Y chwilio'n parhau am fachgen 17 oed yn y Fenai

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae bachgen 17 oed ar goll ers dydd Gwener ar 么l iddo fynd i'r Fenai

Mae'r gwasanaethau brys yn dal i chwilio'r Fenai am fachgen 17 oed a aeth i'r d诺r ddydd Gwener.

Er gwaetha'r gwaith chwilio gan sawl asiantaeth dros y penwythnos, ni chafodd y bachgen ei ddarganfod.

Roedd yn gwisgo j卯ns a hwdi porffor, yn 么l Heddlu Gogledd Cymru.

Bydd dronau arbenigol yn parhau i chwilio amdano drwy gydol yr wythnos, meddai'r llu.

Fe fydd swyddogion arbenigol ac asiantaethau eraill yn cefnogi'r ymdrech pan fydd y llanw a鈥檙 tywydd yn caniat谩u.

'Rhowch wybod i ni ar unwaith'

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: 鈥淢ae fy meddyliau鈥檔 parhau gyda theulu鈥檙 bachgen ar yr amser anodd hwn.

鈥淢ae ein swyddogion yn parhau i roi cymorth iddynt ac yn eu diweddaru鈥檔 rheolaidd ar ein hymchwiliad.

鈥淩ydym yn diolch i鈥檙 gymuned am eu cefnogaeth barhaus ac yn parhau i annog aelodau鈥檙 cyhoedd i roi gwybod i ni ar unwaith os ydyn nhw'n gweld rhywbeth.

鈥淩wy鈥檔 deall bod aelodau鈥檙 gymuned yn awyddus i gynorthwyo gyda鈥檙 gwaith chwilio.

"Byddwn yn annog gwirfoddolwyr i ystyried peryglon yr arfordir ac amodau tywydd cyfnewidiol yn ofalus wrth wneud hynny, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei niweidio.鈥