Page yn falch i weld chwaraewyr Cymru yn newid clybiau

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Dafydd Pritchard
  • Swydd, Chwaraeon 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae rheolwr Cymru Robert Page wedi croesawu鈥檙 ffaith bod nifer o鈥檌 chwaraewyr wedi symud clybiau yn ystod ffenestr drosglwyddo mis Ionawr er mwyn chwarae鈥檔 fwy cyson.

Roedd Page wedi gofyn i aelodau blaenllaw ei garfan, nad oedd yn chwarae鈥檔 rheolaidd, i symud cyn y g锚m gynderfynol gemau ail gyfle Euro 2024 yn erbyn y Ffindir 鈥 a鈥檙 rownd derfynol bosib 鈥 ym mis Mawrth.

Symudodd yr amddiffynnwr Connor Roberts o Burnley i Leeds United, tra bod dau chwaraewr Bournemouth - yr ymosodwr Kieffer Moore a鈥檙 asgellwr David Brooks - hefyd wedi sicrhau symudiadau ar fenthyg, i Ipswich Town a Southampton.

鈥淢ae Brooksy wedi gadael Bournemouth i fynd i Southampton, sy'n gyfuniad a wnaed yn y nefoedd i Brooksy a Southampton yn fy marn i - y ffordd maen nhw'n chwarae,鈥 meddai Page.

鈥淢ae Kieffer wedi mynd allan a chael effaith ar unwaith yn Ipswich, gan sgorio dwy ar ei ymddangosiad cyntaf.

鈥淢ae wedi bod yn ffenestr bositif iawn i ni.

"Maen nhw wedi ystyried yr hyn rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud - mynd i chwarae gemau - ac mae'n debyg mai dyma'r sefyllfa iachaf rydyn ni wedi bod ynddo o ran chwaraewyr yn chwarae p锚l-droed domestig cyn ymuno 芒鈥檙 garfan.

鈥淵r hyn sydd ei angen arnom nawr yw sicrhau eu bod yn cadw鈥檔 heini ac ar gael i鈥檞 dewis erbyn mis Mawrth.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Symudodd David Brooks ar fenthyg i Southampton ddiwedd mis Ionawr

Roedd Page yn siarad ym Mharis nos Iau yn wedi i'r enwau gael eu tynnu o鈥檙 het ar gyfer grwpiau Cynghrair y Cenhedloedd eleni.

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr I芒, Montenegro a Thwrci yng Nghynghrair B, yr ail haen, ar 么l disgyn o'r brif haen yn 2022.

"Rwy'n meddwl ei fod yn gr诺p positif. Ni鈥檔 eithaf bodlon," meddai Page.

"Ni鈥檔 gwybod popeth am Dwrci ar 么l eu chwarae yn ddiweddar.

"Roeddwn i'n meddwl bod ein perfformiad gartref [1-1 ym mis Tachwedd 2023] yn dda iawn ac, ar ddiwrnod arall, gallem fod wedi ennill y g锚m.

"Oddi cartref fe aethon ni i lawr i 10 dyn ar 么l 40 munud a, heb hynny, byddai'r canlyniad [colli 2-0 ym Mehefin 2023] wedi bod yn wahanol. Felly rydyn ni'n gwybod popeth amdanyn nhw.

鈥淥 ran y timau eraill, bydd yn rhaid i ni wneud ychydig mwy o waith ymchwil.

"Os ydyn ni'n perfformio fel wnaethon ni yn erbyn Croatia [buddugoliaeth o 2-1 ym mis Hydref 2023] a Thwrci gartref, fe ddylai'r canlyniadau ofalu am eu hunain. Rydyn ni'n eitha' hyderus."