麻豆官网首页入口

Prawf iechyd yn 'loteri cod post' i bobl ag anableddau dysgu

Griff, Hedydd a Robert Edge Ffynhonnell y llun, Sioned Edge
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae teulu Gruffydd Cai yn dweud bod yr archwiliadau blynyddol yn "hanfodol"

  • Cyhoeddwyd

鈥淎llwch chi ddim rhesymu gyda Griff, achos dyw鈥檙 dealltwriaeth ddim yna a gallith o ddim dweud sut mae o鈥檔 teimlo am bethau chwaith - mae鈥檔 anodd.鈥

Mae Gruffydd Cai, sydd 芒 syndrom Down ac awtistiaeth, yn cael asesiad iechyd blynyddol sy鈥檔 鈥渉anfodol鈥, yn 么l ei rieni Sioned a Robert Edge.

Mae鈥檙 profion i bobl ag anableddau dysgu wedi bod ar gael yng Nghymru ers blynyddoedd - ond nid ym mhobman, ac mae鈥檙 nifer sy鈥檔 eu cael wedi gostwng.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i wella ansawdd y profion a chynyddu鈥檙 nifer sy鈥檔 manteisio arnyn nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen cefnogaeth ar Griff pan mae'n cael brechiadau, meddai ei fam Sioned

Mae Griff, 30, yn byw mewn t欧 gwarchod a gofal gyda thri arall yn Rhondda Cynon Taf.

Pan yn fabi cafodd lawdriniaethau ar ei lygaid a鈥檌 galon, a bellach mae cael unrhyw driniaethau neu frechiadau yn peri gofid iddo.

Mae鈥檔 brofiad anodd iddo gael brechiadau Covid a ffliw, meddai ei fam Sioned.

鈥淢ae鈥檔 gorfod cael t卯m rheoli ymddygiad, sy鈥檔 swnio鈥檔 ofnadwy, i ddod i gefnogi fo, i鈥檞 helpu o, i gynnal o drwy鈥檙 profiad o gael brechiadau,鈥 ychwanegodd.

鈥淢ae o鈥檔 gweld meddyg yn dod, mae鈥檔 gwybod bod rhywbeth yn mynd i gael ei 'neud nad ydy o'n licio, sy鈥檔 mynd i fod yn annymunol ac o bosib sy'n mynd i frifo.鈥

Ffynhonnell y llun, Catrin Elis Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dr Catrin Elis Williams gyda'i mab Daniel, sydd ag awtistiaeth heb leferydd

Mae ymchwil yn dangos gall y profion iechyd wella hirhoedledd pobl ag anghenion dysgu - yn arbennig pobl sydd ag awtistiaeth neu syndrom Down.

Mae Dr Catrin Elis Williams yn feddyg teulu ym Mangor ac mae gan ei mab Daniel, 23, awtistiaeth heb leferydd.

Mae meddygfa Catrin yn cynnig yr asesiad blynyddol i unigolion ag anableddau dysgu, ond dywedodd ei fod yn ddewisol i feddygfeydd eu cynnig.

'Dylai fod ar gael i bawb'

鈥淎r hyn o bryd mae o鈥檔 teimlo braidd fod o fel loteri cod post i bobl efo anableddau dysgu allu cael yr asesiadau blynyddol yma, sydd mor hollbwysig," meddai.

鈥淔y nheimlad i ydy y dyle fo fod ar gael i bawb, bod o鈥檔 rhywbeth y dylie pob meddygfa gynnig, a gobeithio bydd hynny鈥檔 rhywbeth fydd yn newid.

鈥淢ae鈥檔 bwysig yn y gr诺p yma o bobl bo鈥 ni鈥檔 chwilio am broblemau.

"Mae鈥檔 fodd o sgrinio - sgrinio cyffredinol - i wneud yn si诺r dydy pethau ddim yn cael eu methu.

"Mae鈥檔 anodd iddyn nhw gyfathrebu, mae鈥檔 anodd iddyn nhw wybod ydy鈥檙 broblem ella sydd ganddyn nhw鈥檔 beryg ai peidio.

鈥淥s oes angen i rhywun efo anabledd dysgu fynd i鈥檙 ysbyty, mae鈥檔 gallu bod yn brofiad ofnadwy o anodd iddyn nhw - llawer mwy anodd na fasa fo i rywun arall.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Simon Rose o Anabledd Dysgu Cymru, mae angen i feddygon gyfathrebu'n glir

Mae Simon Rose o Anabledd Dysgu Cymru yn dweud bod angen codi ymwybyddiaeth am yr asesiadau.

鈥淒oes dim digon o bobl yn gwybod am y gwiriadau iechyd blynyddol, ond ma' nhw鈥檔 bwysig bo' pawb yn mynd i鈥檞 cael," meddai.

鈥淢a' rhai meddygon ddim yn gwybod sut i siarad ac ysgrifennu鈥檔 glir at bobl ag anableddau dysgu, felly mae鈥檔 bwysig i gyfathrebu yn glir gyda pawb fel bo' nhw鈥檔 deall."

Dau gynllun peilot

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae dau gynllun peilot wedi bod yn edrych ar ffyrdd o oresgyn rhai o'r rhwystrau i gynnal yr apwyntiadau, sydd tua awr o hyd.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi 鈥測mrwymo i wella ansawdd y profion iechyd i bobl ag anableddau dysgu a chynyddu鈥檙 nifer sy鈥檔 manteisio arnyn nhw".

鈥淩ydyn ni wedi darparu dros 拢1m i fyrddau iechyd dros dair blynedd at y diben yma."

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth yn gobeithio y bydd y ddau gynllun yn 鈥渓lywio dyfodol y gwasanaeth yma, gan archwilio鈥檙 defnydd o system ddigidol well鈥.

Pynciau cysylltiedig