麻豆官网首页入口

Mab cyn-ymosodwr Cymru yn arwyddo i Manchester United

Silva MexesFfynhonnell y llun, Instagram
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Silva Mexes yn fab i gyn-ymosodwr Cymru Rob Earnshaw

  • Cyhoeddwyd

Mae mab cyn-ymosodwr Cymru Rob Earnshaw wedi ymuno 芒 Manchester United.

Mae Silva Mexes, sy'n rhan o garfan dan-14 Cymru, wedi ymuno ag academi United o Ipswich Town.

"Dwi'n falch o allu cyhoeddi fy mod wedi arwyddo i Manchester United," meddai Mexes ar ei gyfri Instagram.

"Diolch i bawb sydd wedi fy helpu ar fy siwrne hyd yn hyn. Mae'r gwaith caled yn dechrau nawr."

Mae'n ymddangos fod Mexes yn dipyn o athletwr, gyda'i gyfri Instagram hefyd yn nodi ei fod yn bencampwr ras 100m dan 13 oed yn Essex.

Mae disgwyl iddo chwarae yn yr un t卯m yn United 芒 Kai Rooney, sef mab cyn-ymosodwr Lloegr Wayne Rooney.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rob Earnshaw yn dathlu sgorio dros Gymru

Cafodd Earnshaw, sy'n 43 oed, ei eni'n Zambia, ond fe symudodd i Gymru yn blentyn.

Fe ymunodd 芒 chlwb Caerdydd yn fachgen ifanc, gan sgorio 89 g么l mewn 202 o gemau.

Fe chwaraeodd hefyd i glybiau fel West Bromwich Albion, Norwich City, Derby County, Nottingham Forest, Maccabi Tel Aviv, Toronoto, Chicago Fire a Vancouver Whitecaps.

Ar y llwyfan rhyngwladol fe enillodd 59 cap dros Gymru, gan sgorio 16 g么l.

Earnshaw ydy'r unig chwaraewr i sgorio hat-tric dros ei wlad, yn ogystal ag yn Uwch Gynghrair Lloegr, Y Bencampwriaeth, Adran Un, Adran Dau, Cwpan yr FA a Chwpan y Gynghrair.