Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

'Her fawr' pennaeth newydd Parc Cenedlaethol Eryri

Jonathan CawleyFfynhonnell y llun, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jonathan Cawley yn gweithio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ers 2013

  • Cyhoeddwyd

Mae prif weithredwr newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud ei fod "yn edrych ymlaen yn fawr" at ddechrau'r swydd.

Ond mae Jonathan Cawley yn cydnabod bod ganddo "lawer o waith pwysig a heriol", a bod y wasgfa ariannol yn "gwneud her fawr yn fwy heriol fyth".

Ers ymuno â'r Awdurdod yn 2013 mae Mr Cawley wedi gweithio yn bennaf fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir ac yn fwy diweddar roedd hefyd yn ddirprwy brif weithredwr.

Fe fydd yn cymryd yr awenau gan Iwan Jones a fu'n brif weithredwr dros dro.

"Mae ‘na lwyth i’w wneud," dywedodd Mr Cawley wrth drafod ei benodiad ar raglen Post Prynhawn.

"Rydan ni mewn argyfwng natur, ac argyfwng bywyd gwyllt, sy’n broblem ledled y byd, ond mae gynnon ni gyfrifoldeb yma yn Eryri i edrych ar ôl ac i ddelio gyda hyn".

"Mae gynnon ni argyfwng newid hinsawdd hefyd ac mae angen i ni geisio ymdopi gyda’r heriau mae rheiny’n eu codi - creu economi ymweld cynaliadwy, creu systemau trafnidiaeth sy’n gweithio yn bob man a llai o broblemau mewn rhai o’r canolfannau fel Dyffryn Ogwen, Pen y Pas a Llyn Tegid."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fel awdurdod cynllunio hefyd, dywedodd bod heriau "o ran tai, pobl a mynediad at dai ac yn y blaen".

Ychwanegodd: "Mae’r wasgfa ariannol yn effeithio ar bawb yn y sector gyhoeddus… mae’n gwneud her fawr yn fwy heriol fyth o bosib, felly mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n gwneud yr arian i fynd mor bell ag y medrwn ni."

O ganlyniad, meddai, bydd angen i'r Awdurdod "edrych yn y dyfodol agos" i weld sut mae "cydweithio efo partneriaid a gweld os oes cyfleoedd i ni fod yn fwy masnachol mewn ambell i le hefyd".

Dywed yr Awdurdod y bydd y prif weithredwr yn arwain ei amcanion o warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol.

Fe fydd "yn canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau gyda rhanddeiliaid, gweithredu cynlluniau rheoli’r parc, gwrando ar ein cymunedau, gwella profiadau ymwelwyr, ac yn gwella a gwarchod y tirweddau eiconig a bioamrywiaeth Eryri ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol".

Yn ogystal, fe fydd disgwyl iddo "arwain ar fentrau cynaliadwyedd sydd â’r nod o leihau ôl troed carbon yr Awdurdod ac yn hyrwyddo gwytnwch amgylcheddol".