Llywydd y Steddfod yn ofni y bydd denu pobl i grwydro'r sir gyfan yn her

Disgrifiad o'r llun, Cennard Davies yw Llywydd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf dywed Llywydd yr 糯yl ei fod yn gobeithio'n fawr y bydd eisteddfodwyr yn crwydro'r ardal gyfan.

Bydd Cennard Davies, sy'n frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda, yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn brynhawn Sadwrn.

"Dwi'n sylwi bod llawer iawn o'm ffrindiau yn aros yng Nghaerdydd oherwydd diffyg gwestai ac yn y blaen ac er holl frwdfrydedd Siambr Fasnach Treorci ac ardaloedd eraill i ddenu pobl - dwi'n ofni y bydd hi'n dipyn o job i ddenu pobl yma," meddai.

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Helen Prosser, ei bod hi'n "fraint anrhydeddu Cennard Davies" - gan ei ddisgrifio fel "dyn ei filltir sgw芒r sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan".

Disgrifiad o'r llun, Mae croeso mawr i Eisteddfodwyr yn Nhreorci, medd Cennard Davies

"Gobeithio'n wir y bydd eisteddfodwyr yn mentro i Dreorci ac ardaloedd eraill. Mae gen i erthygl yn y rhifyn cyfredol o Barn yn awgrymu llefydd i bobl ymweld 芒 nhw," meddai Mr Davies.

"Mae'r Rhondda, er enghraifft, yn hardd ac yn wyrdd iawn erbyn hyn. Dwi'n cofio pysgota am grachwns pan oedd yr afon yn ddu - dyna'r unig bysgod oedd yn gallu goroesi!

"Rywsut dyw llawer o bobl ddim yn gwybod rhyw lawer am y Rhondda - pan rwy' wedi bod yn mynd i gyfweliad neu gyfarfod yng Nghaerdydd mae pobl wedi bod yn gofyn i fi a ydw i angen llety!

"Dyw e ddim yn bell. Mae'n braf iawn yma gyda'r mynyddoedd o gwmpas yn fendigedig - felly gobeithio bydd pobl yn dod."

Disgrifiad o'r llun, Ardaloedd y Brifwyl eleni

Yn ei erthygl yn Barn, mae Cennard Davies yn annog eisteddfodwyr i ymweld 芒 gwahanol fannau yn yr ardal.

Ymhlith y llefydd ar y rhestr mae Parc Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod, Y Porth, cartref y bardd a'r dramodydd Kitchener Davies yn Nhrealaw, Tonypandy, Llwyn-y-pia, Ton Pentre, Treorci, Treherbert, Blaenrhondda, Pen-rhys, Tylorstown, Ferndale a'r Maerdy.

Disgrifiad o'r llun, Mae Cennard Davies yn annog pobl i ymweld 芒 Chanolfan Treftadaeth y Rhondda yn Nhrehafod

"Mae'n ardal hyfryd ac yn un sydd wedi codi llawer o arian mewn amser byr at yr Eisteddfod," ychwanegodd Mr Davies.

"Tua mis Medi y llynedd na'th pethe ddechrau o ddifri' ac ers hynny mae nifer o achlysuron codi arian wedi bod.

"Mae'r ardal wedi codi dros 拢300,000 mewn byr amser - yr ardal gyfan yn hynod o gefnogol."

Ysgolion yn 'destun gobaith ar gyfer y dyfodol'

Ar 么l graddio o Brifysgol Abertawe, dychwelodd Cennard Davies i鈥檞 hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro am gyfnod cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon.

Bu wedyn yn dysgu Cymraeg i oedolion am weddill ei yrfa.

Wrth drafod dyfodol y Gymraeg yn y Rhondda dywed fod yna lawer iawn o ymrwymiad i'r iaith ymhlith y trigolion a bod yr ysgolion Cymraeg yn llwyddo.

"Mae pobl yn difaru nad ydyn nhw'n gallu siarad yr iaith. Mae'r ysgolion yn llewyrchus. Mae yna bump o ysgolion yn y Rhondda ond eto i gyd mae'n gallu bod yn anodd gan nad ydyn nhw'n ysgolion lleol.

Disgrifiad o'r llun, "Mae ysgolion Cymraeg y Rhondda yn llewyrchus er yn bell i rai i deithio," medd Mr Davies

"Maen nhw'n ysgolion ardal ac felly o ganlyniad mae pwysau ar y cyngor i ddarparu trafnidiaeth i fynd 芒'r plant i'r ysgol.

"Gan nad yw incwm y pen i bob disgybl yn uchel iawn 'ma - mae yna bwysau wedyn ar deuluoedd ac mae hynny yn gallu penderfynu ar ddewis rhieni.

"Ond ni'n lwcus bod yma bump o ysgolion ac ysgol uwchradd ond i fynd i'r ysgol uwchradd o Flaenrhodda mae'n rhaid teithio wyth neu naw milltir bob dydd.

"Mae hynny'n gofyn tipyn ond maen nhw'n ysgolion llwyddiannus iawn sy'n destun gobaith ar gyfer y dyfodol."

Ychwanega Cennard Davies ei fod yn hynod o falch bod yna fwy o barch i'r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diweddar.

"Yn fy nghyfnod i ychydig iawn o fy ffrindiau o'dd yn siarad Cymraeg a phan na'th mam John Bwlch-llan ofyn am gael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, yr ateb oedd bod hi'n gyfnod o ryfel a bod angen uno pobl yn hytrach na'u rhannu.

"Yr adeg honno roedd y Gymraeg yn cael ei gweld felly - fel rhywbeth oedd yn rhannu pobl yn hytrach na'u cyfannu. Diolch fod y sefyllfa wedi newid."

Mae cryn edrych ymlaen at araith Cennard Davies yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn.

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Helen Prosser: 鈥淢ae鈥檔 fraint anrhydeddu Cennard Davies fel Llywydd Eisteddfod 2024 鈥 dyn ei filltir sgw芒r sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan.

鈥淢ae ei gyfraniad i鈥檙 sector Dysgu Cymraeg 鈥 yn lleol ac yn genedlaethol 鈥 yn amhrisiadwy. G诺r bonheddig a sgwrsiwr heb ei ail, mae鈥檔 donic i gael treulio amser yn ei gwmni.鈥