麻豆官网首页入口

Diffyg golau stryd yn atal menywod rhag rhedeg

Dynes yn rhedegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l arolwg gan This Girl Can, mae 44% o ferched yn teimlo鈥檔 anniogel yn rhedeg tu allan yn ystod y gaeaf

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyrwraig o Gaerdydd wedi dweud nad yw hi'n teimlo'n ddiogel yn ymarfer corff yn yr awyr agored yn ystod nosweithiau'r gaeaf.

鈥淢ae鈥檔 drist a frustrating fy mod i fel dynes ifanc yn teimlo鈥檔 anniogel yn gwneud gweithgaredd dwi鈥檔 mwynhau," meddai Neev Kacker, 19.

Mae arolwg wedi awgrymu bod canran sylweddol o fenywod yn rhoi鈥檙 gorau i ymarfer corff yn ystod adeg yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae 'na alw am fwy o oleuadau stryd, ond mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod wedi buddsoddi i oleuo sawl lleoliad yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf.

Diffyg golau yn atal ymarfer corff?

Gyda'r haul yn gwawrio'n hwyrach a machlud yn gynharach, prin yw'r amser i ymarfer corff yng ngolau dydd yn y gaeaf i'r rheiny sy'n gweithio oriau arferol.

Mae arolwg gan Sports Direct wedi awgrymu fod 56% o fenywod yn rhoi stop ar ymarfer corff yn gyfan gwbl yn ystod y gaeaf, am resymau amrywiol.

Fe wnaeth 71% o atebwyr nodi eu bod yn cael trafferth dod o hyd i lwybrau rhedeg sydd 芒 digon o oleuadau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Neev Kacker yn dweud fod diffyg goleuadau stryd yn ei hatal hi rhag rhedeg

Mae Neev Kacker yn ceisio rhedeg tua dwy neu dair gwaith yr wythnos, ond mae ei harferion ymarfer corff yn newid yn ystod y gaeaf.

鈥淒wi鈥檔 hoffi mynd i redeg gyda鈥檙 nos, ond gan ei bod hi鈥檔 tywyllu鈥檔 gynt, dwi methu," meddai.

Yn 么l Neev, sy'n wreiddiol o Sheffield, nid yw rhai o barciau mwyaf Caerdydd wedi eu goleuo'n addas.

鈥淣id yw'r Rhath na Pharc Bute wedi eu goleuo o gwbl," meddai.

"Dwi鈥檔 gorfod defnyddio torch fy ff么n i weld lle dwi鈥檔 mynd. Dwi methu coelio fod dim goleuadau wedi cael eu gosod eto.

鈥淩ydym yn cael ein hybu i fod yn iach ac i fagu arferion da, ond pan mae鈥檆h diogelwch yn cael ei fygwth, mae o鈥檔 rheswm mawr i beidio mynd i redeg."

'Ddim yn deimlad neis'

Fe wnaeth arolwg arall gan This Girl Can ddarganfod bod 44% o ferched yn teimlo鈥檔 anniogel yn rhedeg tu allan yn ystod y gaeaf.

Fel Neev, mae 46% o ferched yn newid eu harferion ymarfer corff tu allan oherwydd ei bod hi'n tywyllu鈥檔 gynt.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Beatrice Roberts yn rhoi'r gorau i redeg ar ei phen ei hun yn y gaeaf

Mae Beatrice Roberts yn mwynhau rhedeg llwybrau traws gwlad o amgylch ardal Radyr y brifddinas, ond mae hi'n teimlo'n "nerfus" gwneud hynny heb ei gr诺p rhedeg yn ystod y gaeaf.

Pan mae hi ar ei phen ei hun, mae hi'n newid ei harferion i redeg ar strydoedd y ddinas, sy'n oleuach, meddai.

Dywedodd: "Dwi'n gweld lot o dynion allan yn rhedeg ar ben ei hunain fel normal, ond dwi'n gweld o'n drist iawn bod merched ddim yn teimlo'n ddiogel i wneud hynny.

"Ar yr adegau prin lle dwi wedi cael fy nal allan, ac mae hi wedi tywyllu'n gynt na'r disgwyl, dydy o ddim yn deimlad neis."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Myfanwy Thomas (dde) yn un o arweinwyr clwb Mae Hi'n Rhedeg: Caerdydd

Yn hytrach na rhedeg ar ben eu hunain, mae rhai menywod yn troi at grwpiau redeg er mwyn ymarfer corff gyda chwmni.

Mae gan glwb Mae Hi鈥檔 Rhedeg: Caerdydd dros 2,500 o aelodau ar Facebook, ac yn trefnu grwpiau rhedeg i ferched yn unig sawl gwaith yr wythnos.

Roedd Myfanwy Thomas yn un o鈥檙 menywod a sefydlodd y clwb yn Medi 2019.

Erbyn hyn, mae hi wedi hyfforddi fel arweinydd rhedeg ac yn cefnogi rhedwyr o bob gallu.

"Roedden ni eisiau rhannu ein cariad at redeg gyda menywod eraill, ac yn teimlo bod hi'n bwysig creu lle i fenywod i fagu hyder i redeg," meddai.

鈥淣i yn teimlo bod hi'n bwysig i barhau i redeg yn y nosweithiau tywyll dros y gaeaf, achos dyna pryd mae menywod yn fwy tebygol o eisiau cwmni i barhau gyda'u hyfforddi.鈥

Dywedodd Myfanwy fod nifer o lwybrau yng Nghaerdydd wedi eu goleuo, ond bod llwybrau fel Taith Taf yn gallu bod yn 鈥渆ithaf tywyll鈥, a bod y gr诺p yn credu fod angen mwy o oleuadau.

鈥淢ewn ambell barc sy'n agosach i'r strydoedd, fel Caeau Llandaf, byddai'n braf os allen nhw wella'r goleuadau - mae'n gallu bod eitha' spooky yna yn y nos.鈥

Nid yw Myfanwy ei hun yn teimlo鈥檔 nerfus am redeg gyda鈥檙 nos, ond mae hi'n 鈥済wybod fy mod i yn y lleiafrif鈥.

Caerdydd 'ymysg y dinasoedd mwyaf diogel'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei bod yn bwysig cofio fod y brifddinas "ymysg y dinasoedd mwyaf diogel yn y DU".

"Tra bod y cyngor yn cau rhai o鈥檌 pharciau yn y nos, mae鈥檙 rhai sy'n parhau ar agor yn gwneud hynny ar 么l trafodaethau gyda thrigolion lleol sydd eisiau mynediad," meddai.

"Mae goleuadau yn ein parciau yn y nos yn gorfod ystyried bywyd gwyllt. Gall goleuadau artiffisial niweidio bywyd gwyll mewn sawl ffordd."

Ond ychwanegodd fod goleuadau wedi cael eu gosod neu eu gwella mewn sawl parc a llwybr dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod camer芒u CCTV wedi'u gosod ym Mharc Bute.