Cynlluniau hen chwarel Caernarfon yn 'hollol warthus'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Aelodau o'r gr诺p Caernarfon L芒n, gyda Si芒n Gwenllian AS, sy'n ymgyrchu yn erbyn cynlluniau ar safle hen chwarel Seiont
  • Awdur, Gareth Wyn Williams
  • Swydd, 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae ymgyrchwyr wedi datgan pryder dros gynlluniau i godi gorsaf nwy a sefydlu gweithfeydd malu concrit ar safle hen chwarel yng Nghaernarfon.

Mae cwmni Jones Brothers yn dilyn y broses o sicrhau caniat芒d cynllunio ar gyfer gorsaf nwy 20MW, fyddai'n cyflenwi'r Grid Cenedlaethol ar gyfnodau o alw mawr.

Hefyd wedi ei glustnodi ar gyfer yr un safle, sef hen Chwarel Seiont, mae defnydd parhaol ar gyfer gweithfeydd i falu a phrosesu concrit.

Ond er yr addewid o greu swyddi mae'r cynlluniau wedi denu gwrthwynebiad yn y dref, gyda'r aelod lleol o'r Senedd, Sian Gwenllian yn ei ddisgrifio fel safle "cwbl anaddas" gan ei fod mor agos at stadau tai, ysbyty a chaeau chwaraeon.

Yn 么l ymgyrchwyr mae pryderon dros lygredd aer, s诺n a thraffig, yn ogystal 芒'r effaith ar ymdrechion i leihau newid hinsawdd.

Dywed y cwmni bod yna gamau i leddfu ofnau gwrthwynebwyr a tharfu "cyn lleied 芒 phosibl" ar drigolion lleol.

'Mae'r peth yn ofnadwy'

Yn 么l Mari Williams, sy'n byw dafliad carreg o'r safle, mae'r pryderon yn cynnwys yr effaith ar safon aer.

"'Dan ni'n gwybod fod gwaith nwy fel hyn yn allyrru nwyau niweidiol, a fasa'r gwaith concrit yn rhyddhau lot o lwch i'r aer 'dan ni'n anadlu bob diwrnod.

"Mae gena'i fab naw oed sydd wrth ei fodd chwarae allan ar y cae rygbi ac allan gyda'i ffrindiau bob cyfle.

"I feddwl amdanyn nhw yn anadlu'r nwyon a'r llwch 'ma... mae'r peth yn ofnadwy."

Disgrifiad o'r llun, Mari Williams: "Mae'r syniad o adeiladu gwaith nwy yn 2024 yn hollol warthus"

Ychwanegodd: "Mae llygredd s诺n hefyd yn cael effaith negyddol iawn ar iechyd a lles pobl a 120 o lor茂au y diwrnod yn defnyddio lonydd lleol.

"Mae hynny am gael impact mawr iawn ar bobl leol a'r amgylchedd hefyd.

"Heb s么n am newid hinsawdd, mae'r syniad o adeiladu gwaith nwy yn 2024 yn hollol warthus.

"Dylia unrhyw fuddsoddiad mewn egni fod mewn ynni adnewyddol."

'Darparu cyfleoedd cyflogaeth'

Fe gollodd 50 o weithwyr eu swyddi pan gaeodd hen waith brics Seiont yn 2008, gan ddod 芒 bron i 200 mlynedd o gynhyrchu brics yn y dref i ben.

Ond fe ail-agorwyd y cyn-chwarel yn y blynyddoedd diweddar pan gafodd ddefnydd newydd fel compownd ar gyfer y gwaith o adeiladu ffordd osgoi Caernarfon.

Bellach mae cwmni Jones Brothers, Rhuthun, yn y broses o geisio sicrhau caniat芒d cynllunio ar gyfer dau ddatblygiad ar y safle.

Gan ddefnyddio鈥檙 nwy oedd yn arfer cyflenwi鈥檙 gwaith brics, byddai'r orsaf 10 injan 20MW yn cyflenwi trydan a'i werthu i'r Grid Cenedlaethol yn ystod cyfnodau o alw mawr.

Yn y dogfennau cynllunio dywed y cwmni bod disgwyl y bydd angen hyd at 15 o staff, ac y byddai "defnydd parhaol o'r safle hefyd yn cefnogi swyddi anuniongyrchol yn lleol".

Ffynhonnell y llun, Google

Disgrifiad o'r llun, Mae modd gweld cyn-weithfeydd brics Seiont o'r ffordd osgoi newydd

Mae gorsaf STOR (short-term operating reserve) yn orsaf sy'n gallu dod yn weithredol o fewn ychydig funudau, ac yn cael eu defnyddio pan mae straen neu alw ychwanegol ar drydan o'r grid.

Er nad oes disgwyl i'r orsaf nwy greu cyflogaeth, mae'r datblygwyr yn dweud y byddai'r gweithfeydd concrid yn creu hyd at 15 o swyddi a bod yna alw yn lleol am gyfleuster o'r fath.

Gyda'r safle eisoes wedi ei ddefnyddio fel compownd dros dro tra'n adeiladu'r ffordd osgoi, dywed y cwmni byddai sefydlu defnydd parhaol yn sicrhau buddion economaidd i'r ardal.

Gyda'r defnydd fel compownd bellach yn dirwyn i ben, maen nhw'n dweud byddai cyfleuster malu a phrosesu concrit yn golygu "ychydig iawn o newid gweledol i'r safle".

'Mwy o hyblygrwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Jones Brothers y byddai'r cynllun cynhyrchu trydan wrth gefn "yn sicrhau fod trigolion a busnesau lleol yn derbyn cyflenwad trydan ar adegau pan na ellir cwrdd 芒'r galw am drydan o ffynonellau adnewyddadwy neu orsafoedd llosgi nwy".

Fe fyddai'r offer STOR, meddai, "ond yn weithredol am gyfnodau byr pan fydd y trydan a gynhyrchir o ffynonellau haul a gwynt yn isel", ac "yn cynnig mwy o hyblygrwydd [gan] osgoi'r angen i redeg gorsafoedd cynhyrchu trydan mawr ar raddfa isel rhag ofn y bydd eu hangen i lenwi bwlch".

Pwysleisiodd na fyddai "newid arwyddocaol i olwg safle Chwarel Seiont", na fyddai s诺n yr offer "yn ddim mwy na'r s诺n 'cefndir' presennol".

Dywedodd hefyd na fyddai effaith ar fioamrywiaeth yr ardal, a bod disgwyl y bydd allyriadau o'r orsaf "yn cyfateb i lai nag 1% o'r terfynau... ar gyfer ocsidau nitrogen yn yr awyr".

Disgrifiad o'r llun, Fe gaeodd yr hen waith brics yn 2008

Ychwanegodd y llefarydd y byddai cael parhau i drin pridd, creigiau a deunydd dymchwel o brosiectau lleol yn help i'w defnyddio ar gyfer datblygiadau "hanfodol" yn yr ardal, gan gynnwys "cynlluniau amddiffyn yr arfordir a phrosiectau adnewyddadwy" a hynny "heb orfod llosgi ynni i gloddio deunydd newydd o'r tir".

Fe fyddai'n fwriad i greu mynediad newydd "er mwyn tarfu cyn lleied 芒 phosibl" ar drigolion lleol.

'Y lle olaf fyddai'n addas'

Gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddatblygiad o arwyddoc芒d cenedlaethol, Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud penderfyniad ar yr orsaf nwy, yn seiliedig ar argymhellion Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd yng Nghymru (PEDW).

Ond Cyngor Gwynedd fydd yn penderfynu ar unrhyw gais ffurfiol ar gyfer gweithrediadau malu concrid ar y safle.

Barn ymgyrchwyr lleol yw bod y cynlluniau'n anaddas i'r ardal, ac maen nhw'n galw am wrthod y ddau ddatblygiad.

Gyda gr诺p newydd wedi ei sefydlu i wrthwynebu'r cynlluniau, mae Caernarfon L芒n yn pryderu ar yr effaith ar drigolion sy'n byw ger y safle.

Ffynhonnell y llun, Dogfennau cynllunio

Disgrifiad o'r llun, Mae'r defnydd o'r safle fel compownd yn dirwyn i ben

Does yr un o鈥檙 ddau gais wedi鈥檜 cyflwyno鈥檔 ffurfiol eto, ond yn 么l y cwmni fe fydd manylion y cais ar gyfer y gwaith concrit ac ailgylchu "i'w gweld ar wefan Cyngor Gwynedd" yr wythnos hon.

Does dim disgwyl penderfyniad terfynol ar yr un ohonynt am rai misoedd o leiaf, ond mae鈥檙 ymgyrchwyr yn benderfynol o achub y blaen a sicrhau fod eu llais yn cael eu clywed.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, Si芒n Gwenllian, fod y cynlluniau wedi bod yn destun pryder ymysg llawer o'i hetholwyr.

Ychwanegodd fod y broses chwalu concrid yn "defnyddio llawer iawn o drydan a llawer iawn o dd诺r i wlychu'r llwch niweidiol sy鈥檔 cael ei greu gan y broses".

"Mae'r safle yn le hefo tai o'i gwmpas, ysgol ac ysbyty... mae'n le lle mae lot o bobl yn byw ac yn rhyw fath o grochan."

Disgrifiad o'r llun, Si芒n Gwenllian AS: "Maen nhw am greu llygredd ac effeithio ar iechyd pobl"

Ychwanegodd: "Mae o'r lle olaf yn y byd fasa rhywun yn meddwl fasa'n addas ar gyfer cael gorsaf yn defnyddio nwy o crushio concrid.

"Maen nhw am greu llygredd ac effeithio ar iechyd pobl.

"'Dan ni wedi cychwyn yr ymgyrch yn gynnar fel bod yr awdurdodau yn glir o'r gwrthwynebiad, a mae 'na lawer wedi cysylltu hefo fi.

"Does 'na ddim tystiolaeth am nifer y swyddi a does 'na ddim s么n am swyddi hefo'r orsaf nwy, ond rhaid meddwl am yr effaith niweidiol all y ddau gais yma godi."