麻豆官网首页入口

Adalw'r Senedd ar 6 Awst i ethol Morgan yn brif weinidog

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Ben Birchall/PA Wire
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Eluned Morgan ei chadarnhau'n arweinydd newydd Llafur Cymru ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfarfod o'r Senedd ar 6 Awst i gadarnhau Eluned Morgan yn Brif Weinidog Cymru.

Roedd y prif weinidog Vaughan Gething wedi ysgrifennu at Lywydd y Senedd Elin Jones i ofyn am hynny.

Ychwanegodd Mr Gething bod "hyn yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth Ei Fawrhydi y Brenin o'm cynnig ffurfiol o ymddiswyddiad".

Ymatebodd Elin Jones: 鈥淐efais gais gan y prif weinidog i adalw鈥檙 Senedd er mwyn i Aelodau enwebu鈥檙 person nesaf i gymryd r么l Prif Weinidog Cymru.

"Rwyf wedi derbyn y cais ac rwyf wedi ysgrifennu at Aelodau o鈥檙 Senedd i鈥檞 hysbysu am yr adalw.鈥

Bydd y Senedd yn cwrdd ar ddydd Mawrth 6 Awst am 11:00.

Bydd y cyfarfod yn un hybrid, gyda rhai o鈥檙 Aelodau鈥檔 bresennol yn y Siambr, gyda鈥檙 opsiwn i gymryd rhan ar-lein hefyd

Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

Fe gafodd Ms Morgan ei phenodi yn ddi-wrthwynebiad fel arweinydd y blaid.

Ond cyn bod modd ei chadarnhau fel prif weinidog mae'n rhaid cynnal pleidlais ymhlith aelodau'r o'r Senedd, sydd ar doriad yr haf ar hyn o bryd.

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds wedi dweud na fydd hi'n pleidleisio, sy'n golygu y bydd modd i'r gr诺p Llafur ethol Ms Morgan yn brif weinidog heb unrhyw broblem.

Yr Ysgrifennydd Iechyd presennol yw'r fenyw gyntaf i arwain Llafur Cymru a hi fydd prif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Roedd Ms Morgan wedi sicrhau cefnogaeth 26 o'r 30 aelod Llafur yn y Senedd cyn i'r cyfnod enwebu gau ddydd Mercher.

Cyn dod yn brif weinidog yn ffurfiol, mae gofyn i'w rhagflaenydd Vaughan Gething ymddiswyddo'n swyddogol cyn pleidlais yn y Senedd.

Fe ddywedodd Mr Gething ei fod yn bwriadu ildio'r swydd wedi i bedwar aelod blaenllaw o'i lywodraeth ymddiswyddo dros wythnos yn 么l.

Roedd Mr Gething dan gwmwl gydol ei gyfnod fel prif weinidog oherwydd rhoddion dadleuol o 拢200,000 i'w ymgyrch arweinyddol gan gwmni troseddwr amgylcheddol.

Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ynddo wedi i ddau AS Llafur fethu 芒'i gefnogi.

Cododd ffrae hefyd wedi i Mr Gething ddiswyddo un o'i weinidogion, Hannah Blythyn, am rannu negeseuon testun gyda'r wasg - honiad y mae hithau yn ei wadu.

Ymddiswyddodd Mr Gething, AS De Caerdydd a Phenarth, wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd.

'Troi dalen lan'

Mae Ms Morgan - trydydd prif weinidog Cymru eleni - wedi gwneud addewid i uno Llafur Cymru yn sgil rhaniadau ers i Mr Gething olynu Mark Drakeford ym mis Mawrth.

Yn ei chyfweliad cyntaf gyda'r 麻豆官网首页入口 dywedodd bod angen "ymddiheuriad" gan ei phlaid i bobl Cymru yn dilyn wythnosau o drafferthion mewnol.

Dywedodd bod llywodraeth Lafur Cymru heb wneud cystal yn ddiweddar, ond ei bod nawr yn "troi dalen lan".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ymddiswyddodd Mr Gething wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd

Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA ei bod wedi siarad gyda Vaughan Gething ers ei hetholiad gan "gydnabod ei wasanaeth i'w wlad ac i'w ddiolch am ei waith".

Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi llongyfarch Ms Morgan, gan ddweud ei bod "eisoes yn creu hanes".

Ond dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod Ms Morgan wedi cael ei choroni, ac mae Plaid Cymru'n dweud bod yr etholiad yn amlygu "helbul" o fewn Llafur.

Mae'r ddwy blaid wedi beirniadu perfformiad GIG Cymru dan ei harweinyddiaeth.

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi cwestiynu pam nad yw'r Senedd wedi cael ei adalw "yn syth".

Jane Dodds am ymatal ei phleidlais

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru Jane Dodds y bydd hi'n ymatal yn y bleidlais i ethol prif weinidog newydd yn y Senedd.

Fe fyddai hynny'n golygu fod gan y gr诺p Llafur ddigon o gefnogaeth i ethol Ms Morgan heb fawr o wrthwynebiad.

Yn ymateb i sylwadau Ms Dodds dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod hynny'n "gadarnhad y bydd y llwybr yn glir i Eluned Morgan ddod yn brif weinidog ac mi fyddwn wedyn yn symud ymlaen i鈥檙 cyfnod o鈥檌 dal hi i gyfrif yn gadarn fel gwrthblaid."