain".

"Dros y 25 mlynedd ddiwethaf mae Llafur yng Nghymru wedi bod yn astudiaeth achos mewn sut i beidio llywodraethu, felly does dim llawer o bobl fyddai鈥檔 troi at Brif Weinidog Cymru am gyngor," meddai.

鈥淥nd ar faterion pwysig, fel y penderfyniad anfaddeuol i dorri taliadau tanwydd y gaeaf, yn anffodus, mae Starmer a Morgan ar yr un dudalen ta beth.鈥

Dywedodd Aelod Plaid Cymru o鈥檙 Senedd, Sioned Williams, ei bod hi鈥檔 鈥渨arthus a phryderus clywed hi鈥檔 gwadu bod ganddi ddylanwad鈥.

鈥淒ro ar 么l tro, mae鈥檔 prif weinidog newydd yn gwrthod derbyn ei bod hi angen sefyll lan i San Steffan i warchod buddiannau pobl Cymru, er iddi ddweud droeon y byddent yn elwa o gael dwy lywodraeth Lafur bob pen i鈥檙 M4.鈥

Pynciau cysylltiedig