麻豆官网首页入口

Gatland 芒 'chefnogaeth lawn' Undeb Rygbi Cymru

Warren Gatland yn croesi ei freichiauFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gatland wedi wynebu pwysau cynyddol wedi i'r t卯m ddisgyn i'w safle isaf erioed yn netholion y byd

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi dweud fod gan Warren Gatland 鈥渆in cefnogaeth lawn鈥.

Mae t卯m cenedlaethol y dynion wedi profi blwyddyn galed, gan ddisgyn i鈥檙 11eg safle yn netholion y byd - ei safle isaf erioed.

Daeth Cymru yn olaf yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf mewn 21 o flynyddoedd, ac fe gollon nhw'r ddwy g锚m i Awstralia ar daith yr haf.

Fe lwyddon nhw i drechu clwb Queensland Reds ar y daith honno mewn g锚m di-gap, ond o drwch blewyn oedd hynny.

'Rhan o'r cynllun'

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Camodd Cory Hill Hill yn 么l o鈥檙 g锚m yn erbyn y Queensland Reds o ganlyniad i 鈥渞esymau personol鈥

Er y canlyniadau siomedig yn 2024, mae cadeirydd URC Richard Collier-Keywood yn pwysleisio fod y gwaith adeiladu sy鈥檔 cael ei wneud eleni i gyd yn 鈥渞han o鈥檙 cynllun鈥.

鈥淒wi鈥檔 Gymro balch fy hun a dwi ddim yn hoff o鈥檙 ffaith ein bod ni wedi colli鈥檙 naw g锚m brawf ddiwethaf, ond mae鈥檙 pwyslais ar ailadeiladu,鈥 meddai.

鈥淩ydyn ni wedi gofyn i Warren i gael amcan penodol mewn golwg wrth i ni nes谩u at y Cwpan y Byd nesaf.

"Dyw ein trywydd ni ddim wedi bod yn ddelfrydol, felly mae e wedi cymryd y cyfle dros y Chwe Gwlad a chyfres yr haf i weld rhai chwaraewyr newydd.

鈥淥s edrychwch chi ar y perfformiadau hyd yn hyn, gallwch chi weld fod rhai o鈥檙 chwaraewyr wedi profi eu hunain yn dda iawn.

鈥淢ae hyn yn rhan o鈥檙 cynllun dy鈥檔 ni wedi gofyn iddo fe weithredu ac mae'n bwrw 'mlaen gyda鈥檙 hyn sydd angen gwneud, ac wrth gwrs dy鈥檔 ni鈥檔 mynd i鈥檞 gefnogi fe.鈥

'Mae'n mynd i weithio'

Roedd Gatland yn destun rhagor o feirniadaeth yn Awstralia wedi iddo enwi Cory Hill fel capten ar gyfer y g锚m yn erbyn Queensland Reds.

Yn 2021 cafodd Hill ei enwi fel rhan o griw a achosodd ddifrod i d欧 menyw, ond ni wynebodd unrhyw gosb gyfreithiol.

Yn y pendraw, penderfynodd Hill i dynnu n么l o鈥檙 g锚m ychydig oriau ynghynt o ganlyniad i 鈥渞esymau personol鈥, ac wedi'r g锚m fe gyfaddefodd Gatland ei fod wedi gwneud camgymeriad.

Ond, mynnodd Collier-Keywood fod URC yn parhau i roi cefnogaeth lawn i Gatland.

鈥淔y ngobaith yw ein bod ni ddim yn mynd i barhau i golli,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 amlwg nad ydym ni鈥檔 mynd i fynd o sefyllfa lle rydym ni鈥檔 colli bob g锚m brawf rhwng nawr a 2027 ac yna cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

"Os mae鈥檙 strategaeth yn mynd i weithio. Yn amlwg fe ddylen ni weld mwy o ennill dros y cyfnod nesaf, ac mae gan Warren ein cefnogaeth lawn.鈥