麻豆官网首页入口

'Melin Melyn yn therapiwtig ar 么l colli Dad'

Aled Glynne a'i fab Gruff GlynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y diweddar Aled Glynne Davies a'i fab Gruff Glyn

  • Cyhoeddwyd

Wrth i un o fandiau mwyaf difyr Cymru gyhoeddi manylion eu halbwm cyntaf, mae 鈥榥a dristwch tu cefn i鈥檙 cyffro gan na fydd un o鈥檜 ffans mwya鈥 o gwmpas i鈥檞 werthfawrogi.

Ond fe fydd Aled Glynne Davies o hyd yn rhan o hanes gr诺p ei fab gan fod y record wedi ei gyflwyno er cof amdano. Ac mae Gruff Glyn, prif leisydd Melin Melyn, yn sicr y byddai'n falch iawn ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, CLARE MARIE BAILEY
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gruff Glyn: "Er bod ni鈥檔 cael lot o hwyl, 'da ni鈥檔 gymryd o o ddifrif."

Mae wedi bod yn ddwy flynedd i鈥檞 gofio, ac anghofio, i Gruff.

Mae ei gr诺p Melin Melyn wedi denu sylw cynyddol ar y cyfryngau ac wedi bod yn perfformio ar draws Prydain, yr Iseldiroedd, ac mewn gwyliau di-ri.

Maen nhw ar fin gwneud gwibdaith o Gymru ar benwythnos 4-6 Hydref - gan chwarae yng Nghasnewydd, Arberth a Bethesda - er mwyn dathlu rhyddhau eu sengl newydd Fantastic Food ar 2 Hydref. Ac mae nifer o gigs eraill ar y gweill dros y misoedd nesaf i hyrwyddo eu halbwm cyntaf Mill on the Hill fydd allan fis Mawrth.

Ond yn gysgod dros y cyfan mae nos Calan 2022, pan chwalwyd byd Gruff wedi i鈥檞 dad fynd ar goll ger ei gartref yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff cyn-olygydd Radio Cymru rai dyddiau yn ddiweddarach, ac ym mis Medi 2024 daeth cwest i鈥檙 casgliad bod Aled Glynne Davies wedi marw'n ddamweiniol ar 么l syrthio i Afon Taf.

'Roedd Dad wrth ei fodd efo'r band'

Trwy鈥檙 cyfnod mae鈥檙 band wedi bod yn ddihangfa i Gruff.

鈥淢ae bod yn y band wedi bod mor therapiwtig a chathartig. Mae o wedi bod yn help mawr i fi," meddai.

鈥淩oedd Dad wrth ei fodd efo鈥檙 band ac oedd o鈥檔 rhan hanfodol鈥 roedd o鈥檔 dilyn ni bob man, ac roedd Mam a Dad - a Mam yn dal i roi - llety i鈥檙 band.鈥

Ymysg yr holl deyrngedau i Aled Glynne wedi ei farwolaeth, roedd s么n am ei synnwyr digrifwch a鈥檌 hoffter o dynnu coes, felly does ryfedd bod gr诺p sydd mor chwareus a llawn hwyl at ei ddant.

Meddai Gruff: 鈥淢ae genno ni EP o鈥檙 enw Happy Gathering ac os ti鈥檔 edrych ar y llun mae 鈥榥a rywun wedi gwisgo fel gafr yn y llun ar flaen yr EP - a Dad ydi hwnnw.

鈥溾橠a ni wedi rhoi er cof am Dad - er cof am Aled Caled - ar yr albym newydd sy鈥檔 dod allan.

鈥淯n o鈥檔 hoff ganeuon i ar yr albym ydi Pigeon and the Golden Egg a phan ddaeth o draw yma ym mis Rhagfyr cyn iddo fo farw鈥 nesh i ddeud 鈥榯yrd yma Dad, dwi 'di sgwennu demo newydd, be鈥 ti鈥檔 feddwl o hon?鈥 Ac roedd o wrth ei fodd efo hi.鈥

Ffynhonnell y llun, Edie Morris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r EP Happy Gathering yn cynnwys pedair c芒n, gan gynnwys Nefoedd yr Adar a Hold the Line. Mae'r band yn sgwennu caneuon Cymraeg a Saesneg

Ffurfiwyd Melin Melyn yn 2019, ac fel gyda melin go iawn, mae 鈥榥a fwy yn mynd ymlaen na sy鈥檔 amlwg ar yr olwg gyntaf.

Mae鈥檙 gerddoriaeth - sydd wedi ei ddisgrifio fel pop a chanu gwlad seicadelic - yn chwareus, ond yn gelfydd. Mae鈥檙 geiriau yn codi gw锚n - ond tydi鈥檙 pynciau ddim yn rhai ffwrdd 芒 hi. Mae Jelly vs Blomonj yn trafod tor-calon dwys ac I Paint Dogs yn s么n am wneud gwaith di-ddim i ddal dau ben llinyn ynghyd.

鈥淓r bod y gerddoriaeth yn gallu cael ei glywed fel rhywbeth doniol a ddim yn ddifrifol o gwbl, mae 鈥榥a lwythi o bynciau difrifol - os mai dyna be ydi serious - yn ein caneuon ni, tydi nhw ddim yn ganeuon comedi,鈥 meddai Gruff.

鈥淢ae gen ti rywun fel y Welsh Whisperer sy鈥檔 wych am wneud be鈥 mae o鈥檔 'neud, mae gen ti Flight of the Conchords yn wych yn neud be鈥 ma' nhw鈥檔 'neud. Does 鈥榥a r'un un c芒n dwi 'di sgwennu yn bwrpasol i fod yn ddoniol.鈥

Dechrau band am y tro cyntaf yn 32 oed

Er bod cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o fagwraeth Gruff, Melin Melyn ydi ei fand cyntaf - sy鈥檔 anarferol i rywun yn ei 30au.

鈥淧an o鈥檔 i tua 32 - classic story - mynd trwy dorcalon, trwy breakup ac wedyn meddwl 'stwffia hyn, wn芒 i ddechrau sgwennu caneuon',鈥 meddai.

鈥淣esh i sgwennu Jelly Vs Blomonj - eto c芒n mae pobl yn chwerthin arni ond c芒n am fod yn hollol isel ar 么l mynd trwy breakup, ond dwi wrth fy modd efo hi.

"Wedyn cychwyn chwarae efo boi o鈥檔 i wedi cwrdd yn y caffi o鈥檔 i鈥檔 gweithio ynddo fo o鈥檙 enw Will (Barratt), sydd r诺an yn un o fy ffrindiau agos i a sy鈥檔 chwarae git芒r yn y band.

鈥淩oedd Cai (Dyfan) a fi wedi cael sesiwn o chwarae cynt achos roedd o wedi cynllunio drama o鈥檔 i wedi bod ynddi yn y Sherman ac wedyn pigo pobl eraill (Garmon Rhys, Rhodri Brooks a Dylan Morgan) i fod yn involved a dyna ni!鈥

Ffynhonnell y llun, Edie Morris
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd Mill on the Hill yn cael ei ryddhau fis Mawrth 2025. Meddai Gruff: "'Da ni wedi rhoi lot fawr iawn o waith fewn i'r albym"

Actorion ydi Gruff a'r gitarydd Garmon Rhys, ond pan mae rhywun yn dibynnu ar actio am ei fara menyn, weithiau mae鈥檔 rhaid chwilio yn rhywle arall am flawd. Felly fe ddatblygodd Melin Melyn fel ffordd o gael bod yn greadigol yn hytrach nag eistedd o gwmpas yn disgwyl i鈥檙 ff么n ganu i gynnig gwaith.

Gyda鈥檙 aelodau yn byw yng Nghaerdydd, Bryste, Caernarfon a Llundain, a dau efo plant, tydi trefnu ymarferion ddim yn hawdd. Ond pan maen nhw鈥檔 cyfarfod i ymarfer maen nhw'n gweithio'n galed, meddai Gruff.

Ffrwyth eu llafur ydi Mill on the Hill, albym gysyniadol lle mae pob aelod o鈥檙 band yn felinwr sy鈥檔 gorfod cadw鈥檙 felin i droi ym mhentref Melin. Nid blawd, ond cerddoriaeth sy鈥檔 cael ei gynhyrchu gan y melinwyr.

鈥淢ae pobl weithiau yn cwestiynu gwerth cerddoriaeth ond y ffaith ydi mae pawb angen cerddoriaeth yn eu bywyd - dwi鈥檔 grediniol o hynny," meddai.

"Mae鈥檙 syniad yma o be' fasa鈥檔 digwydd i bentref Melin petai鈥檙 felin yn stopio. Felly 'dan ni鈥檔 creu gymaint o gerddoriaeth 芒 gallwn ni er mwyn cadw pawb yn hapus.鈥

'Pethau da yn dod allan o rywbeth mor drist'

Un sydd ddim o gwmpas i'w fwynhau, wrth gwrs, fydd tad Gruff.

鈥淵 gwir amdani ydi mi fasa鈥檙 albym wedi gallu dod allan yn gynt ond dwi byth yn difaru ar bethau fel yna yn sb茂o n么l," meddai Gruff. "Mae鈥檙 albym yma allan pan mae o fod i ddod allan ac mi fasa Dad mor, mor falch ohona ni gyd.

"Roedd o鈥檔 meddwl y byd ohona ni gyd, roedd o鈥檔 meddwl y byd o鈥檙 band - fasa fo wrth ei fodd. Bechod bod o ddim yma, ond mae efo ni - in spirit.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyn ymuno gyda'r 麻豆官网首页入口 fel newyddiadurwr yn 1978 roedd Aled Glynne yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth Mynd am Sbin ar Sain Abertawe

Ac er cymaint y golled, mae Gruff yn cael cysur yn ei brofiad ers ei brofedigaeth. Fel ei felinwyr dychmygol sy'n creu'r gerddoriaeth sy'n angenrheidiol i fywyd, yn y byd go iawn mae 'na bobl go iawn yn creu cariad i leddfu'r boen a gwneud pethau ychydig yn haws.

鈥淣id jest y fi a鈥檔 nheulu i a鈥檔 ffrindia fi a鈥檙 band sy鈥檔 mynd trwy alar - mae o鈥檔 rhywbeth mae pawb yn mynd drwyddo fo.

鈥淒wi wedi ymuno 芒 chymuned newydd o alarwyr ac mae 鈥榥a gysur i鈥檞 gael yna a ti鈥檔 dysgu pethau newydd. Dwi鈥檔 cwrdd 芒 phobl newydd, ti鈥檔 gweld perthnasau yn wahanol.

鈥淢ae 鈥榥a lot o bethau da i ddod allan o rywbeth mor drist a dwi鈥檔 meddwl bod lot o hynny yn dod hefyd achos pa mor hyfryd oedd Dad ac mai dyna鈥檙 rhodd ti鈥檔 ei gael.鈥

Pynciau cysylltiedig