麻豆官网首页入口

Gr诺p Iddewig yn condemnio galwad Plaid Cymru i foicotio Israel

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn annerch y gynhadledd dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Mae galwad gan Blaid Cymru i foicotio Israel wedi cael ei feirniadu'n hallt gan gr诺p Iddewig Cymreig.

Dywedodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru eu bod "wedi dychryn", gan nodi hefyd fod y penderfyniad wedi'i wneud ar ddiwrnod mwyaf sanctaidd yn y calendr Iddewig.

Fe wnaeth Laurence Kahn, cadeirydd y cyngor, gyhuddo Plaid Cymru o roi cyfiawnhad i ymosodiadau 7 Hydref y llynedd gan Hamas - y gr诺p Palesteinaidd arfog sydd wedi eu lleoli yn Gaza.

Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi bod yn "gadarn ac yn ddiamwys wrth gondemnio鈥檙 ymosodiadau erchyll a gyflawnwyd gan Hamas".

'Gwladwriaeth apartheid'

Cafodd y cynnig yng nghynhadledd Plaid Cymru yng Nghaerdydd dros y penwythnos ei gefnogi gan bedwar Aelod Seneddol y blaid, a'i basio gan aelodau.

Roedd y cynnig yn disgrifio Israel fel "gwladwriaeth apartheid", a'u cyhuddo o "buro ethnig a throseddau rhyfel".

Bu'r prif lysgennad Palesteinaidd yn y Deynas Unedig, Husam Zomlot, yn siarad yn y gynhadledd hefyd, gan alw ar Gymru i roi pwysau ar Lywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu'r prif lysgennad Palesteinaidd yn y DU, Husam Zomlot, yn siarad yng nghynhadledd Plaid Cymru

Cafodd tua 1,200 o bobl - y mwyafrif yn drigolion Israel - eu lladd yn yr ymosodiadau gan Hamas ar 7 Hydref 2023.

Fe wnaeth Hamas - sy'n cael ei ystyried yn gr诺p terfysgol gan sawl gwladwriaeth orllewinol, gan gynnwys y DU - gymryd 251 o bobl yn wystlon, a does dim sicrwydd hyd yma beth sydd wedi digwydd i 97 o'r rheiny.

Mae tua 42,000 o bobl wedi eu lladd fel rhan o ymosodiad Israel yn Gaza, yn 么l y weinidogaeth iechyd sy'n cael ei redeg gan Hamas.

Cafodd Yom Kippur ei gynnal rhwng nos Wener a dydd Sadwrn, 12 Hydref.

Cafodd y bleidlais ar y cynnig ei gynnal ar ail ddiwrnod y gynhadledd, sef dydd Sadwrn.

Cyngor Iddewon 'wedi dychryn'

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru: "Mae penderfyniad Plaid Cymru i alw am foicot o Israel ar Yom Kippur, sef y diwrnod sancteiddiaf ar y calendr Iddewig, wedi ein dychryn."

Wrth ddisgrifio ymosodiadau Hamas ar Israel ar 7 Hydref fel "yr erchyllterau gwaethaf a gyflawnwyd yn erbyn Iddewon ers yr Holocost", fe wnaeth y cyngor gyhuddo Plaid Cymru o roi "gyfiawnhau鈥檙 gweithredoedd erchyll".

"Er gwaethaf cyhuddiadau Plaid Cymru o hil-laddiad, Hamas - nid Israel - a dargedodd sifiliaid yn fwriadol ar ac ar 么l 7 Hydref.

"Mae'r cywerthedd ffug hwn nid yn unig yn anghyfiawn ond yn beryglus gamarweiniol."

Cyhuddodd y cyngor y blaid o "gytuno 芒 safbwyntiau eithafol sydd nid yn unig yn dieithrio'r gymuned Iddewig ond sydd hefyd yn tanseilio mynd ar drywydd heddwch gwirioneddol".

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: 鈥淢ae Plaid Cymru wedi bod yn gadarn ac yn ddiamwys wrth gondemnio鈥檙 ymosodiadau erchyll a gyflawnwyd gan Hamas ar 7 Hydref.

鈥淩ydym hefyd wedi bod yn glir bod ymateb gwladwriaeth Israel wedi bod yn anghymesur a heb gyfiawnhad, gan arwain at farwolaethau degau o filoedd o sifiliaid diniwed yn Gaza.

"Rydym wedi dadlau鈥檔 gyson bod yn rhaid cynnal cyfraith ryngwladol heb ofn na ffafr.

Ychwanegodd y llefarydd: "Bydd Plaid Cymru, fel y mae wedi gwneud erioed, yn parhau i ddadlau dros gadoediad ar unwaith, rhyddhau pob gwystl yn ddi-oed, atal gwerthu arfau, diwedd ar elyniaeth gan bob plaid, a dwys谩u ymdrechion diplomyddol i geisio heddwch sefydlog a pharhaol i holl bobl Israel a Phalestina a鈥檙 rhanbarth ehangach.鈥

Pynciau cysylltiedig