Ateb y Galw: Rhian Cadwaladr

Ffynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch

Disgrifiad o'r llun, Gwaddol fydd pumed nofel Rhian Cadwaladr

Mae Rhian Cadwaladr yn adnabyddus am ei nofelau ac hefyd am ei ryseitiau blasus sydd wedi'u cyhoeddi mewn sawl llyfr coginio.

Mae'r awdur o Rosgadfan ger Caernarfon ar fin cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf ar ddiwedd Mehefin o'r enw Gwaddol.

Nofel yw hi am heneiddio, am deulu, am gariad a galar.

Cyn i'r nofel gael ei chyhoeddi, dyma ddod i adnabod Rhian Cadwaladr ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Clywed s诺n c芒n y fan hufen i芒 yn y t欧 lle o'n i'n byw tan o'n i'n dair a hanner.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy ngardd yn Rhosgadfan yn edrych lawr ar Gastell Caernarfon a draw dros Ynys M么n.

Mae'n olygfa sydd dal i gymryd fy ngwynt er mod i yma ers 36 o flynyddoedd - ac mae'r awyr yn anferth ac yn wahanol bob dydd.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r olygfa o Ynys M么n o ardd gefn Rhian yn Rhosgadfan

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae erioed yn amser hir!

Dwi wedi cael amryw noson gofiadwy ond does dim un yn sefyll allan. Gobeithio bod yr orau eto i ddod!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Creadigol, diamynedd, siaradus.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Parti Dolig yn fy ngardd efo tair o fy ffrindiau hynaf yn 2020 adeg Covid, pan oedda ni ddim yn cael mynd i'r t欧 - pawb wedi lapio fel nionod ac yn dawnsio dan y s锚r a jest yn falch o gael cwmni'n gilydd unwaith eto.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Disgrifiad o'r llun, Y parti Dolig n么l yn 2020 sydd yn gwneud i Rhian wenu

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gollwng platiad o chips, b卯ns a 诺y ar lin cwsmar pan o'n i'n waitress ifanc tair ar ddeg oed, yng nghaffi fy mam.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Wrth wylio rhagen drist ar y teledu ddoe, dwi'n cr茂o'n hawdd.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes - siarad ar draws pan dwi yn sgwrsio am rhywbeth sy'n golygu lot i mi, sori pawb dwi'n tr茂o peidio!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Gwallt coch oedd gen i pan o'n i'n ifanc.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwladr

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r dystiolaeth, gwallt coch oedd gan Rhian pan oedd hi'n iau

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfr sgrap llawn rysetiau sydd gen i ers o'n i'n ddeuddeg oed - cychwyn taith oes o arbrofi yn y gegin.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Mi faswn i'n licio cyfarfod fy nain fuo farw cyn i mi gael fy ngeni, dwi'n gwybod fawr dim amdani ond roedd ganddi enw gwych - Beneth Maglona.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Tr茂o cael fy nheulu yngyd a deud wrthyn nhw gymaint dwi'n eu caru a pa mor falch dwi ohonyn nhw.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Tydw i ddim yn un i roi lluniau'r teulu hyd y t欧 ond mae gen i un mewn ffr芒m wrth fy nesg - fy nhad efo fy mhlant pan oedda nhw'n fach.

Dwi wedi colli dad ers 2001 a dwi dal yn hiraethu amdano, ac am y plantos bach yn y llun.

Ffynhonnell y llun, Rhian Cadwaladr

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r llun sydd wrth ddesg Rhian, ei diweddar thad gyda'i phlant.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Comisiynydd drama S4C er mwyn comisiynu troi un o fy nofelau i yn ffilm!