Bethan Elfyn: Edrych yn ôl ar 10 mlynedd o Gorwelion

Deng mlynedd yn ôl cafwyd egin syniad; i ddathlu cerddoriaeth Gymreig mewn ffordd newydd, ffres, a thrawiadol.

Nid rhaglen deledu, nid rhaglen radio, nid gŵyl, nid un peth yn unig ond cynllun blwyddyn fyddai'n ymrwymo 12 artist dros gyfnod y calendr cerddorol i chwarae gwyliau, sesiynau radio, meithrin cysylltiadau, creu cymdeithas.

Disgrifiad o'r fideo, Mae Bethan Elfyn wedi bod wrth lyw cynllun Gorwelion ers y dechrau, ddeng mlynedd yn ôl

Ffrwyth y syniad hwnnw oedd Gorwelion – cynllun a fyddai'n noddi, meithrin a rhoi cyfleoedd di-ri i artistiaid ar ddechrau eu taith gerddorol a chreadigol.

Gyda nawdd a chefnogaeth partneriaeth arbennig gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, aeth y cynllun o nerth i nerth.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo'r person sydd wedi bod wrth y llyw ers y dechrau, Bethan Elfyn.

Disgrifiad o'r llun, Bethan Elfyn yw Rheolwr Cynllun Gorwelion

"Gan ein bod yn gynllun Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú roedden ni'n gallu manteisio ar radio, arlein a theledu i agor drysau i artistiaid newydd, a chwistrellu egni newydd i'r sîn yng Nghymru.

"A rydyn ni'n dal i holi; sut gallwn ni dynnu sylw ehangach at dalent Cymru ac allforio'r talent mwyaf i farchnadoedd cerddorol y byd?

Ffynhonnell y llun, Gorwelion

Disgrifiad o'r llun, Hollie Singer o fand Adwaith yn perfformio yn Rough Trade East fel rhan o brosiect Wales in London gan Gorwelion

"Mae’r diwydiant cerddorol yn un cymhleth. Rhaid delio efo managers, asiantau byw, labeli bach, labeli mawr, gwyliau annibynnol, gwyliau corfforaethol – mae hi bron yn amhosib i gerddorion newydd ddeall beth yw’r camau a’r llwybrau angenrheidiol er mwyn chwarae'r gwyliau mawr y tu allan i Gymru.

"Who you know yw’r sefyllfa o hyd efo’r byd cerddorol, ac yn anffodus, mae’n cymryd dipyn o lwc a blynyddoedd o waith caled, ac hyd yn oed wedyn does dim guarantee am lwyddiant!

"Mae’n dipyn o her i gerddor ifanc sydd just moyn chwarae cerddoriaeth!"

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r bandiau ac artistiaid mae Gorwelion wedi eu helpu ers 2014

Mae'r angerdd i gefnogi a meithrin dal yn amlwg yn Bethan wrth iddi siarad:

"Yr hyn sydd yn hwb enfawr yw bod 'na lwyddiant wedi bod yn y sîn: bod 'na gerddoriaeth o Gymru yn torri drwyddo, a bod 'na gefnogaeth eang ar gyfer artistiaid newydd bellach – Anthem, Forté, Beacons, Cerdd Cymunedol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Focus Wales, Tŷ Cerdd, Sŵn, Clwb Miwsig, Pyst, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, Tân Cerdd, Amlen, canolfannau a gwyliau newydd heb sôn am labeli gweithgar fel Libertino, I KA CHING, Recordiau Côsh – mae’r cyfleoedd yn niferus erbyn hyn.

"Ond mae'r diwydiant yn parhau'n gymhleth ac mae dal angen arweiniad ar fandiau ac artistiaid newydd."

Disgrifiad o'r llun, Mwynhau arlwy Gorwelion!

"Un o’r pethau mwyaf cyffrous wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd yw’r amrywiaeth: lleoliadau, artistiaid, criwiau ffilmio a timoedd recordio, a’r holl wynebau a lleisiau ry'n ni wedi cwrdd â nhw dros y siwrne anturus!

"Dwi mor ddiolchgar i bawb am y cyfeillgarwch, a’r ffydd yn y cynllun a’r hwyl ni wedi'i rannu dros y cyfnod.

"Y dyfodol sy’n bwysig ond i edrych yn ôl am eiliad, dyma chydig o uchafbwyntiau i mi."

Uchafbwyntiau Bethan Elfyn

  • Yr artistiaid – diolch amdanoch, eich talentau chi sy’n galluogi ni i barhau!
  • Y criw – mae gymaint wedi mynd a dod yn gweithio ar y cynllun ond diolch am eich brwdfrydedd!
Disgrifiad o'r fideo, Ffilm fer am sesiwn Gwilym yn Maida Vale 2019
  • Recordio sesiynau yn Maida Vale, Rockfield, Sain a Sgwâr Canolog!
  • Ffilmio ar leoliad: sesiynau gwyllt Gorwelion!
Disgrifiad o'r fideo, Tara Bandito yn gwneud un o Sesiynau "gwyllt" Gorwelion
  • Mynd â chynifer o fandiau i wyliau cerddorol: Truck, No. 6, Glastonbury, Reading/Leeds, Great Escape, SXSW, Liverpool Sound City, in it together, Eisteddfod, Tafwyl, Reeperbahn, Rudolstadt, Eurosonic, Greenman, a mwy
  • Cyweithiau a chaneuon arbennig: creu anthemau newydd!
Disgrifiad o'r fideo, NoGood Boyo – Bwmba yn fyw o Ŵyl Rhif 6
  • Cydweithio brwd: o Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Introducing, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru, Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Wales, Wales Arts International, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Fortè, Beacons, Music Ally, PRSF, Power Up, FAW, a mwy
Disgrifiad o'r fideo, Perfformiad arbennig HMS Morris yn Stiwdio Gorwelion ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 2016.

Bydd Gorwelion yn dathlu 10 mlynedd gyda gig arbennig ar y cyd â Forté Project yng nghanolfan The Gate yng Nghaerdydd ar Hydref 3, 2024.

Mae'r rownd ymgeisio am nawdd y Gronfa Lansio ar agor nawr hefyd.