麻豆官网首页入口

Y brawd a chwaer sy'n 'byw am feicio'

Ffion a MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Yn ystod diflastod y cyfnod clo mi wnaeth brawd a chwaer o Dreffynnon gychwyn hobi newydd sef reidio beiciau BMX a beiciau mynydd. Erbyn hyn mae Morgan a Ffion wedi profi cryn lwyddiant yn y maes gan ennill nifer o wobrau yn rasio ac yn perfformio campau ar y beics.

Cafodd Morgan, sy'n 15 oed, ei enwi fel reidiwr newydd y flwyddyn 2023 gan MBUK (Mountain Biking UK), rhywbeth mae'n ystyried yn uchafbwynt ei yrfa beicio hyd yma, yn enwedig gan iddo ymddangos ar glawr cylchgrawn MBUK.

Ac er bod y ddau yn gystadleuol gyda鈥檌 gilydd maen nhw鈥檔 gyt没n mai un peth sy鈥檔 gyfrifol am eu llwyddiant hyd yma, sef ymarfer. Mae'r ddau wedi dysgu eu sgiliau eu hunain ac maent yn 'byw am feicio' yn 么l eu mam Cora.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae鈥檙 brawd a'r chwaer yn cydnabod eu bod yn lwcus iawn eu bod nhw'n byw yn ardal Treffynnon oherwydd mae 鈥檔a ddigon o lefydd yno i fynd i ymarfer ac i drio campau newydd.

Mae beicio mynydd yn gamp sy鈥檔 golygu reidio beic ar dirwedd garw fel mynyddoedd neu greigiau. Antur Stiniog yw hoff le y ddau i ymarfer 鈥 er maen nhw鈥檔 ddigon hapus yn ymarfer eu triciau tu allan y t欧 ar y stryd hefyd.

Meddai Morgan: 鈥淎ethon ni i feicio mynydd yn y cyfnod clo ac yna penderfynon ni gario ymlaen i reidio.

鈥淩oeddem yn ymarfer dipyn ar y mynydd ac yna fe aeth yr holl beth o fan yna a dechreuon ni wneud ein neidiau ein hunain.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Morgan, sy' wedi cystadlu yng nghystadleuaeth neidio Dirt Wars Malvern

鈥淐awsom ni feiciau BMX fel anrheg Nadolig ac mi wnaeth hynny roi fwy o hyder i ni neidio a gwneud stunts.

鈥淧an oedden ni dan glo o鈥檔 ni鈥檔 dysgu rhywfaint o stunts oedd yn frawychus ar y cychwyn ond wedyn y mwyaf chi'n gwneud nhw mae鈥檔 dod yn haws. Ni鈥檔 gwneud llawer o stunts brawychus erbyn hyn!鈥

Mae Ffion, sy鈥檔 12 oed, yn cytuno: 鈥淩ydyn ni'n dal i syrthio yn aml a dwi wedi torri fy ngarddwrn. Ond ni eisiau reidio o hyd.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffion yn neidio'n uchel ar y beic. Mae hi wedi ennill medalau gan gynnwys tair medal aur ac un fedal arian mewn rasys ym Malvern dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Ffion wedi ennill medalau arian a medal aur yng nghystadleuaeth Backyard Jam ar gyfer BMX Freestyle ac hefyd wedi ennill aur mewn ras fynydd eleni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Hoff sgiliau

Meddai Ffion, oedd y ferch gyntaf erioed i gymryd rhan yng nghystadleuaeth neidio Dirt Wars: 鈥淢wy na thebyg gwneud 360 yw tric gorau fi 鈥 chi鈥檔 gwneud spin 360 ar dy feic. Dwi jest yn cario mlaen i drio nes mod i鈥檔 gallu gwneud rhywbeth. Ond dorrais i fy ngarddwrn yn gwneud y 360 yn anffodus.鈥

A beth yw hoff dric Morgan?

Meddai: 鈥淒wi鈥檔 gallu gwneud backflip ar y beic 鈥 dwi鈥檔 ymarfer hwnnw mewn parc sgrialu (skatepark).鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Morgan mewn parc sgrialu

Cystadleuaeth

Mae鈥檙 ddau yn cytuno fod y ddau yn gystadleuol gyda鈥檌 gilydd ond fod Morgan mymryn yn fwy cystadleuol na Ffion.

Ond mae'r brawd h欧n yn taeru fod hi鈥檔 help i gael cwmni ei chwaer wrth iddo ddatblygu ei sgiliau: 鈥淢i fyddwn dal wedi bod eisiau beicio heb Ffion ond mae鈥檔 help i gael dau ohonom yn gwneud gyda'n gilydd.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffion ar gychwyn ras. Mae Ffion wedi cyrraedd y 10 terfynol yng nghystadleuaeth MBUK am reidiwr newydd y flwyddyn eleni

Uchafbwynt

Tra bod ei brawd wedi ennill gwobr am fod yn dalent newydd, uchafbwynt Ffion hyd yma oedd ymddangos ar Blue Peter.

Felly beth nesaf i鈥檙 ddau?

鈥淢wy o reidio鈥 yw ateb Morgan tra fod Ffion yn edrych ymlaen i gymryd rhan mewn mwy o rasys eleni gan gynnwys rhai yng Nghymru. Mae鈥檙 ddau yn mynd i Dragon Races yn Rhyl pan fo cyfle.

Meddai Morgan: 鈥淒wi eisiau bod yn fersiwn gwell o fy hun ond hefyd cael fy noddi gan Red Bull neu Monster.鈥

Mae uchelgais Ffion yn debyg: 鈥淗offwn fod yn reidiwr proffesiynol ac hefyd cael fy noddi.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Pynciau cysylltiedig