麻豆官网首页入口

Cynghorau Cymru'n wynebu sefyllfa ariannol 'ddifrifol'

Cyfuniad o 4 llun. Plentyn mewn crys polo glas yn pwyntio at dabled gyda dynes mewn top streipiog. Dwylo person oedrannus ar offer cymorth cerdded. Bws yng Nghaerdydd. Biniau sbwriel amrywiol.
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cynghorau sy'n gyfrifol am bethau fel ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casglu sbwriel a rhai gwasanaethau trafnidiaeth fel bysus

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorau Cymru'n wynebu pwysau ariannol "anghynaladwy" dros y blynyddoedd nesaf, yn 么l y corff sy'n eu cynrychioli.

Yn 么l Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gallai'r bwlch ariannol gael "effaith sylweddol" ar allu cynghorau i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol.

Mae ymchwil gan y 麻豆官网首页入口 wedi dod i'r casgliad y bydd bwlch ariannol cynghorau Cymru'n cyrraedd o leiaf 拢540 miliwn erbyn 2026-27.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cwrdd ag awdurdodau lleol yn gyson" i drafod "yr heriau gwirioneddol", cyn i'w cyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr.

Yn 么l y gyfraith, mae yna wasanaethau mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu darparu, fel addysg a gofal cymdeithasol i blant a phobl h欧n.

Maen nhw'n derbyn y rhan fwyaf o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru, gydag arian ychwanegol yn dod o dreth y cyngor a chyfraddau busnes.

Fis Tachwedd, rhybuddiodd arweinwyr cynghorau mai mater o amser oedd hi cyn i gyngor fynd yn fethdalwr oherwydd pwysau ariannol.

Mae sawl cyngor ar draws y wlad wedi cyhoeddi toriadau i wneud arbedion, neu godi treth y cyngor.

Arweinydd Caerdydd: Sefyllfa 'ddifrifol'

Yn 么l arweinydd Cyngor mwyaf Cymru, Huw Thomas, 鈥渕ae hi鈥檔 deg i 鈥榳eud, o ran y rhagolygon, mai dyma鈥檙 gwaetha mae hi wedi bod."

Yn arweinydd Cyngor Caerdydd ers 2017, dywedodd fod y sefyllfa yn gorfodi cynghorau i edrych ar bob gwasanaeth, gan gynnwys y rheiny sydd yn rhaid i gynghorau eu darparu, fel ysgolion neu wasanaethau cymdeithasol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, "mae'r sefyllfa yn ddifrifol"

Dywedodd: "Os ystyriwch chi ein parciau ni, ein llyfrgelloedd ni, ein canolfannau hamdden ni, actually gymaint ydi maint y gap hynny ar hyn o bryd, mi allwn ni gau'r rheiny i gyd fel rhan o鈥檙 gyllideb flwyddyn nesa鈥 a fe fydde dal gap i鈥檞 lenwi.

"Dyna pa mor ddifrifol ydi鈥檙 sefyllfa. A dyna pam mae鈥檔 anochel fod rhaid i ni edrych ar sut rydyn ni鈥檔 bod yn fwy effeithiol yn ein gwasanaethau statudol ni, nid jyst y rhai sy鈥檔 鈥榥eis i鈥檞 cael鈥.鈥

Dywedodd mai "15 mlynedd o lymder" sy'n gyfrifol am y bwlch ariannol, ynghyd 芒 "ffrwydrad yn y galw am ein gwasanaethau ni. Ac mae hynny鈥檔 bwysig iawn i bobl ddeall."

Ond nid cyngor Caerdydd sy'n gweld yr esgid yn gwasgu.

Mae cynghorau Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn bwriadu tynnu'n 么l o ariannu ychydig o drafnidiaeth ysgol, ac mae cyngor Caerffili hefyd yn .

O fis Medi 2026, fydd Merthyr ddim yn ariannu i blant dros 16 oed i deithio i'r coleg tu allan i'r sir, heblaw am i addysg Gymraeg neu ysgol ffydd.

Fe fydd Rhondda Cynon Taf yn rhoi'r gorau i ariannu teithio am ddim i'r rhai sy'n byw lai na thair milltir o'u hysgol uwchradd neu goleg o fis Medi nesaf.

Mae Ffion Traylor, o Bontlotyn, yn teithio i gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, ar y tr锚n a'r bws bob dydd. Yn ogystal 芒'i hastudiaethau, mae'n gweithio bedair gwaith yr wythnos mewn archfarchnad leol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Heb gefnogaeth ariannol y Cyngor Sir, byddai cost trafnidiaeth i Ffion Traylor o Bontlotyn yn 拢20 y dydd

Pe na byddai'r daith yn cael ei hariannu drwy'r cyngor sir, byddai'r gost yn 拢20 y dydd iddi.

Dywedodd: 鈥淢ae鈥檔 rili drud, mae fel 拢20 y dydd i ddod fan hyn a dod n么l. Ma' hwnna鈥檔 rili ddrud a bydden i鈥檔 ailystyried dod yma."

Mae'r fyfyrwraig 17 oed yn astudio ffilm a theledu - cwrs oedd ddim ar gael yn ei hardal leol - felly mae'n teithio i'r coleg oherwydd hynny.

Er nad yw'r toriadau yn effeithio arni hi, mae'n poeni am yr egwyddor a'r effaith ar fyfyrwyr y dyfodol.

鈥淥s mae rhywun yn meddwl dod i鈥檙 coleg, ond ma' nhw鈥檔 gweld 拢20 y dydd, ma' hwnna鈥檔 rili ddrud a bydd pobol ddim yn dod yma,鈥 meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gracie Langmead yn astudio Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd

Mae Gracie Langmead yn cytuno. Er ei bod hi'n gweithio yn ogystal ag astudio am ei Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd, byddai gorfod talu am deithio yn her.

"Rydw i鈥檔 gwneud dwy swydd ar y funud, a fi dal ddim yn gallu fforddio pethau. Felly gyda鈥檙 bysus bob dydd, yma a gartref, bydden i ddim yn gallu gwneud o.鈥

'Cam yn rhy bell'

Yn 么l pennaeth Coleg y Cymoedd, Jonathan Morgan, gallai'r newidiadau sy'n cael eu cynnig gan y tri chyngor effeithio ar 1,000 o'u myfyrwyr.

Dywedodd bod 42% o'r dysgwyr yn y coleg yn dod o deuluoedd ble mae incwm y teulu o dan 拢23,000 y flwyddyn.

"Mae gwthio costau pellach ar y teuluoedd hynny, drwy wneud iddyn nhw dalu eu hunain am drafnidiaeth, i fi, yn gam yn rhy bell", meddai Mr Morgan.

Dywedodd Cyngor Caerffili bod eu cyllideb drafnidiaeth dan bwysau ariannol mawr, a'u bod nhw wedi "ystyried yn ofalus" y newidiadau sy'n cael eu cynnig, ac y byddan nhw'n "llwyr ystyried barn y gymuned cyn cytuno ar unrhyw newidiadau".

Yn 么l cyngor Rhondda Cynon Taf, mae eu polisi trafnidiaeth yn fwy hael na sawl cyngor arall yng Nghymru, ond bod "rhaid gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnig mewn ffordd sy'n gynaliadwy yn ariannol".

Mae "trafodaeth sylweddol" wedi bod am newidiadau cyngor Merthyr Tudful, a "chyfnod ymgynghori helaeth". Ychwanegodd llefarydd bod y newidiadau wedi eu cyflwyno yn sgil "arbedion sydd eu hangen o fewn yr awdurdod".

Galw am fuddsoddiad i gadw'r gwasanaethau 'hanfodol'

Bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn cael ei chyhoeddi ddiwedd mis Hydref, a chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dilyn hynny ym mis Rhagfyr.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn galw ar y ddwy lywodraeth i "gamu i fyny a darparu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom i gadw'r gwasanaethau hanfodol hyn ar waith".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod yr heriau gwirioneddol mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu".

"Rydym yn cwrdd yn gyson gydag awdurdodau lleol i drafod [yr heriau] hyn, yng nghyd-destun y sefyllfa economaidd bresennol, wrth i ni baratoi ein cyllideb ddrafft ein hunain."

Dywedodd Llywodraeth Prydain mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw ariannu cynghorau yng Nghymru, gan ychwanegu eu bod "wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i gael yr ariannu gorau posibl i awdurdodau lleol yng Nghymru".