麻豆官网首页入口

O'r Bala i China: 'Byddai Dad wedi deud dos amdani'

Teleri Wyn DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Teleri Wyn Davies yn treulio blwyddyn yn chwarae a hyfforddi rygbi yn Shenzhen

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gyn-chwaraewyr t卯m rygbi merched Cymru yn dweud ei bod yn edrych ymlaen yn arw at gael mynd i chwarae a hyfforddi'r gamp yn China.

Mae Teleri Wyn Davies, y chwaraewr ail-reng 27 oed o'r Bala, wedi derbyn gwahoddiad i ymuno 芒 th卯m Shenzhen Pirates ym mis Medi.

Mewn cyfweliad 芒 rhaglen Post Prynhawn 麻豆官网首页入口 Radio Cymru, fe ddisgrifiodd hi'r cyfle fel un "unwaith mewn bywyd".

Mae hi hefyd yn credu y byddai ei phenderfyniad wedi cael s锚l bendith ei thad, Brian 'Yogi' Davies, a fu farw yn 56 oed - chwe blynedd ar 么l cael ei barlysu wrth chwarae ei g锚m olaf i Glwb Rygbi'r Bala.

Dywedodd y cyn-glo, sydd wedi chwarae i dimau Caernarfon, Rygbi Gogledd Cymru, Sale Sharks a Chymru, ei bod wedi ystyried ymddeol o'r gamp cyn i'r gwahoddiad ddod o'r dwyrain pell.

Fe ddeilliodd hynny o daith y llynedd i Amsterdam i chwarae mewn twrnament yno fel aelod o garfan y Penguins - t卯m elusennol o chwaraewyr rhyngwladol "sy'n hybu datblygiad rygbi ac ewyllys da at y gamp ar draws y byd".

"'Chydig fisoedd ar 么l dod adra ddoth 'na e-bost yn gofyn a oedd gen i ddiddordeb mynd allan i China i chwara'," meddai Teleri.

"Ar y pryd doedd o ddim yn rwbeth o'n i isio'i 'neud felly nes i ddim ymateb."

Ond pan gyrhaeddodd ail wahoddiad ychydig fisoedd yn 么l, fe benderfynodd Teleri i ymateb y tro hwn a "gweld sut eith petha'".

Ffynhonnell y llun, Omega
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dydy Teleri ddim eisiau edrych yn 么l a difaru gwrthod cyfle "unwaith mewn oes"

"Dwi'n meddwl bo' fi 'di cyrra'dd ryw bwynt yn fy mywyd lle 'dw i 'di llwyddo i basio fatha cyfreithwraig a 'dw i'n meddwl bod 'na fwy i fywyd na mynd i'r gwaith a dod adra.

"Ma' 'na fwy i'r byd 'ma na gogledd Cymru a ma' bob dim yma sy' gynna' i adra [yn] betha fedrith ddisgw'l amdana i pan ddoi'n 么l - petha' fedra' i droi'n 么l atyn nhw.

"Ac ma' hyn yn brofiad unwaith mewn bywyd... 'sa'n well gen i ddifaru bo' fi'n mynd a rhoi go arna hi na ista yn yr un lle 芒 'dw i r诺an mewn blwyddyn yn meddwl 'be os fyswn i wedi mynd? Lle fyswn i r诺an?'"

'Newid byd i hogan cefn gwlad fel fi'

Yn Shenzhen, fe fydd Teleri yn hyfforddi'r t卯m merched mewn un gynghrair ac yn chwarae i d卯m Hong Kong Scottish mewn cynghrair arall.

"'Dw i'n meddwl bod nhw'n trio ca'l rygbi i fod yn fwy poblogaidd ac o safon uwch allan yna ar y funud," meddai.

"Felly 'dw i'n edrych ymlaen at ga'l gweld sut ma'n nhw'n chwara' rygbi allan yn fan'no a be' fydd y safon o gymharu 芒 gogledd Cymru, Premiership Lloegr ac yn y blaen."

Ffynhonnell y llun, Omega
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Teleri yn credu y bydd y profiad yn "agoriad llygad" iddi

"Ffeindio 'nhraed a ffeindio'n ffordd o gwmpas" fydd y flaenoriaeth ar 么l cyrraedd China ddiwedd Awst.

Fe fydd Teleri hefyd yn dysgu mewn ysgol o ddydd Llun tan ddydd Gwener, "sydd yn mynd i fod yn hollol, hollol wahanol i be' 'dw i'n 'neud r诺an".

Maes o law, ar 么l setlo, mae hi'n gobeithio ceisio cael swydd yn y maes cyfreithiol.

Dywed y bydd byw yn Shenzhen, sydd 芒 phoblogaeth fwyaf y wlad oni bai am ddinasoedd Shanghai a Beijing, "yn newid byd i hogan cefn gwlad fel fi... 'dw i'n meddwl fydd o'n agoriad llygad mawr i fi".

'Fysa fo'n falch iawn ohonaf fi'

Dywedodd Teleri nad yw'n hollol si诺r sut fyddai ei thad wedi ymateb i'w phenderfyniad pe bai'n dal yn fyw.

"'Dw i'n meddwl 'sa fo'n d'eud bo fi angen testio 'mhen ella! Ond 'dw i'n meddwl hefyd 'sa fo'n meddwl yr un fath 芒 fi.

"Cyfnod byr iawn ydi blwyddyn neu ddwy - neu hyd yn oed os 'dw i'n aros yn hirach - mewn bywyd rhywun.

"'Dan ni'n gw'bod efo be' sy' wedi digwydd i Dad, 'dach chi methu cym'yd bywyd yn ganiataol a 'dw i'n meddwl fysa fo yn deu' 'tha fi 'unrhyw gyfle ti'n ga'l, cym'a fo efo'r ddwy law a dos amdani'.

"'Dw i'n meddwl fysa fo'n falch iawn ohona fi am gymryd risg reit fawr, ac i fynd allan yna a ca'l gweld be' arall sydd yn y byd."