麻豆官网首页入口

Cartref gofal i fod yn nwylo cyngor wedi trafferthion

Hafan y Waun
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Ceredigion yn bwriadu cymryd perchnogaeth o gartref gofal yn Aberystwyth, ar 么l i'w berchnogion presennol ddweud eu bod yn cael trafferthion ariannol a'u bod yn ystyried ei werthu.

Ym mis Mai, dywedodd Methodist Homes for the Aged (MHA) eu bod yn chwilio am berchnogion newydd ar gyfer 10 o'u cartrefi gofal gan gynnwys Hafan y Waun - mae鈥檙 naw arall yn Lloegr.

Yn 么l datganiad gan brif weithredwr MHA, Sam Monaghan, daeth y penderfyniad yn dilyn 鈥渁dolygiad yn edrych ar gynaliadwyedd hirdymor ein holl wasanaethau鈥.

Bydd adroddiad gan y Cynghorydd Alun Williams 鈥 sydd 芒 gwasanaethau gofal yn rhan o鈥檌 bortffolio 鈥 yn cael ei ystyried gan Gabinet Ceredigion yr wythnos nesaf.

Gwelyau gwag

Mae'r adroddiad yn dweud fod yr 鈥渙psiwn o ddod 芒鈥檙 ddarpariaeth drosodd i berchnogaeth y Cyngor trwy drosglwyddo鈥檙 llesddaliad... wedi dechrau cael ei archwilio".

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai hyn yn 鈥渟icrhau bod y cartref gofal yn parhau i weithredu, bod swyddi Ceredigion yn cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd, a bod adnodd gwerthfawr yn parhau i fod ar gael i鈥檙 sir a鈥檔 cymunedau".

Mae hefyd yn dweud y byddai mynd 芒鈥檙 cartref i berchnogaeth y cyngor 鈥測n rhoi sicrwydd i鈥檙 trigolion presennol a鈥檜 teuluoedd ac yn atal y cynnwrf sylweddol o... osod dros 50 o unigolion mewn cartrefi gofal newydd".

Ychwanegodd y Cynghorydd Williams na fyddai "unrhyw darfu ar y gofal" i breswylwyr.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Bryan Davies, nad yw Hafan y Waun yn cael ei ddefnyddio i鈥檞 lawn botensial ar hyn o bryd, ac felly bod posib ceisio cynyddu nifer y staff a phreswylwyr sydd yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae adroddiad y Cynghorydd Alun Williams yn dweud bod angen dod 芒'r cartref dan berchnogaeth y cyngor er mwyn osgoi tarfu ar y preswylwyr sydd yno

鈥淢ae lawr i tua 50% yn wag ar hyn o bryd," meddai'r Cynghorydd Davies.

"Ma' 90 o welyau i gael yma, a鈥檙 cwbl yn en-suite. Y gobaith yw bod ni鈥檔 cynyddu y bobl sy鈥檔 gallu dod 'ma i sefyll.

鈥淢ae rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am edrych ar 么l trigolion Ceredigion, pobl fregus yn aml, a fi鈥檔 credu... bod ni鈥檔 gallu rhoi stamp ein hunain ar y cynllun."

Colledion ariannol

Agorodd Hafan y Waun yn 2007 i ddarparu gofal seibiant a gofal i breswylwyr sydd 芒 dementia.

Roedd hefyd yn darparu gofal nyrsio i ddechrau, ond gostyngodd hyn yn raddol dros y blynyddoedd cyn dod i ben yn llwyr yn 2016.

Yn 么l telerau鈥檙 brydles bydd yr adeilad a鈥檙 gwasanaethau y mae鈥檔 eu darparu yn trosglwyddo i Gyngor Ceredigion heb unrhyw gost i鈥檙 cyngor erbyn mis Medi eleni.

Mae'r cyngor yn credu y gallai Hafan y Waun gynnig cyfle ar gyfer "prosiectau arloesol trwy gydweithio gyda phartneriaid", gan gynnwys darpariaeth cam-i-lawr posibl ar gyfer Ysbyty Bronglais.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Hafan y Waun, sydd wedi ei leoli yn ardal Waunfawr yn Aberystwyth, ei agor yn 2007

Ond mae adroddiad y cabinet yn nodi bod MHA am drosglwyddo perchnogaeth y cartref oherwydd ei fod yn gwneud colledion ariannol.

Mae鈥檙 cyngor yn dweud y dylid ystyried clustnodi cyllid refeniw o 拢1m ar gyfer y cyfnod trosiannol.

Ond maen nhw hefyd wedi rhybuddio bod risg y gallai鈥檙 colledion ariannol barhau pan ddaw鈥檙 cartref dan reolaeth y cyngor.

鈥淥s na fydd opsiynau arloesol yn cael eu datblygu yn y dyfodol (a bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn yr un ffordd yn union) yna ni fydd yn gynaliadwy yn ariannol," meddai'r adroddiad.

Cydweithio 芒'r bwrdd iechyd

Y brif her, meddai'r cyngor, fyddai "cynnal lefelau staffio digonol", a dyna oedd y rheswm pam fod gan MHA wedi cyfyngu nifer y preswylwyr i ychydig dros 50.

"Ni yn cydweithio gyda phartneriaid agos, mae鈥檙 brifysgol gyda ni yn Aberystwyth sydd yn edrych i gynnal cyrsiau falle yn y sector gofal," meddai'r Cynghorydd Davies.

"Felly y gobaith yw bod ni yn gallu magu a thyfu staff ac arbenigedd ein hunain o fewn y sir.鈥

Ers nifer o flynyddoedd, mae pobl o Geredigion sydd 芒 dementia mwy difrifol wedi gorfod mynd am ofal i gartrefi mewn rhannau eraill o Gymru, oherwydd diffyg darpariaeth o fewn y sir.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn gobeithio gallu darparu'r gwasanaeth hwn yn Hafan y Waun yn y dyfodol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Bryan Davies fod angen ceisio cynyddu nifer y preswylwyr - ond bod hefyd angen cael gwell rheolaeth ariannol ar y cyfleuster

"Mae sefyllfa pawb yn wahanol, falle bod perthnase pobl yn byw tu allan i鈥檙 sir hefyd," meddai Mr Davies.

"Felly yn naturiol maen nhw ishe anwyliaid i fod ar bwys nhw. Gobeithio gallwn ni gynnig y gwasanaeth yma iddyn nhw a chael nhw 'n么l i Geredigion.鈥

Cafodd y cyhoeddiad ei groesawu gan Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, a ddywedodd bod rhaid "sicrhau bod y gwelyau gwag yn cael eu defnyddio".

"Fy ngobaith i yw y bydd y cyngor sir nawr yn gallu mynd ati i lenwi y gwelyau hynny drwy adleoli rhai pobl sydd wedi cael gofal tu allan i Geredigion oherwydd y prinder hyn," meddai.

Ychwanegodd Elin Jones, cynrychiolydd y sir yn Senedd Cymru, ei bod yn gobeithio y bydd y cyngor yn gallu cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

"[Mae angen] edrych ar sut mae modd defnyddio鈥檙 adeilad yn ei gapasiti llawn i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau," meddai.