麻豆官网首页入口

Tata: Aelodau ail undeb o blaid mynd ar streic

Tata, Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau undeb gweithwyr dur Community wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol dros gynlluniau ailstrwythuro Tata Steel.

Roedd 3,000 o aelodau yn gymwys i bleidleisio, ac o'r rhai wnaeth fwrw pleidlais fe wnaeth 85% gefnogi'r penderfyniad, meddai'r undeb.

Roedd pleidlais ar 么l i Tata gyhoeddi y byddai 2,800 o swyddi yn cael eu colli wrth gau ffwrneisi chwyth Port Talbot a symud at ddulliau glanach o wneud dur.

Dywed Tata Steel eu bod yn "siomedig" gyda'r cyhoeddiad.

Mewn neges at aelodau, dywedodd Community eu bod wedi "pleidleisio i fynnu setliad gwell" gan Tata.

Roedd Tata wedi rhybuddio y byddai gweithwyr yn colli'r pecyn diswyddo "mwy" oedd ar gael petai gweithredu diwydiannol yn digwydd.

Dywedodd Alun Davies, swyddog cenedlaethol dur i Community, bod "mandad clir" er gwaethaf "bwlio a bygythiadau annerbyniol i dorri taliadau diswyddo".

Dywedodd yr undeb y byddai'n ymgynghori gydag aelodau ynghylch y camau nesaf.

Daw'r canlyniad yn dilyn pleidlais o blaid streic gan undeb Unite.

Mae undeb arall, GMB, hefyd wedi holi aelodau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Tata yn bwriadu cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot

Dywed Tata bod y model busnes presennol yn anghynaliadwy.

"Trwy ailstrwythuro ein gwaith yn y DU bydd modd i ni gynnal y busnes wrth i ni symud at dechnoleg ffwrnais arc drydanol newydd," dywedodd llefarydd.

Ychwanegodd bod hi'n fwriad i "symud ymlaen yn gyflym" gyda'u cynlluniau.

Pynciau cysylltiedig