麻豆官网首页入口

Geraint Jones: O'r Parc Cenedlaethol i'r Eisteddfod Genedlaethol

Geraint yn dosbarthu baraFfynhonnell y llun, Geraint Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ers ymddeol mae Geraint yn dosbarthu bara ar ran cwmni Crwst

  • Cyhoeddwyd

鈥淗elpu pobl yw鈥檙 peth pwysicaf i mi, nid oes gen i unrhyw ddiddordeb mynd i baffio 鈥榙a neb.鈥

Dyna eiriau Geraint Jones o Bontyglasier, Sir Benfro.

Fel arfer ar 么l ymddeol mae pobl yn arafu i lawr ychydig, ond mae'n well gan Geraint gadw鈥檔 brysur.

Ers ymddeol o鈥檌 waith gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Geraint yn gweithio fel swyddog diogelwch, ond nid yw鈥檔 or-hoff o鈥檙 gair 鈥榖ownser鈥.

Mae o hefyd yn gweithio i fecws lleol yn Aberteifi yn ystod y dydd ac yn arolygwr drysau yn y nos ac ar benwythnosau.

Mae鈥檔 byw bywyd i'r funud yn dilyn cyfnod o salwch difrifol yn 2020; ar 么l goroesi hynny, mae鈥檔 benderfynol o wneud y mwyaf o fywyd gyda鈥檌 ddiddordebau a鈥檌 fywyd.

'Cadw鈥檙 ddysgl yn wastad'

Dechreuodd Geraint weithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro n么l yn 1980.

鈥淧arcmon o鈥檔 i i ddechrau, warden yn y b么n yn gyfrifol dros adran ogleddol y parc rhwng Llandudoch, Abergwaun, Cwm Gwaun a mynyddoedd y Preseli," meddai.

Ar 么l rhyw dair blynedd cafodd swydd Swyddog Cyswllt Amaeth ei greu.

"Roeddwn yn gwybod yn syth wedyn mai dyna鈥檙 swydd i mi, a bues i鈥檔 gwneud y swydd honno nes i mi ymddeol yn 2020," meddai.

"Cadw鈥檙 ddysgl yn wastad rhwng y gymuned amaethyddol a鈥檙 gymuned gadwriaethol o'n i yn y b么n ac roeddwn wrth fy modd yn gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun, Geraint Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint yn gweithio ger Abergwaun i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn torri gwair afreolus tua'r flwyddyn 2000

Un o brif ddiddordebau Geraint y tu allan i'r gwaith oedd cerddoriaeth fyw.

Roedd yn arfer bod yn aelod o鈥檙 band Rocyn, yn canu ac yn chwarae鈥檙 git芒r ac roedd yn gyfaill agos iawn i'r diweddar Richard ac Wyn Jones o Ail Symudiad.

Gwelodd gyfle i allu mynd i gyngherddau a gwyliau i fwynhau cerddoriaeth fyw a chael ychwaneg o arian am wneud hynny hefyd drwy gwblhau ei gymwysterau diogelwch.

鈥淒wi wrth fy modd gyda cherddoriaeth byw a mynd i gyngherddau ac mae cael bod yn swyddog diogelwch yn y gwyliau a鈥檙 cyngherddau yma鈥檔 wych.

"Dwi鈥檔 cael gwylio鈥檙 bandiau a sicrhau fod pobl eraill yn cael mwynhau'r bandiau yn ddiogel hefyd.鈥 meddai.

Yn 么l Geraint cafodd y cyfnod clo effaith mawr ar wyliau a chyngherddau cerddorol, ond mae'n falch nawr o allu helpu mewn rhai o鈥檙 gwyliau mawr sy'n dechrau ffynnu eto.

"Dwi wedi bod yn lwcus iawn yn cael gweithio mewn gwyliau fel Tafwyl a gigs eraill yn ne Cymru a gweld bandiau ardderchog," meddai.

"O ran gweithio fel arolygydd drysau, does gen i ddim diddordeb ymladd gyda neb dim ond ceisio rhesymu.

"Dwi鈥檔 gwneud y gwaith yma nawr ers sawl blwyddyn a dwi鈥檔 credu mai dim ond un waith dwi wedi cael fy mwrw i鈥檙 llawr a hynny mewn g诺yl ger Tyddewi, ond doedd dim modd rhesymu gyda鈥檙 bachan yna.

鈥淢ae siarad gyda phobl yn rhesymol ac yn gymedrol yn rhan o鈥檙 swydd a dyna鈥檙 ffordd o gael pobl i weld synnwyr weithiau cyn i bethau fynd rhy bell."

Cyfnod o salwch

Daeth cyfnod ansicr ym mywyd Geraint n么l yn 2020. Ychydig fisoedd cyn dyddiad ei ymddeoliad, cafodd ei daro鈥檔 ddifrifol wael.

Wrth edrych n么l dros y cyfnod hwn, mae Geraint yn ystyried ei hun yn eithriadol o lwcus ei fod dal yma.

Mae'n diolch pob dydd am wybodaeth drylwyr un meddyg ifanc dan hyfforddiant wnaeth syfrdanu'r doctoriaid profiadol yn Ysbyty Hwlffordd gyda'i diagnosis.

"Doeddwn i ddim wedi bod yn teimlo fel fi fy hun ers sbel," eglurodd.

"Doeddwn methu siarad, gweld na sefyll, roeddwn yn si诺r fy mod wedi cael str么c.

鈥淓rbyn cyrraedd yr ysbyty ac ar 么l cael profion di-ri, daeth cadarnhad gan y doctoriaid nad str么c oedd e, ond doedden nhw methu deall beth oedd y cyflwr."

Cafodd ddiagnosis o鈥檙 cyflwr Miller-Fisher Syndrome sy鈥檔 effeithio ar y cyhyrau, gyda'r system awto-imiwnedd yn troi ar y corff, a hynny gan fod un doctor penodol yn digwydd bod yn sefyll ar bwys ei wely.

鈥淒wi'n ei chofio hi'n iawn. Roedd hi'n sefyll gyda chriw o ddoctoriaid profiadol oedd yn ceisio gweithio mas beth oedd yn bod gyda fi.

"Sefyll yn y cefndir yn arsylwi oedd hi, a'r peth nesaf dyma hi'n dweud ei bod hi'n credu mai Syndrom Miller-Fisher oedd arna i.

"Roedd hyd yn oed y doctoriaid profiadol wedi鈥檜 syfrdanu, ond wedi rhagor o brofion, a galwad ff么n i uned arbenigol yn Nhreforys, roedd hi鈥檔 llygaid ei lle."

Bryd hynny roedd cyflwr Geraint yn gwaethygu ac mae'n grediniol y gallai ei sefyllfa fod wedi bod llawer gwaeth os nad oedd y meddyg ifanc honno yn gweithio'r diwrnod hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Geraint Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Geraint yn gweithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol fel swyddog diogelwch, gyda'i 诺yr Morgan

Ar 么l derbyn y driniaeth gywir daeth Geraint yn 么l at ei hun a dechrau mwynhau bywyd eto.

Roedd wedi ymddeol o'r Parc erbyn hyn ac yn chwilio am waith i'w gadw'n brysur yn ystod y dydd.

Gwelodd hysbyseb i ddosbarthu bara ar ran busnes becws newydd yn Aberteifi.

Nawr mae'n gweithio i gwmni Crwst ac yn dosbarthu nwyddau ar draws y sir ac yn mwynhau bod allan unwaith eto yn gyrru o amgylch sir mae'n ei adnabod mor dda.

O ran y gwaith diogelwch mae'n parhau i weithio mewn gwyliau cerddorol ac yn gweld bandiau enwog a rhai llai adnabyddus.

"Dyna sy'n gr锚t am y gwaith hwn, dwi'n cael amrywiaeth o fandiau.

"Nes i weithio yn Neuadd y Frenhines Arberth un flwyddyn a gweld band o'r Alban o'r enw The Haggis Horns. Roedden nhw'n arbennig," meddai.

Yn ogystal 芒'r gigs cerddorol, mae hefyd yn mwynhau gweithio mewn ralis Ffermwyr Ifanc ac yn benodol yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae'r cwmni dwi'n gweithio iddyn nhw gyda chytundeb 'da'r Eisteddfod a dwi'n joio cael bod yno yn cwrdd 芒 phobl a'u helpu nhw mas os oes raid."

Bwriad Geraint at y dyfodol yw byw bywyd i'r funud a mwynhau'r holl brofiadau mae'n eu cael drwy ddosbarthu bara a chael bod yn swyddog diogelwch.

Yn barod mae ganddo un llygad ar fis Awst 2026. Dyna pryd bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld 芒 Sir Benfro ac mae'n edrych ymlaen at gael rhoi'r siaced oren lachar ymlaen eto yn ei fro enedigol.