麻豆官网首页入口

Gwrthdaro chwyrn rhwng y pleidiau ar fewnfudo

Dadl deledu etholiadFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 'na wrthdaro chwyrn rhwng y pleidiau ar y ddadl deledu nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth trafodaeth ar fewnfudo arwain at wrthdaro chwyrn mewn dadl rhwng gwleidyddion blaenllaw sy鈥檔 cynrychioli鈥檙 prif bleidiau ledled Prydain ar 麻豆官网首页入口1 nos Wener.

Y saith plaid wnaeth gymryd rhan yn y ddadl deledu fyw o Lundain oedd y Ceidwadwyr, Y Blaid Werdd, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, Reform UK a'r SNP.

Wrth agor y ddadl ar fewnfudo, dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage, fod yr holl bleidiau eraill yn meddwl bod cwestiynu mudo yn 鈥渞hywbeth anghywir鈥.

Dywedodd fod mewnfudo wedi creu 鈥渁rgyfwng poblogaeth鈥 oedd yn gwneud pobl yn dlotach ac yn lleihau ansawdd bywydau pobl ac mai 鈥渆tholiad mewnfudo鈥 ddylai hwn fod.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod rhaid newid naws y ddadl ar fewnfudo.

Dywedodd fod "gormod ohono wedi'i fframio o amgylch rhagfarn (bigotry) pobl fel Nigel Farage".

Dywedodd y byddai Plaid Cymru yn 鈥渟efyll lan yn erbyn Nigel Farage鈥 gan ychwanegu bod 鈥渁ngen mewnfudo ar gyfer y system iechyd, y system ofal a鈥檙 economi鈥.

Gan herio honiad o ragfarn, atebodd Mr Farage: "Agorwch y drysau! Gadewch i bawb ddod! Budd-daliadau i bawb!".

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod rhaid newid naws y ddadl ar fewnfudo

Ar ran yr SNP, dywedodd Stephen Flynn fod mudo yn 鈥渉ollol hanfodol鈥 ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a鈥檙 economi.

Dywedodd fod angen i ni 鈥渞oi diwedd ar y pardduo鈥 wrth drafod ymfudo.

鈥淣id yw鈥檙 ras hon i鈥檙 gwaelod ar ymfudo, a yrrwyd gan Nigel Farage, ac a ddilynir gan y blaid Geidwadol a鈥檙 blaid Lafur yn gwasanaethu buddiannau鈥檙 Alban鈥.

I鈥檙 Ceidwadwyr, dywedodd Penny Mordaunt fod lefelau mewnfudo yn rhy uchel, gan ychwanegu y byddai ei phlaid yn gosod 鈥渃ap blynyddol鈥 ar niferoedd.

鈥淏eth fydd hynny鈥檔 ei wneud yw cymryd i ystyriaeth anghenion economaidd y gweithlu ond hefyd y pwysau mae mewnfudo yn ei roi ar gymunedau 鈥.

Ychwanegodd mai鈥檙 senedd fyddai鈥檔 pennu niferoedd.

Dywedodd Angela Rayner o鈥檙 Blaid Lafur nad oedd problemau gyda thai, ffyrdd ac iechyd yn ddim i鈥檞 wneud 芒 mewnfudo ond yn ymwneud 芒鈥檙 鈥渄inistr y mae鈥檙 Tor茂aid wedi鈥檌 wneud i鈥檔 gwasanaethau cyhoeddus鈥.

Dywedodd y byddai Llafur yn cael gwared ar gynllun Rwanda y llywodraeth Geidwadol ac yn rhoi鈥檙 arian i helpu diogelu ffiniau.

Dywedodd y byddai hyn 鈥測n chwalu鈥檙 gangiau鈥 sy鈥檔 cludo pobl i mewn i鈥檙 DU.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Angela Rayner y byddai Llafur yn cael gwared ar gynllun Rwanda y llywodraeth Geidwadol ac yn rhoi鈥檙 arian i helpu diogelu ffiniau

Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol, Daisy Cooper, fod y Ceidwadwyr wedi gwneud 鈥渓lanast llwyr o鈥檙 system fudo ond hefyd o鈥檙 system loches鈥.

Dywedodd: 鈥淢ae gennym ni鈥檙 gwaethaf o鈥檙 ddau fyd, mae gennym ni bobl sy鈥檔 anobeithiol ac yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn cyrraedd ar gychod bach ac ar yr un pryd mae gennym ni ein Gwasanaeth Iechyd, gofal cymdeithasol, lletygarwch a pheirianneg sy' ddim yn gallu recriwtio鈥檙 staff i roi hwb i鈥檔 heconomi鈥.

Ar ran y Gwyrddion, dywedodd Carla Denyer: 鈥淧etaech chi鈥檔 cwrdd ag ymfudwr yn y Gwasanaeth Iechyd, maen nhw鈥檔 fwy tebygol o fod yn eich trin chi na bod o鈥檆h blaen chi yn y ciw鈥.

Dywedodd fod ymfudwyr wedi bod yn 鈥渂eth da鈥 i鈥檙 DU 鈥 nid oedd y Gwyrddion eisiau 鈥渃apiau鈥 ar fudo, roedden nhw eisiau system a oedd yn 鈥渄ecach ac yn fwy trugarog鈥.

Bydd yr Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig