'System addysg Cymru'n amddifadu plant ag anableddau'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Mae Betsan Gower Gallagher yn dweud ei bod hi'n wynebu brwydr barhaus i gael cefnogaeth i'w hefeilliaid saith oed
  • Awdur, Aimee Thomas
  • Swydd, Gohebydd 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae plant yng Nghymru sydd ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hamddifadu gan y system addysg, yn 么l adroddiad gan bwyllgor y Senedd.

Yn 么l yr adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, mae yna nifer sylweddol o blant yng Nghymru sydd ddim yn cael yr addysg maen nhw'n ei haeddu.

Ychwanegodd nad yw'r system addysg yn gwneud digon i roi cymorth iddyn nhw.

Mae rhiant wedi dweud wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei bod hi'n wynebu brwydr barhaus i gael cefnogaeth i'w efeilliaid saith oed, sy'n awtistig, gan gynnwys rhwystrau'n ymwneud 芒 chymorth gofal plant a darpariaeth yn Gymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau fel bod pob dysgwr yn gallu cyrraedd eu potensial.

Disgrifiad o'r llun, 鈥淢ae angen gofal un-i-un ar ein merched, ac roedd rhaid i ni frwydro鈥檔 galed am hynny," meddai Betsan Gower Gallagher

Yn 么l yr adroddiad, mae'n loteri cod post sy'n golygu mai unigolion, yn hytrach na'r system, sy'n gyfrifol am unrhyw ddarpariaeth o safon.

Mae Betsan Gower Gallagher o Drebannws yng Nghwm Tawe yn fam i Brielle a Bowann - efeilliaid saith oed.

Maen nhw鈥檔 awtistig ac mae angen gofal un-i-un ar gyfer eu hanghenion.

Dywedodd Ms Gower Gallagher fod sicrhau bod y merched yn cael mynediad at addysg pan oedden nhw鈥檔 iau yn 鈥渇rwydr anodd鈥.

鈥淢ae popeth yn frwydr fel rhieni plant anabl, ac mae popeth ag addysg yn flinedig tu hwnt," meddai.

鈥淣i ddim yn cael yr un triniaeth 芒 phobl eraill.

鈥淢ae angen gofal un-i-un ar ein merched, ac roedd rhaid i ni frwydro鈥檔 galed am hynny.

鈥淩oedd yn rhaid i ni brofi bod ein plant yn anabl, sy鈥檔 ridiculous.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Betsan Gower Gallagher fod eu costau gofal plant yn "拢1,000 yr wythnos ar gyfer yr haf"

Gyda gwyliau鈥檙 haf yn agos谩u, dywedodd Ms Gower Gallagher ei bod hi鈥檔 anodd trefnu gofal plant tra'i bod hi a'i g诺r yn gweithio.

鈥淩wy鈥檔 gwybod am leoedd yn Lloegr lle mae ganddyn nhw glybiau lle maen nhw鈥檔 gallu anfon eu plant anabl, ond does dim byd fel 'na yn agos i ni, "meddai.

鈥淢ae gofal plant ni ar hyn o bryd yn 拢1,000 yr wythnos ar gyfer yr haf. Fi a g诺r fi yn gweithio, ond mae hwnna鈥檔 swm ofnadwy o uchel.

鈥淕all pobl eraill anfon eu plant i glwb haf allai fod tua 拢100 yr wythnos, sy鈥檔 swm gweddol yn fy marn i.

鈥淥nd mae 拢1,000 yr wythnos yn swm uchel iawn.

鈥淔i鈥檔 teimlo fel fy mod yn cael fy nghosbi. Rwy'n teimlo bod y system yn gwahaniaethu [yn erbyn] fi a fy nheulu."

Rhieni'n 'ysu am gefnogaeth'

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i鈥檞 31 o argymhellion.

Mae鈥檙 argymhellion yn cynnwys trefnu mwy o hyfforddiant i ddarparwyr gofal plant, ac yn dweud y dylai penderfyniadau ar gymorth ariannol fod yn seiliedig ar anghenion unigol y plentyn.

Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn galw am fwy o gyllid i ysgolion, am ddylunio ysgolion newydd a chael mwy o gludiant i鈥檙 ysgol.

Dywedodd Buffy Williams AS, cadeirydd y pwyllgor, bod rhieni yn 鈥測su am gefnogaeth".

鈥淒rwy gydol yr ymchwiliad hwn, clywsom gan rieni a oedd yn ysu am gefnogaeth, ac i gael rhywun i wrando arnynt," meddai.

"Bydd llawer o'r straeon yn aros gyda mi am byth."

Ychwanegodd: 鈥淔ydden ni ddim yn gwneud ein gwaith pe na byddem yn clywed eu lleisiau ac yn cyflwyno鈥檙 achos cryfaf posibl i Lywodraeth Cymru dros yr hyn sydd angen ei newid 鈥 dyna rydyn ni鈥檔 ei ddweud yn yr adroddiad hwn.

"Y strwythur sydd ar fai, nid athrawon na staff gofal plant unigol sy鈥檔 gwneud eu gorau glas er gwaetha鈥檙 strwythur.

鈥淣i allwn wneud cam 芒鈥檔 pobl ifanc mwyach. Dim ond un cyfle gewch chi mewn addysg, a dylai hwnnw fod y cyfle gorau posibl.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淢ae gan blant a phobl ifanc anabl hawliau sylfaenol i gael mynediad at addysg, ac rydym wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau fel y gall pob dysgwr gyrraedd eu potensial.

鈥淏yddwn yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth i wrando ar deuluoedd, plant anabl a phobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau鈥檔 cael eu clywed, wrth i ni ystyried y gwaith ochr yn ochr ag adroddiad ac argymhellion pwyllgor y Senedd.鈥

Plant a theuluoedd 'mewn limbo'

Gan ddisgrifio'r adroddiad fel un "hynod arwyddocaol", dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd "o ddifrif" casgliad y pwyllgor "bod hawliau plant i addysg yn cael eu torri yng Nghymru".

"Ni allwn fethu cenhedlaeth o blant drwy wneud dim," dywedodd. "Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion cynhwysfawr a allai drawsnewid bywydau plant os ydyn nhw鈥檔 cael eu gweithredu gyda'i gilydd...

"Mae plant a theuluoedd yn aml yn cael eu gadael mewn limbo heb y cymorth neu'r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt, yn colli allan ar eu hawliau dynol, a鈥檜 hanghenion sylfaenol.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb yn llawn ac yn gynhwysfawr i'r adroddiad hwn yn ddi-oed, gan amlinellu'r camau y byddant yn eu cymryd i fynd i鈥檙 afael 芒'r materion sy'n wynebu plant a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru."