麻豆官网首页入口

Neil Foden yn euog o gam-drin plant yn rhywiol

Neil FodenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Neil Foden wedi gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae pennaeth ysgol yng Ngwynedd, Neil Foden wedi ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol.

Cafwyd Foden yn euog o gyhuddiadau yn erbyn pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.

Cafwyd yn ddieuog o un cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, yn ymwneud 芒 phumed merch.

Roedd Foden, sy'n 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands y gallai Foden ddisgwyl dedfryd hir o garchar.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 1 Gorffennaf.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r achos.

Ychwanegodd y barnwr bod tystiolaeth gref o "droseddu rhywiol difrifol".

Dywedodd bod Foden wedi torri ymddiriedaeth, a bod rhai o'i esboniadau yn anghredadwy.

Cafwyd Foden yn euog o:

  • 12 achos o weithred rhyw gyda phlentyn

  • Dau achos o weithred rhyw gyda phlentyn tra mewn safle o gyfrifoldeb (position of trust)

  • Ymosod yn rhywiol ar blentyn

  • Achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithred ryw

  • Ceisio trefnu gweithred ryw gyda phlentyn

  • Cyfathrebu'n rhywiol 芒 phlentyn

  • Bod 芒 lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant.

Cafwyd yn ddieuog o un achos o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, ble roedd wedi'i gyhuddo o gyffwrdd ym mhen-么l merch a oedd yn cael ei hadnabod fel Plentyn D.

Cyngor Gwynedd wedi 'diystyru' pryderon

Ychwanegodd y barnwr ei fod yn bryderus, pan gafodd pryderon eu codi i Gyngor Gwynedd am Foden am y tro cyntaf yn 2019 gan uwch aelod o staff, 鈥渆u bod wedi cael eu diystyru".

"Ni chynhaliwyd ymchwiliad, ni chymerwyd sylw o鈥檙 hyn a gafodd ei ddweud a'i wneud," meddai.

"Nawr rydyn ni鈥檔 gwybod eich bod chi wedi parhau i droseddu, mae hynny'n peri pryder mawr.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neil Foden yn cael ei dywys i'r llys ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn ei erbyn

Dywedodd Ceri Ellis-Jones o Wasanaeth Erlyn y Goron: 鈥淩oedd y troseddau hyn yn frawychus o ystyried bod Foden yn unigolyn uchel ei barch yr oedd pobl yn ymddiried ynddo.

"Manteisiodd ar hynny. Fe wnaeth gamddefnyddio ei sefyllfa o ymddiriedaeth a thargedu鈥檙 merched mwyaf agored i niwed yr oedd pobl yn ymddiried ynddo i鈥檞 diogelu.

"Rwy鈥檔 ddiolchgar i鈥檙 dioddefwyr am eu dewrder yn dod ymlaen a rhoi tystiolaeth.

"Fyddai Foden ddim wedi wynebu cyfiawnder heb eu cymorth i鈥檙 erlyniad hwn."

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Evans o Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn "croesawu dyfarniad y rheithgor ar 么l achos anodd, ac yn diolch iddynt am eu gwaith trylwyr".

"Rwy'n dal i feddwl am y dioddefwyr a'u teuluoedd heddiw, sydd wedi dangos urddas a dewrder trwy'r achos, a byddwn yn parhau i'w cefnogi wrth i ni symud yn ein blaenau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun artist o Neil Foden yn ystod yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "croesawu dyfarniad y llys", ac y bydd "adolygiad annibynnol" yn cael ei gynnal.

"Rydym wedi ein brawychu gan natur y troseddau a gyflawnwyd ac yn gwerthfawrogi ac yn edmygu鈥檙 dewrder a鈥檙 gwydnwch rhyfeddol mae鈥檙 dioddefwyr a鈥檜 teuluoedd wedi arddangos drwy gydol y broses.

"Rydym yn ddiolchgar iddynt ac mae ein meddyliau gyda hwy ar yr amser anodd hwn.

鈥淒iolch hefyd i ddisgyblion, teuluoedd a staff Ysgol Friars yn ehangach am eu cydweithrediad parod wrth i鈥檙 heddlu gynnal eu hymchwiliadau.

"Rydym yn ymwybodol iawn y gallai canlyniadau鈥檙 achos difrifol hwn achosi straen a gofid pellach i ddisgyblion.

"Oherwydd hyn, bydd y trefniadau bugeiliol a roddwyd mewn lle ar ddechrau鈥檙 achos troseddol yn parhau."

'Sefydlu pa wersi sydd i鈥檞 dysgu'

Ychwanegodd y llefarydd: 鈥淓rs dechrau鈥檙 achos, mae Cyngor Gwynedd wedi cydweithio鈥檔 agos 芒 Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau fod Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cael eu dilyn yn llawn.

鈥淣awr fod y broses droseddol wedi dod i ben, bydd y gwaith o adolygu a sefydlu pa wersi sydd i鈥檞 dysgu o鈥檙 achos yn dechrau.

"Oherwydd natur ddifrifol yr achos, mae penderfyniad wedi ei wneud i gynnal adolygiad annibynnol yn unol 芒 chanllawiau Adolygu Ymarfer Plant cenedlaethol.

"Mae union ffurf yr adolygiad hwnnw yn derbyn sylw ar hyn o bryd.

鈥淗yd nes bydd yr holl ymchwiliadau ac adolygiadau perthnasol wedi eu cwblhau, ni fyddai鈥檔 briodol i Gyngor Gwynedd nac arweinyddiaeth dros dro Ysgol Friars wneud sylwadau pellach.鈥

Croesawu'r ymchwiliad annibynnol

Dywedodd aelod Arfon yn y Senedd, Sian Gwenllian ei bod yn "falch fod y cyngor yn dweud y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal".

"Byddaf yn cyfarfod efo swyddogion i ddeall union natur yr adolygiad hwnnw ac yn chwilio am sicrwydd y cynhelir ymchwiliad trwyadl yn cael ei arwain gan rai fydd yn gwbl annibynnol o鈥檙 cyngor.

"Gyda鈥檙 broses droseddol wedi dod i ben, mae鈥檔 bryd i鈥檙 gwaith o sefydlu pa newidiadau sydd eu hangen ddechrau ar unwaith."

Pynciau cysylltiedig