麻豆官网首页入口

Carcharu swyddog gyda Heddlu'r De am ladrata

Ben Cooke
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ben Cooke wedi bod yn swyddog gyda'r heddlu am 10 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddog gyda Heddlu De Cymru wedi cael ei garcharu am ddwyn s锚ff yr oedd o'n credu oedd yn cynnwys 拢60,000.

Roedd y Sarjant Ben Cooke, 34 o Hirwaun, Rhondda Cynon Taf, wedi ceisio dwyn o d欧 arall hefyd ac wedi defnyddio cyfrifiadur yr heddlu i gynllunio ei droseddau ym mis Ionawr a Chwefror 2024.

Plediodd yn euog i gyhuddiadau o ladrata, dwyn, ceisio lladrata, cael mynediad heb ei awdurdodi i ddata ar gyfrifiadur yr heddlu er mwyn cyflawni trosedd a chamddefnyddio'i swydd fel heddwas.

Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis o garchar.

Clywodd y llys nad yw'r s锚ff ac eitemau personol eraill a gafodd eu dwyn wedi eu darganfod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Ben Cooke ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis o garchar

Roedd Cooke wedi edrych ar gyfrifiadur yr heddlu ac wedi gweld bod ei gydweithwyr yn credu bod gan rywun 拢60,000 mewn s锚ff yn eu cartref.

Fe aeth i'r t欧 yn ei wisg plismon tra'r oedd y perchennog, Joanne Watkins yn y gawod.

Roedd wedi honni wrthi bod ganddo warant i archwilio'r t欧 am droseddau cyffuriau honedig, ond fe wrthododd ddangos y warant i Ms Watkins, gan ddweud wrthi am eistedd ar y soffa.

Cafodd Cooke hefyd ei anfon i ddigwyddiad lle'r oedd swyddogion wedi dod o hyd i 拢16,000 yn dilyn marwolaeth sydyn.

Pan aeth Cooke 芒'r arian i gartref chwaer y dyn fu farw, fe wnaeth o ddwyn yr allwedd o'i drws.

Pedwar diwrnod yn ddiweddarach cafodd ei weld ar gamera cylch cyfyng ger ei chartref ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Fe geisiodd fynd i'r t欧, ond fe fethodd.

Wrth ddedfrydu Cooke, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod wedi gwneud "ymdrechion pwrpasol" i gyflawni troseddau fyddai'n "niweidiol i Heddlu'r De ac i'r heddlu yn gyffredinol".

Ychwanegodd bod hyn wedi cael effaith ddinistriol ar enw da Cooke, oedd wedi gweithio i'r heddlu am 10 mlynedd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu'r De, Jeremy Vaughan bod Cooke "wedi gadael ei hun a'r heddlu i lawr ac wedi difetha unrhyw hyder oedd gan gymunedau de Cymru ynddo fel swyddog heddlu".

Ychwanegodd ei fod wedi anfon llythyr personol at y dioddefwr gan ymddiheuro'n fawr am yr hyn ddigwyddodd.