麻豆官网首页入口

Trip nifer o gefnogwyr Cymru i Montenegro wedi'i ganslo

Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Cymru'n herio Montenegro oddi cartref nos Lun, wedi'r g锚m gyfartal gyda Thwrci yng Nghaerdydd nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Mae trip nifer o gefnogwyr p锚l-droed Cymru i Montenegro wedi cael ei ganslo yn dilyn trafferthion gyda hediad o Faes Awyr Caerdydd.

Roedd cefnogwyr yn bwriadu teithio o Faes Awyr Caerdydd i Podgorica yn syth ar 么l y g锚m rhwng Cymru a Thwrci nos Wener ar gyfer y g锚m oddi cartref yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.

Ond dywedodd cwmni teithio Wonky Sheep - partner teithio swyddogol Cymdeithas B锚l-droed Cymru - y bu'n rhaid canslo'r hediad wedi i'r awyren daro aderyn.

Mae'r cwmni bellach wedi cadarnhau fod y trip wedi cael ei ganslo ar gyfer y cefnogwyr oedd i fod ar yr hediad hwnnw o Gaerdydd.

Mae Wonky Sheep wedi ymddiheuro, gan ddweud eu bod wedi "gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb", ond nad oedd modd canfod datrysiad.

Mae'n ymddangos bod 180 o gefnogwyr i fod i deithio ar yr awyren nos Wener.

Roedd rhai o'r rheiny wedi gwneud trefniadau eraill wedi i'r hediad gael ei ganslo, ond roedd eraill wedi penderfynu disgwyl i weld beth fyddai'n digwydd gyda'r trip Wonky Sheep.

Dyw hi ddim yn eglur faint o'r 180 sydd heb wneud trefniadau eu hunain, ac na fydd yn teithio i Montenegro yn sgil canslo'r trip.

Beth yw'r cefndir?

Dywedodd cefnogwr wrth Cymru Fyw fod Wonky Sheep wedi anfon neges atyn nhw yn ystod hanner amser y g锚m nos Wener i ddweud wrthyn nhw am beidio mynd i'r maes awyr yn syth wedi'r g锚m.

Roedd y neges yn egluro bod "yr awyren oedd i fod i deithio i Montenegro wedi taro aderyn a ni fydd modd hedfan".

Roedd yr awyren wedi taro aderyn cyn iddi hi gyrraedd Caerdydd, ac er bod Wonky Sheep wedi ceisio trefnu awyren arall, dywedon nhw nad oedd criw ar gael.

Fe benderfynodd rhai cefnogwyr drefnu hediadau o feysydd awyr eraill dros y penwythnos, ond roedd eraill wedi penderfynu aros i gael rhagor o wybodaeth gan Wonky Sheep.

Cadarnhaodd y cwmni i 麻豆官网首页入口 Cymru nos Sul fod y trip wedi cael ei ganslo.

'Y peth olaf roedden ni eisiau'

Dywedodd llefarydd ar ran Wonky Sheep: 鈥淢ae鈥檔 ddrwg iawn nad ydym wedi gallu cael cefnogwyr i Montenegro ar gyfer y g锚m.

鈥淔e wnaethon ni geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb gyda nifer o ddarparwyr dros y 48 awr ddiwethaf ond fe wnaethon ni wynebu amryw o rwystrau logistaidd, a oedd mewn rhyw ffordd neu鈥檌 gilydd yn rhwystro ein hymdrechion.

鈥淵 peth olaf roedden ni eisiau ei wneud oedd siomi cefnogwyr, ond maen nhw wedi bod yn eithriadol gyda鈥檜 hamynedd a鈥檜 dealltwriaeth o sefyllfa anodd iawn, ac rydyn ni鈥檔 diolch iddyn nhw am hynny.鈥