Carchar y Parc: Cludo tri charcharor i'r ysbyty

Disgrifiad o'r llun, Ers 27 Chwefror mae 10 carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc

Mae tri o garcharorion wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiadau mewn carchar lle mae deg o bobl wedi marw ers mis Chwefror.

Dywedodd cwmni diogelwch G4S, sy'n rheoli Carchar y Parc ym Mhen-y-bont, eu bod wedi delio 芒 "dau ddigwyddiad ar wah芒n" ar y safle ddydd Gwener.

Roedd y cyntaf, meddai G4S, yn ymwneud 芒 thua 20 o garcharorion a chafodd ei ddirwyn i ben yn ddiogel gyda chymorth gan y gwasanaeth carchardai.

Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd wedi'r ail ddigwyddiad - sydd wedi ei ddisgrifio fel "ffrwgwd".

Dywedodd llefarydd ar ran G4S: "Fe wnaeth staff Carchar y Parc ymateb yn sydyn i ddelio 芒 dau ddigwyddiad byr yn ymwneud 芒 charcharorion ddydd Gwener. Ni chafodd unrhyw swyddogion eu hanafu.

"Bydd y rhai oedd yn gyfrifol yn cael eu cosbi yn llym, ac mae erlyniadau troseddol yn bosib."

Ers 27 Chwefror mae 10 carcharor wedi marw yng Ngharchar y Parc - gyda'r diweddaraf - Warren Manners, 38 - yn marw ddydd Mercher.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd protest ei chynnal gan deuluoedd yn galw am "gyfiawnder".

Y gred yw bod pedwar o'r marwolaethau ar y safle yn ymwneud 芒 chyffuriau, tra bod un aelod o staff y carchar wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud 芒 chyffuriau.

Mynnodd G4S bod ganddyn nhw "bolisi dim goddefgarwch tuag at gyffuriau".