麻豆官网首页入口

Noson 'arbennig' Ffion Gwyther yn gwylio Springsteen

Ffion GwytherFfynhonnell y llun, Ffion Gwyther
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd y tro cyntaf i Ffion Gwyther fynd i'r math yma o gyngerdd

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a gafodd ei dewis allan o'r dorf yn ystod perfformiad Bruce Springsteen yng Nghaerdydd wedi diolch iddo am "wneud iddi deimlo'n arbennig".

Yn 么l Ffion Gwyther o Ffwrnes ger Llanelli, mae hi'n aml yn teimlo fel bod pobl yn ei hanwybyddu oherwydd bod ganddi Syndrom Down.

Ond dywedodd ei bod hi "wrth ei bodd" pan stopiodd 'The Boss' o'i blaen hi ar ddiwedd ei gyngerdd, ysgwyd ei llaw a rhoi plectrwm git芒r iddi.

鈥淩oedd yn foment wych,鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, Ffion Gwyther
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bruce Springsteen yn ymestyn am ei blectrwm cyn ei roi i Ffion

Bu Ffion a'i mam yn ciwio am dair awr i fynd i mewn i'r gig yn Stadiwm Principality ddydd Sul.

Dyma oedd noson gyntaf taith ddiweddaraf Bruce Springsteen yn Ewrop, a dyma'r tro cyntaf i Ffion fynd i gig o'r maint yma hefyd.

Ar 么l y cyngerdd, fe rannodd hi fideo ar y we yn diolch iddo am ei dewis o'r miloedd yn y dorf.

"Fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig. Cerddodd lawr o fy mlaen i, safodd o yno cyn ymestyn am ei blectrwm yn ddwfn o'i boced a'i roi i mi," meddai.

Mae Bruce Springsteen yn rhoi anrhegion yn rheolaidd i bobl yn ei gyngherddau.

Mewn cyngerdd yn Iwerddon y llynedd fe stopiodd i roi harmonica i ddilynwr arall gyda Syndrom Down.

Ffynhonnell y llun, Ffion Gwyther
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ffion a'i mam Susie yn y cyngerdd

Dechreuodd Ffion, sy'n aelod o Academi Theatr Hijinx, rannu fideos ar y we yn ystod y pandemig.

Mewn un o'r fideos hynny mae hi'n siarad am y ffordd mae rhai pobl yn dewis siarad 芒'i mam yn hytrach na siarad gyda hi.

鈥淢ae gen i lais a dwi eisiau i bobl weld beth mae pobl fel fi yn gallu ei wneud a sut dwi'n teimlo y tu mewn,鈥 meddai.

鈥淢ae fy ffrindiau i gyd yn teimlo'r un peth.鈥

Dywedodd mam Ffion, Susie Hamill, ei bod "yn hynod o ddiolchgar" i Bruce Springsteen am yr anrheg.

"Mae鈥檙 eiliadau a roddodd iddi yn golygu cymaint yn wyneb y rhagfarn y mae pobl niwrowahanol yn dal i fod, yn anffodus, yn ei brofi.鈥

Pynciau cysylltiedig