麻豆官网首页入口

Teulu dyn 95 oed yn poeni am effaith cau Ysbyty Tregaron

Disgrifiad,

Mae mab Rhythwyn Evans, Dai Charles, yn poeni am effaith cau Ysbyty Tregaron

  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryderon y gallai cau ysbyty cymunedol Tregaron olygu mwy o bwysau ar ysbytai eraill yng ngorllewin Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig cau鈥檙 ysbyty, sydd 芒 naw gwely i gleifion mewnol, er mwyn darparu gwasanaethau i gleifion yn eu cartrefi.

Ymhlith y rhai sy鈥檔 poeni mae teulu dyn 95 oed sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd wedi iddo ddisgyn.

Fe wnaeth Rhythwyn Evans godi dros 拢50,000 i Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystod y pandemig.

Cafodd ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore i gerdded o amgylch ei fyngalo 91 o weithiau ar ei ben-blwydd yn 91 oed yn 2020.

Yn 么l y bwrdd iechyd byddai mwy o gleifion yn derbyn gofal dan y cynllun newydd, ac ni fyddai'n cael effaith ar ysbytai eraill yn y gorllewin.

Ffynhonnell y llun, Dai Charles Evans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Rhythwyn Evans yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd wedi iddo ddisgyn

Dywed mab Mr Evans y gallai colli gwelyau yn Nhregaron arwain at fwy o gleifion yn cael eu trin mewn coridorau neu eu cadw mewn ambiwlansys y tu allan i ysbytai oherwydd prinder gwelyau.

Dywedodd Dai Charles Evans: 鈥淧an aeth fy nhad i mewn i鈥檙 ysbyty ym Mronglais, treuliodd y pum diwrnod cyntaf ar droli mewn coridor cyn i wely ddod ar gael.

"Mae ambiwlansys wedi'u pentyrru y tu allan.鈥

Dydd Iau bydd cyfarfod yn cael ei gynnal i drafod dyfodol Ysbyty Tregaron.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnig cael gwared ar y gwelyau yn yr ysbyty a rhoi gwasanaethau yn y gymuned yng Ngheredigion yn eu lle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn deall fod pedwar o gleifion yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd

Mae Rythwyn Evans ar hyn o bryd yn aros am gynllun gofal cyn y gall adael yr ysbyty.

Dywed ei fab: 鈥淢ae niferoedd [y gwelyau] wedi gostwng dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

"Felly mae鈥檙 cleifion a oedd yn Nhregaron wedi cael eu cludo i gartrefi gofal a chyfleusterau eraill yn y sir, a鈥檙 hyn rwy鈥檔 ei ofni yw y gallai fy nhad gael ei ofyn, neu ei symud i gartref gofal nad yw mor gyfleus.鈥

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn deall fod yna bedwar o gleifion yn derbyn gofal yn Ysbyty Tregaron ar hyn o bryd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dai Charles Evans fod y sefyllfa yn "bryderus iawn"

Mae Dilwyn Daniel yn borthor yn Ysbyty Tregaron.

Y llynedd cafodd tad Dilwyn ei gymryd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.

鈥淩oedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys mewn coridor," meddai.

"Ac roedd o yno yn y gwely am wythnos - yn hollol ofnus o'r holl gynnwrf oedd yn digwydd, ddim yn si诺r beth oedd yn digwydd.鈥

Cafodd tad Dilwyn ei symud i Ysbyty Tregaron yn ddiweddarach.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Dilwyn Daniel, byddai cau'r ysbyty yn "drychineb" i'r ardal

Yn 么l Peter Skitt, cyfarwyddwr sirol Ceredigion ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bydd staff Ysbyty Tregaron yn gallu gofalu am hyd at 40 o gleifion yn eu cartrefu.

Meddai: 鈥淣i fyddai cynnal y gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Tregaron yn ein helpu i leddfu鈥檙 sefyllfa hon [ym Mronglais] oherwydd heddiw nid oes cleifion yn aros ym Mronglais am wely yn Ysbyty Cymunedol Tregaron.

鈥淢ae cleifion wedi rhannu鈥檔 gyson y byddai鈥檔 well ganddyn nhw fod gartref, neu鈥檔 agosach at adref, ac mae hyn yn tueddu i gefnogi eu hadferiad.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Cyril Evans fod y bwrdd iechyd wedi addo adeiladu ysbyty newydd yn Nhregaron yn wreiddiol

Mae prosiect Cylch Caron yn cynnwys mwy o wasanaethau gofal, fydd yn cael eu darparu yn y gymuned.

Ond mae rhai pobl leol yn poeni am y posibilrwydd o ddiffyg gwelyau ysbyty yn yr ardal leol.

Dywedodd Cyril Evans, sy'n byw yn Nhregaron: 鈥淔e ddywedon nhw wrth bobl yn Nhregaron yn wreiddiol fod yna ysbyty newydd yn cael ei adeiladu yma.

"Nid oes ysbyty newydd. Bydd yn lle gofal iechyd integredig.鈥

Dydd Iau bydd Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyfarfod i drafod dyfodol Ysbyty Tregaron.

Fe fyddan nhw hefyd yn trafod dyfodol yr uned m芒n anafiadau yn Ysbyty Tywysog Phillip yn Llanelli a Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth.

Pynciau cysylltiedig