Ehangu cynllun sgrinio canser y coluddyn 'am achub bywydau'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae'n "hanfodol", medd Gareth Potter, bod pobl yn manteisio ar y profion wedi iddyn nhw ddod trwy'r post
  • Awdur, Iolo Cheung
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae cleifion sydd wedi goroesi canser y coluddyn wedi iddo gael ei ddal yn gynnar, yn dweud y gallai ehangu gwasanaeth sgrinio "wir achub bywydau".

Daw hynny wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd unrhyw un sy鈥檔 50 oed a h欧n nawr yn derbyn profion sgrinio鈥檙 coluddyn i鈥檞 gwneud adref.

Mae gostwng yr isafswm oed ar gyfer y cynllun 鈥 o flwyddyn 鈥 nawr yn golygu y bydd miloedd yn rhagor o bobl yn gymwys am brawf drwy eu meddyg teulu.

Y bwriad, meddai鈥檙 gweinidog iechyd Jeremy Miles, yw 鈥済wella canlyniadau canser鈥 drwy ddal y clefyd yn gynnar.

Un sy'n croesawu'r penderfyniad i ehangu'r cynllun sgrinio yw'r DJ, cerddor a pherfformiwr Gareth Potter.

Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast ei fod wedi cael deunaw mis "anodd iawn" wedi i brawf amlygu canser y coluddyn fis Mawrth y llynedd.

Roedd eisoes "yn wyliadwrus" o ran symptomau posib wedi marwolaeth ei dad o ganser.

"Ti ddim yn licio meddwl am gancr, yn enwedig cancr all effeithio chdi," meddai, "felly ma' rhywbeth fel prawf yn dod trwy'r post... mae'n rhoi cynnig i chi 'ok, geith feddyg edrych ar hwn."

Mae'r prawf yn "rili hawdd... a dwi mor falch bo' fi 'di 'neud e", yn enwedig ar 么l colli sawl ffrind i ganser, gan gynnwys un o sylfaenwyr label recordiau Ankst, Emyr Glyn Williams.

"Reit trw' fy nhriniaeth i oedd Emyr yn mynd trw' rywbeth eitha' tebyg ac fe gollon ni Emyr tridia' cyn i fi fynd mewn i'r ysbyty i gael gwared o 'ngholuddyn i a o'dd Emyr yn iau na fi."

Gydag un ymhob dau yn debygol o gael canser, dywed Gareth Potter bod angen codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd cynlluniau sgrinio.

"Dwi dal yma... ond mae gymaint o ffrindiau fi sydd ddim yma," meddai. "Mae dyletswydd 'da fi, dwi'n meddwl... y'n ni gyd wedi colli pobl i gancr."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae sawl un wedi diolch i Euros Davies am godi ymwybyddiaeth am brofion canser y coluddyn ers iddo drafod ei brofiad personol

Mae Euros Davies o Rosfawr, ger Pwllheli hefyd wedi disgrifio sut y bu bron iddo beidio gwneud y prawf a ddangosodd bod tiwmor yn ei goluddyn.

Ag yntau'n berson heini heb unrhyw symptomau, a "bywyd yn brysur, fel mae i bawb", fe anghofiodd yn llwyr am y prawf a gyrhaeddodd trwy'r post fisoedd ynghynt.

Fe gafodd lawdriniaeth ddechrau Mai i dynnu rhan o'i goluddyn bach ond fe fyddai'r "sefyllfa dipyn mwy du arna'i erbyn heddiw" oni bai iddo anfon sampl i'w brofi ddechrau Ionawr "a dal y tiwmor yn ddigon buan".

Eglurodd wrth Dros Frecwast efallai na fyddai wedi dod i wybod bod canser arno "am fisoedd neu flynyddoedd" oherwydd natur y tiwmor.

Mae awgrym bod tua un o bob tri yn anwybyddu'r prawf canser y coluddyn "yn codi dychryn ar rywun", yn enwedig gan fod canran mor uchel o gleifion sydd angen triniaeth yn gwella ar 么l diagnosis cynnar, meddai E.

Ychwangodd bod hi'n "newyddion gwych bo' nhw 'di dod 芒'r oed sgrinio i lawr ond [dwi'n] erfyn ar bobol i wneud y sgrinio".

Disgrifiad o'r llun, Taflen wybodaeth y pecyn sgrinio am ganser y coluddyn

Canser y coluddyn yw un o鈥檙 canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda thua 2,400 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd mae cynllun sgrinio canser y coluddyn yn golygu bod y rheiny rhwng 51 a 74 oed yn cael cynnig pecyn hunan-sgrinio bob dwy flynedd.

Mae鈥檙 broses yn cynnwys prawf imiwnocemegol ysgarthol (FIT), sydd wedyn yn cael ei anfon am brofion i weld os oes unrhyw arwydd o ganser y coluddyn.

Os yw鈥檔 cael ei ddal mae modd ei drin cyn i symptomau ymddangos, a gall y profion hyd yn oed ganfod polypau, sef tyfiannau sydd ddim yn ganser, ond sydd modd eu tynnu er mwyn atal canser rhag datblygu yn y lle cyntaf.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r llywodraeth "wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser" meddai Jeremy Miles

鈥淩ydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru, a'r ffordd orau o wneud hyn yw canfod a gwneud diagnosis o ganser ar gam cynharach 鈥 mae sgrinio鈥檔 ein helpu i wneud hyn,鈥 meddai Jeremly Miles.

鈥淧an fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, mae鈥檔 fwy tebygol y gellir ei drin.

鈥淢ae tystiolaeth yn dangos bod cyfradd gwella canserau sy'n cael eu canfod trwy brofion sgrinio鈥檙 coluddyn yn 90%, ac mae bron i naw o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn pan fyddant yn cael diagnosis yn y cam cynharaf.

鈥淩wy'n falch iawn y bydd miloedd yn rhagor o bobl yng Nghymru yn cael y profion sgrinio鈥檙 coluddyn i鈥檞 gwneud yn eu cartrefi.鈥

Gostwng oedran sgrinio yn newyddion 'gwych'

Ychwanegodd elusen Bowel Cancer UK ei bod hi鈥檔 鈥渨ych鈥 gweld yr oedran sgrinio鈥檔 gostwng, ar 么l ymgyrchu mor hir ar y mater.

鈥淩ydym yn gobeithio gweld ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru o ran optimeiddio a sicrhau cyllid priodol ar gyfer sgrinio,鈥 meddai Gerard McMahon, Pennaeth Polisi a Dylanwadu (Gwledydd Datganoledig) yr elusen.

鈥淕wyddom fod anghydraddoldebau o hyd o ran cymryd rhan mewn sgrinio, a hynny ym mhob rhan o鈥檙 wlad.

鈥淩haid mynd i鈥檙 afael 芒 hyn, a pharhau i wella sensitifrwydd presennol y prawf FIT yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC).

鈥淩ydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni鈥檙 amcanion allweddol hyn, gan wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn yn y pen draw.鈥