麻豆官网首页入口

Osian Roberts ddim eisiau swydd rheolwr Cymru

Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Osian Roberts ei fod wedi ymrwymo i Como tan o leiaf 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae Osian Roberts wedi dweud nad yw am gael ei ystyried ar gyfer r么l rheolwr Cymru, gan ymrwymo ei ddyfodol i glwb Como yn Yr Eidal.

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi dechrau'r broses o ganfod olynydd i Rob Page, a gafodd ei ddiswyddo fel rheolwr fis diwethaf.

Roedd Roberts - cyn-is-reolwr Cymru - yn un o'r ffefrynnau ar gyfer y swydd.

Ond mae bellach wedi ymrwymo ei ddyfodol i glwb Como yn Yr Eidal, wedi iddo eu harwain o Serie B i Serie A y tymor diwethaf.

'Rhyw ddydd'

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol dywedodd Roberts: 鈥淗offwn ddiolch i Gymdeithas B锚l-droed Cymru am fynegi diddordeb mewn siarad efo fi yngl欧n 芒 r么l rheolwr t卯m cenedlaethol Cymru.

鈥淔el Cymro hynod angerddol a balch fe fyddwn i wrth fy modd yn dod yn rheolwr Cymru rhyw ddydd.

鈥淎r hyn o bryd, fodd bynnag, rydw i ar daith anhygoel gyda Como 1907, ar 么l helpu i鈥檞 harwain at ddyrchafiad hanesyddol i Serie A.

鈥淩wyf wedi ymrwymo i鈥檙 clwb gwych hwn a鈥檔 prosiect cyffrous tan o leiaf 2026 ac rwy鈥檔 ddiolchgar am byth am eu cefnogaeth a鈥檜 ffydd ynof fi.

鈥淩wy鈥檔 dymuno pob llwyddiant i d卯m cenedlaethol Cymru wrth iddynt gychwyn ar bennod gyffrous arall.

"I'r Wal Goch a holl gefnogwyr Cymru rydw i wedi bod trwy gymaint 芒 nhw - y dagrau a'r llawenydd - hoffwn ddiolch yn ddiffuant am y gefnogaeth rydw i wedi'i chael gennych chi wastad, ac yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf."

Mae cyn-seren Cymru Craig Bellamy, a chyn-ymosodwr Arsenal a Ffrainc Thierry Henry ymysg yr enwau sy'n cael eu hystyried i olynu Page.

Mae CBDC wedi cael cais am sylw.